Gall busnesau Gogledd Cymru chwarae rôl allweddol wrth hybu masnach ac allforio
Heddiw, ymunodd David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, a’r Arglwydd Green, y Gweinidog dros Fasnach a Buddsoddi, ar ymweliad a Gogledd Cymru.…

Heddiw, ymunodd David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, a’r Arglwydd Green, y Gweinidog dros Fasnach a Buddsoddi, ar ymweliad a Gogledd Cymru. Cyfarfu y Gweinidogion a busnesau er mwyn amlinellu cynlluniau’r Llywodraeth i agor Prydain i fusnes, ac annog cwmniau i hybu masnach ac allforio.
Ar ol cyfarfod staff Airbus, aeth yr Arglwydd Green a Mr Jones i ymweld a labordy modern Nortel Telecoms Comtek yng Nglannau Dyfrdwy, i weld sut mae’r cwmni’n trwsio offer cyfathrebu o’r radd flaenaf._ _Mae’r cwmni hefyd yn cyfrannu at leihau’r miliynau o dunelli o E-wastraff sy’n cael ei daflu i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn.
Yn ddiweddarach, aeth Mr Jones i ymweld a Wrexham Mineral Cables, yr unig wneuthurwr Ceblau wedi’u Hinswleiddio a Mwynau yn y DU, lle bu iddo gwrdd a’r tim rheoli a chael taith dywys o amgylch y cyfleusterau, a oedd yn cynnwys arddangosiad o’r rig profi a ddefnyddir i brofi’r ceblau.
Dywedodd Mr Jones: “Mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i greu cyfleoedd busnes, fel y nodir yn strategaeth Masnach a Buddsoddi y DU ‘Prydain ar agor i fusnes’ a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Wrth i wahanol adrannau’r Llywodraeth weithio gyda’i gilydd, gallwn wireddu ein huchelgais ar gyfer sicrhau twf drwy fasnach a buddsoddi.
“Rydym yn gweithio’n galed i roi sylfaen gadarn a hirdymor i’r economi, drwy sicrhau twf cadarn yn y sector preifat. Rydym wedi cyflwyno nifer o fesurau er mwyn lleihau rheoleiddio biwrocratig a chael gwared ar y rhwystrau sy’n dal busnesau’n ol. Rydym am ddangos bod Cymru yn lle gwych ar gyfer busnesau - gall busnesau megis y rhai y gwnaethom eu gweld heddiw, sef Airbus, Comtek a Wrexham Mineral Cables, oll chwarae rol allweddol wrth ein helpu i lwyddo yn hyn o beth.”
Meddai’r Arglwydd Green: “Mae hybu masnach a buddsoddi wrth galon strategaeth y Llywodraeth ar gyfer sicrhau twf hirdymor cynaliadwy ledled y DU. Mae gan gwmniau megis Airbus a Comtek rol enfawr i’w chwarae yn yr her genedlaethol hon ac, fel yr wyf wedi’i weld heddiw, maent yn enghraifft o’r dulliau arloesol y dylid eu defnyddio ar hyd a lled y wlad.”
Nodiadau
Gellir gweld copi llawn o strategaeth ‘Prydain ar agor i fusnes’ Masnach a Buddsoddi y DU yn:
http://www.ukti.gov.uk/uktihome/aboutukti/aimsobjectives/corporatestrategy.html