Datganiad i'r wasg

Tîm Gweinidogion newydd yn ymweld â Gogledd Cymru

Roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Cheryl Gillan ar ei hymweliad cyntaf a Gogledd Cymru i weld y datblygiadau diweddaraf yn OpTIC Glyndwr yn Llanelwy…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Cheryl Gillan ar ei hymweliad cyntaf a Gogledd Cymru i weld y datblygiadau diweddaraf yn OpTIC Glyndwr yn Llanelwy ac i glywed sut y mae Undeb Credyd Clwyd Coast yn y Rhyl yn helpu pobl leol i reoli’u harian.Yn gwmni i Mrs Gillan roedd y Gweinidog yn Swyddfa Cymru David Jones sy’n AS dros Orllewin Clwyd. Yn ystod eu hymweliad a’r Technium cafodd yr Ysgrifennydd Gwladol a’r Gweinidog eu tywys o amgylch labordai ymchwil ESO a gwelsant y technolegau optegol ac electronig diweddaraf yn cael eu datblygu ar y safle.

Yn dilyn eu hymweliad a Technium aeth y Gweinidogion ymlaen i ymweld ag Undeb Credyd Clwyd Coast lle cawsant gyfarfod a gwirfoddolwyr sy’n gweithio yn yr Undeb Credyd a chlywed am y modd maent yn helpu pobl i gael mynediad at gyfleusterau bancio a chyllid priodol.

Yn dilyn yr ymweliad, dywedodd Mrs Gillan: “Ar fy ymweliad swyddogol cyntaf i Ogledd Cymru fel Ysgrifennydd Cymru, wythnos ar ol dechrau’r swydd, roeddwn yn falch dros ben o allu ymweld a chanolfan mor ragorol ag OpTIC Glyndwr, sydd wedi dod yn arweinydd byd mewn technoleg optegol fodern. 

“Mae’r cyfleuster hwn sydd o’r radd flaenaf, yn Llanelwy yn mynd a Gogledd Cymru a’r DU i flaen y chwyldro technolegol mewn arloesedd optegol.

“Mae disgwyl i’r prosiect a welais heddiw, i helpu i greu telesgop mwya’r byd, gynhyrchu £60m i economi Gogledd Cymru ac mae’n creu’r union fath o swyddi cyflogau da, o ansawdd y mae arnom eu hangen ar gyfer yr economi flaengar newydd yng Nghymru. Mae hefyd yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni gyda phrifysgolion mewn partneriaeth a’r sector preifat.

“Roeddwn hefyd yn falch iawn o allu dychwelyd i Undeb Credyd Clwyd Coast yn y Rhyl sy’n parhau i wneud cymaint o argraff arnaf. Mae ymroddiad a gwaith caled y rheolwr Terry Wickenden a’r cadeirydd John Killian, ynghyd a’u tim o dros 70 o wirfoddolwyr, wedi gwneud yr undeb credyd hwn yn un o’r rhai mwyaf llwyddiannus yng Nghymru. Gyda dros 1,000 o gynilwyr ifanc ar ei lyfrau, mae’r undeb credyd hefyd yn addysgu i’r genhedlaeth iau yng Ngogledd Cymru ddoethineb cynilo.”

Cyhoeddwyd ar 19 May 2010