Datganiad i'r wasg

Cyfreithiau newydd i nodi dyfodol masnachu Cymru a'r DU

Llywodraeth y DU yn cyflwyno’r dau Bil Brexit nesaf i’r Senedd

Cymerodd Llywodraeth y DU gam pwysig i gefnogi busnesau yng Nghymru a phartneriaid masnachu heddiw drwy gyflwyno dau o’r Biliau Brexit nesaf i’r Senedd.

Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ar bob lefel i sicrhau bod polisi masnach yn gweithio i Gymru ac y bydd busnesau yno’n parhau i elwa o’r trefniadau masnach presennol ar ôl i’r DU adael yr UE.

Bydd y Biliau’n edrych ar gefnogi allforion cynyddol Cymru i wledydd tu allan i’r UE a buddsoddiad o dramor. Yn 2016-17, llwyddodd buddsoddiadau o dramor yng Nghymru i greu dros 2,500 o swyddi mewn 85 o brosiectau newydd.

Mae’r mesurau allweddol yn y Bil Masnach yn cynnwys darpariaethau i’r DU roi cytundebau masnach presennol yr UE ar waith, er mwyn helpu i sicrhau bod cwmnïau yn y DU yn gallu parhau i gael gafael ar werth £1.3 triliwn o gontractau mawr y llywodraeth mewn gwledydd eraill, a chreu corff cymhorthion masnachu newydd i warchod busnesau’r DU rhag arferion masnachu annheg.

Bydd elfennau eraill sy’n gysylltiedig â threth ym mholisi masnach y DU yn cael eu deddfu ym Mil Tollau’r Trysorlys – Bil Trethiant (Masnachu Trawsffiniol) – wrth greu cyfundrefn dariffau newydd ar gyfer y DU. Mae hyn yn cynnwys y cymhorthion masnachu a’r dewisiadau masnachu unochrog sy’n rhoi mynediad ffafriol i wledydd datblygedig i farchnadoedd y DU.

Yn dilyn cyfarfod â Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd yn ddiweddar, croesawodd Dr Liam Fox, yr Ysgrifennydd dros Fasnach Ryngwladol, yr ymrwymiadau fel rhan o’r ddeddfwriaeth newydd i weithio gyda Llywodraeth Cymru i greu polisïau masnach sy’n gweithio i fusnesau a defnyddwyr yng Nghymru.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Ni fu erioed amser gwell i gwmnïau Cymreig fasnachu ac allforio dramor, a bydd y Bil hwn yn darparu sefydlogrwydd a sicrwydd i fusnesau barhau i wneud hynny.

Mae gennym ni gyfle nawr i greu ein cyfleoedd uchelgeisiol ein hunain i fasnachu a buddsoddi yn Ewrop a thu hwnt, ac i osod Cymru a Phrydain yn gadarn mewn lle blaenllaw yn y byd masnachu a buddsoddi byd-eang.

Dywedodd Liam Fox, yr Ysgrifennydd dros Fasnach Ryngwladol:

Bydd y Bil hwn yn sicrhau ein bod ni’n cefnogi masnach byd-eang helaeth Cymru, gan estyn allan i’r marchnadoedd rhyngwladol sy’n tyfu, gyda allforion o Gymru’n cynyddu, tra’n cefnogi’r partneriaid masnach presennol hefyd.

Rydym am i Gymru fasnachu ar draws y byd, gyda’r amodau yr un fath i bawb. Mae’r Bil hwn yn darparu ar gyfer hynny, yn ein helpu ni i barhau gyda threfniadau masnach presennol a rheoli ein tollau ein hunain ar gyfer y DU gyfan.

Bil Masnach

Bydd y Bil Masnach sy’n cael ei gyflwyno yn y Senedd heddiw yn:

  • Creu pwerau i gynorthwyo i drosglwyddo dros 40 o gytundebau masnach sy’n bodoli’n barod rhwng yr UE a gwledydd eraill;
  • Galluogi’r DU i ddod yn aelod annibynnol o’r Cytundeb Caffael Llywodraethu (GPA); gan sicrhau bod gan gwmnïau yn y DU fynediad parhaus at werth £1.3 triliwn o gontractau’r llywodraeth a chyfleoedd caffael mewn 47 o wledydd;
  • Sefydlu corff annibynnol newydd ar gyfer y DU, yr Awdurdod Cymhorthion Masnachu, i warchod busnesau’r DU rhag arferion masnachu annheg; a
  • Sicrhau bod gan Lywodraeth y DU y gallu cyfreithiol i gasglu a rhannu gwybodaeth am fasnach.

Bil Tollau

Cyflwynodd y llywodraeth gynigion a basiwyd ar gyfer y Bil Tollau hefyd, a fydd yn dod gerbron y Senedd cyn bo hir. Bydd y Bil yn caniatáu i’r llywodraeth greu trefn ar wahân ar gyfer tollau a diwygio’r trefniadau TAW ac ecséis.

  • Codi ac amrywio toll dramor ar nwyddau;

  • Pennu pa dollau sy’n daladwy ar ba nwyddau;

  • Gosod tollau ffafriol neu ychwanegol mewn rhai amgylchiadau - er enghraifft i gefnogi gwledydd datblygedig; a

  • Chynnal y broses o symud nwyddau o’r diwrnod y byddwn yn gadael yr UE drwy barhau gyda’r trefniadau TAW ac ecséis yn unol â’r cytundeb terfynol a gafwyd yn ystod y trafodaethau.

Cyhoeddwyd ar 7 November 2017