Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru’n cyhoeddi’r camau nesaf gyda threfniadau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i’r dyfodol

Heddiw (12 Mawrth) cyflwynodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, Ddatganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog gerbron y Senedd yn amlinellu…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw (12 Mawrth) cyflwynodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, Ddatganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog gerbron y Senedd yn amlinellu sut mae Llywodraeth y DU yn bwriadu gyrru ymlaen gyda’r materion a bennwyd yn y Papur Gwyrdd ynglŷn a threfniadau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i’r dyfodol.

Roedd yr ymgynghoriad, a gynhaliwyd y llynedd, yn ceisio barn pobl ynglŷn a phedwar mater. Heddiw, cadarnhaodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru y bydd Llywodraeth y DU yn gweithredu tri o’r pedwar cynnig y bu’n ymgynghori yn eu cylch. Y rhain yw: 

  • Bydd y Cynulliad yn symud yn barhaol o dymhorau pedair blynedd i dymhorau pum mlynedd;
  • Er mwyn osgoi effaith anghyfartal ar bleidiau gwleidyddol llai, rhoir terfyn ar y gwaharddiad ar ymgeiswyr yn etholiadau’r Cynulliad i sefyll mewn etholaeth a rhanbarth yr un pryd; a
  • gwaherddir Aelodau Cynulliad rhag bod yn ASau yr un pryd. 

O ganlyniad i Ddeddf Cofrestru Etholiadol a Gweinyddu Etholiadol 2013, bydd pedwar Comisiwn Ffiniau’r DU yn cyflwyno adroddiad yn 2018 ynglŷn a’u ar eu hargymhellion ar gyfer etholaethau seneddol newydd. O’r herwydd, nid yw’r Llywodraeth yn bwriadu parhau a’r newidiadau i etholaethau’r Cynulliad a gynigiwyd yn y Papur Gwyrdd. 

Dywedodd Mr Jones:

“Y sialensiau economaidd a chymdeithasol sy’n wynebu’r wlad ar hyn o bryd sydd flaenllaw yn meddwl y Llywodraeth hon, ac iawn hynny. Fodd bynnag, nid yw hynny’n golygu y gallwn anwybyddu’r mater pwysig o gynnal ein systemau gwleidyddol.

“Ers dod i rym yn 2010, gweithiodd y Llywodraeth i wneud ein system wleidyddol yn decach ac yn fwy tryloyw. Rhoddodd yr ymgynghoriad hwn gyfle i bobl Cymru fynegi eu barn ynglŷn a datblygiadau posib i’r systemau sydd ar waith yng Nghymru, ac rwy’n croesawu’r cyfraniadau a wnaed.

“Bydd y newidiadau hyn yn galluogi i ni gryfhau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymhellach, a bydd y Llywodraeth yn cyflwyno deddfwriaeth i weithredu’r newidiadau hyn cyn gynted ag y bo modd.” 

Ceir copi o Ddatganiad Ysgrifenedig y Gweinidog yma:

Datganiad Ysgrifenedig - Tŷ’r Cyffredin 12 Mawrth 2013

Datganiad Ysgrifenedig - Tŷ’r Arglwyddi 12 Mawrth 2013

Ceir copi o’r Papur Gwyrdd yma:

http://www.walesoffice.gov.uk/files/2012/06/Green-Paper-on-Electoral-Reform-8.pdf

 
Ceir Crynodeb o Ymatebion i’r ymgynghoriad yma:

http://www.walesoffice.gov.uk/files/2012/06/Summary-of-responses2.pdf

Cyhoeddwyd ar 12 March 2013