Stori newyddion

Gwasanaeth ar-lein newydd i yrwyr masnachol dalu dirwyon DVSA

Gall gyrwyr lori, fan, bws a choets dalu dirwyon ymyl ffordd wrth yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) gan ddefnyddio gwasanaeth ar-lein diogel o 29 Ionawr 2019.

A picture of a mobile phone with the new online payment service shown on screen

Mae gwasanaeth newydd ar GOV.UK, a ddatblygwyd gan yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) yn ei gwneud yn haws i dalu dirwy ymyl ffordd.

Mae gan archwilwyr DVSA y grym i gynnal gwiriadau ar y pryd ar yrwyr cerbydau masnachol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Gallant roi dirwy i chi (a elwir yn gosb benodedig) os ydych yn tramgwyddo.

Medrwch bellach dalu’r dirwyon hyn trwy ddefnyddio’r gwasanaeth diogel talu dirwy ymyl ffordd DVSA ar GOV.UK, yn lle defnyddio Chip and PIN ar ymyl y ffordd.

Mae’r gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd. Mae’n gweithio ar ffonau symudol, tabledi a chyfrifiaduron. Mae’n caniatáu i chi dalu:

  • dirwyon penodedig am ddiffygion cerbyd a thramgwyddau eraill megis oriau gyrwyr
  • ffioedd llonyddu
  • blaendaliadau llys

Medrwch dalu’r ddirwy eich hun neu ofyn am ei hanfon at eich cwmni er mwyn iddynt hwy dalu.

Nid yw’r rheolau ynghylch pryd medrwch chi gael eich dirwyo, faint fydd yn rhaid i chi ei dalu a’r terfyn amser ar gyfer talu’r ddirwy yn newid.

Cerbydau wedi eu cofrestru dramor

Mae’r un rheolau yn gymwys i gerbydau a gofrestrwyd dramor a’r cerbydau a gofrestrwyd ym Mhrydain Fawr.

Ond bydd gan yrwyr yn y DU 28 diwrnod i dalu dirwyon penodedig o hyd.

Sut mae’r gwasanaeth ar-lein yn gweithio

  1. Bydd archwiliwr y DVSA yn gofyn i chi am gyfeiriad e-bost neu rif ffôn symudol, naill ai ar eich cyfer chi neu dalwr a enwebwyd.

  2. Byddwch yn derbyn e-bost neu neges destun â chod talu DVSA a dolen i dalu’r ddirwy ar GOV.UK.

  3. Mewngofnodwch fanylion eich cerdyn debyd neu gredyd i wneud y taliad.

  4. Byddwch yn derbyn e-bost neu neges destun i gadarnhau eich bod wedi talu’r ddirwy.

Caiff archwiliwr y DVSA wybod hefyd eich bod wedi talu’r ddirwy. Os ydynt wedi llonyddu eich cerbyd, byddant yn ei ryddhau pan fydd unrhyw faterion dros ben wedi eu datrys.

Beth geir ar y negeseuon testun ac e-byst

E-bost

E-bost

Neges destun

Neges destun

Taliadau cyflymach a mwy effeithlon

Meddai Pennaeth Polisi Gorfodi y DVSA, Gordon MacDonald:

Blaenoriaeth y DVSA yw diogelu pawb rhag gyrwyr a cherbydau anniogel.

Bydd yr ap newydd hwn yn darparu cyfle i dalu dirwyon ymyl ffordd yn haws, yn fwy effeithlon, gan ryddhau staff i ganolbwyntio ar y dihirod mwyaf peryglus ymhlith y gweithredwyr ar ffyrdd Prydain.

Gwirio cerbydau ymyl ffordd

Medrwch ganfod rhagor am wirio cerbydau ymyl ffordd ar gyfer gyrwyr masnachol a dirwyon a blaendaliadau ariannol ar GOV.UK.

Cyhoeddwyd ar 29 January 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 February 2019 + show all updates
  1. Added translations in Bulgarian (български), French (Français), German (Deutsch), Spanish (Español), Polish (Polski), Romanian (Română) and Welsh (Cymraeg).

  2. Added translation