Datganiad i'r wasg

‘Mae Gogledd Cymru yn gartref i rai o bobl fusnes mwyaf arloesol Cymru’, meddai Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones

Mae Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones, wedi canmol y rhan mae busnesau yng Ngogledd Cymru yn ei chwarae o ran ehangu er mwyn cyrraedd marchnadoedd…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones, wedi canmol y rhan mae busnesau yng Ngogledd Cymru yn ei chwarae o ran ehangu er mwyn cyrraedd marchnadoedd y tu hwnt i’r rhanbarth. 

Roedd Mr Jones yn Llanelwy a Chaergybi heddiw [29ain Mehefin] yn gweld sut mae cwmniau yn cyfrannu at yr ymdrech i gryfhau’r economi. 

I ddechrau, ymwelodd y Gweinidog a TRB Ltd er mwyn cyfarfod a chynrychiolwyr o’r cwmni, sy’n un o is-gwmniau’r grŵp ‘Tokai Rika’ o Japan, ac sydd wedi bod yn gweithredu o Lanelwy ers 12 mlynedd.   

Croesawyd Mr Jones gan y Rheolwr Gyfarwyddwr, Annesley Wright a Rheolwr Cyllid ac Ysgrifennydd y Cwmni, Naoki Oda cyn iddynt ei dywys o amgylch y warws a’r ardaloedd cynhyrchu.     

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r cwmni wedi buddsoddi’n sylweddol yn natblygiad personol ei staff sydd wedi cael y cyfle i uwchsgilio ac i ennill profiad ym maes Peirianneg Fodurol, Rheoli Cadwyn Gyflenwi, Rheoli a Sicrhau Ansawdd a Chyfrifyddu Rheoli.  Mae un o bob pump o’r staff yn Llanelwy hefyd wedi cael y cyfle i gymryd rhan mewn rhaglen hyfforddi gan y cwmni lle maent yn treulio rhwng wythnos a thri mis yn Japan.        

Aeth y Gweinidog ymlaen i weld Iard Gychod Caergybi Cyf, un o gwmniau Investec 100 sydd wedi arallgyfeirio a thyfu’n sylweddol ers ei sefydlu yn 1962.   

Mae’r cwmni, gyda Mark Meade yn Rheolwr Gyfarwyddwr arno, wedi tyfu o fod yn fusnes teuluol bychan i fod yn fenter fasnachol fyd-eang, gyda phedwar cwmni gweithredol yn rhan o’r grŵp cyfredol.     

Cyflwynwyd Mr Jones i staff Holyhead Towing sydd wedi ehangu i gynnig cymorth peirianneg forol sifil, yn ogystal a Gwasanaethau Morol Caergybi, sydd wedi ehangu’r amrywiaeth o waith atgyweirio maent yn ei wneud i gleientiaid mawr megis y Weinyddiaeth Amddiffyn.  Croesawyd y Gweinidog gan y Cyfarwyddwr Gweithrediadau, James Burns, a’i tywysodd ar daith o amgylch safle’r marina lle cafodd gyfle i gwrdd a staff sydd wedi helpu i wneud y cwmni’n llwyddiant.        

**Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones: **

“Mae TRB ac Iard Gychod Caergybi Cyf yn enghreifftiau gwych o gwmniau yng Ngogledd Cymru sy’n anelu’n uchel ac yn ehangu er mwyn cynnal busnes ar raddfa ryngwladol.  Mae’n hollbwysig bod cwmniau Cymru yn meddwl ar raddfa fyd-eang, nid yn unig er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf posibl o ran eu busnes eu hunain, ond hefyd o ran y gweithlu a’r economi leol.  Mae maint y buddsoddiad yn y ddau gwmni wedi gwneud argraff arnaf ac mae’n amlwg eu bod yn gwerthfawrogi’r gweithlu lleol.     

“Mae gennym y fantais o weithlu medrus, cefnogaeth gan ddwy lywodraeth a gwybodaeth a sgiliau arbenigol mewn amrywiaeth eang o sectorau yng Nghymru.  Yng Ngogledd Cymru’n arbennig ar hyn o bryd ceir rhai o bobl fusnes mwyaf arloesol Cymru. Mae’r cwmniau rydw i wedi’u gweld heddiw yn helpu i sicrhau bod Cymru gyfan yn cael ei hystyried yn lle gwych i fuddsoddi a chynnal busnes. Dymunaf lwyddiant parhaus iddynt yn y dyfodol.”

**Meddai Annesley Wright, Rheolwr Gyfarwyddwr TRB Ltd: **

“Mae TRB wedi bod yng Ngogledd Cymru ers 12 mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw rydym wedi buddsoddi’n sylweddol yn y diwydiant modurol;  lle bo modd rydym wedi defnyddio gwneuthurwyr offer a chyfarpar lleol i sicrhau bod ein buddsoddiad cyfalaf, sydd dros 5 miliwn o bunnoedd, wedi ein helpu i gyflawni disgwyliadau ein cwsmeriaid.  Rydym yn cydweithio’n agos a cholegau lleol a Gyrfa Cymru ac yn buddsoddi’n helaeth mewn datblygiad personol er mwyn i’n staff ennill amrediad o sgiliau a chymwysterau proffesiynol.     

” A ninnau’n gwmni o Japan, mae’r cymorth rydym wedi’i gael gan y Llywodraeth ar lefel leol ac ar lefel genedlaethol, er mwyn hwyluso buddsoddi yng Ngogledd Cymru wedi bod yn rhywbeth i’w groesawu.  Gan fod ein gweithwyr yn dod yn bennaf o’r ardal leol, rydym yn cyfrannu at gynyddu Cynnyrch Mewnwladol Crynswth y rhanbarth, ac yn frwd ein cefnogaeth i gyflenwyr nwyddau a gwasanaethau lleol ar yr un pryd.  Mae ein cysylltiad ag ardal Llanelwy yn werthfawr i ni - hir y pery!” 

**Meddai James Burns, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Iard Gychod Caergybi Cyf:
**
“Gyda marchnad leol gyfyngedig, mae Iard Gychod Caergybi bob amser wedi gorfod edrych ymhellach i ffwrdd am gyfleoedd i ehangu. Mae hyn yn golygu bod y cwmni wedi bod mewn sawl lle gwahanol, gydag Ewrop, Kazakstan, y Gwlff a Gorllewin Affrica ymysg y marchnadoedd pwysig rydym yn gweithio ynddynt ar hyn o bryd.  Galluogwyd Iard Gychod Caergybi i ehangu fel y gwnaeth dros y pum mlynedd diwethaf drwy raglen fuddsoddi gwerth chwe deg miliwn o bunnoedd mewn llongau newydd.  Ac mae’r ffaith fod y cwmni wedi cychwyn ac wedi ffynnu yng Nghaergybi yn dangos y gall cwmniau yng Ngogledd Cymru gystadlu’n llwyddiannus mewn marchnadoedd cenedlaethol a rhyngwladol.”  

Nodiadau i Olygyddion

Cyhoeddwyd ar 28 June 2012