Cyfeiriad post newydd ar gyfer ceisiadau a gohebiaeth gan ddinasyddion
Ble i anfon ceisiadau a gohebiaeth i'r Gofrestrfa Tir os ydych yn ddinesydd.

Y llynedd, cyflwynwyd Canolfan Dinasyddion newydd yn ein Swyddfa Cymru. Mae’r ganolfan yn gwasanaethu aelodau’r cyhoedd sy’n anfon ceisiadau atom i newid y gofrestr eu hunain, yn hytrach na thrwy drawsgludwr.
Heddiw, rydym wedi diweddaru cyfeiriad post y Ganolfan. Nawr gall aelodau’r cyhoedd anfon eu post yn uniongyrchol i’n canolfan sganio, gan sicrhau y bydd yn ein cyrraedd mor gyflym â phosibl.
(Y cyfeiriad newydd ar gyfer y ganolfan dinasyddion)[https://www.gov.uk/guidance/land-registry-address-for-applications.cy#cyfeiriadau-safonol]
Bydd unrhyw geisiadau a gohebiaeth a anfonwyd i gyfeiriad blaenorol y Ganolfan Dinasyddion yn ein cyrraedd o hyd am y tro; fodd bynnag, rydym yn eich annog i ddiweddaru unrhyw gofnodion neu fanylion nawr er mwyn osgoi unrhyw broblemau yn y dyfodol.
Ychwanegwyd cyfeiriad newydd y Ganolfan Dinasyddion at ein cyfarwyddyd newydd sy’n dangos ble y dylai cwsmeriaid anfon eu ceisiadau a’u gohebiaeth.
Ein nod yw gwneud ein gwasanaethau ar gyfer y cyhoedd mor syml â phosibl i’w defnyddio. Mae’r Ganolfan Dinasyddion yn ein galluogi i weithio’n agosach â’r cwsmeriaid hynny fel y gallwn wella’r hyn a gynigwn.
Gall aelodau’r cyhoedd gyflawni nifer o dasgau yn electronig, megis:
- canfod manylion eiddo penodol ar-lein gan ddefnyddio Find a Property
- cyflwyno ceisiadau ar gyfer rhent-daliadau trwy anfon ebost at Citizencentre.walesoffice@landregistry.gov.uk
- cyflwyno ymholiadau cyffredinol a gohebiaeth gyda ni trwy ein ffurflen gysylltu ar-lein
Mae sganio ceisiadau pan fyddwn yn eu derbyn yn ein helpu i baratoi ar gyfer y gwasanaethau digidol newydd rydym yn eu datblygu ar gyfer ein cwsmeriaid ac mae’n ei wneud yn haws i gyfeirio gwaith i’r man gorau i’w brosesu. Bydd hyn yn ein galluogi i drin ceisiadau’n fwy effeithiol a chynyddu ein hyblygrwydd nawr, ac ar gyfer unrhyw weithgaredd yn y dyfodol.