Datganiad i'r wasg

Buddsoddiad newydd mewn adfywio yn hybu twf a swyddi ym Mhort Talbot

Mwy na £20 miliwn mewn cyllid wedi'i gyhoeddi gan Fwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot

More than £20 million announced for regeneration projects in the Port Talbot area.

  • Mwy na £20 miliwn mewn cyllid gan Fwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot ar gyfer tri chynllun adfywio lleol.
  • Bydd y buddsoddiad mawr hwn yn cynnal mwy na 270 o swyddi yn y gymuned gwaith dur.
  • Mae Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot wedi cyhoeddi mwy na £70 miliwn o gyllid yn ystod y naw mis diwethaf.

Bydd buddsoddiad newydd o £21.2 miliwn ar gyfer prosiectau adfywio yn cynnal mwy na 270 o swyddi ac yn gweld creu swyddi adeiladu ychwanegol yn ardal Port Talbot yn dilyn y cyhoeddiad a gynlluniwyd ar gyfer heddiw (22 Mai) o’r datganiad diweddaraf o gyllid gan Fwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot. 

Yn dilyn cymeradwyaeth gan y Bwrdd Pontio pan fydd yn cyfarfod heddiw, bydd cyllid o £21.2 miliwn yn cael ei ddyrannu ar gyfer tri phrosiect adfywio arall yn ardal Port Talbot, a fydd yn dod â buddion gwerth ychwanegol gros (GVA) amcangyfrifedig o £119 miliwn i’r economi leol. 

Y tri phrosiect yw:

Sefydlu Cyfleuster Cynhyrchu Uwch Weithgynhyrchu (AMPF) a Chanolfan Ragoriaeth Sgiliau Sero Net Cenedlaethol Glannau’r Harbwr, Port Talbot

  • £12.5 miliwn i helpu i sefydlu canolfan gynhyrchu a hyfforddi gwerth £35 miliwn i hyrwyddo hyfforddiant sgiliau carbon isel a sero net. Bydd yr AMPF yn cynhyrchu offer arbenigol ac yn profi cynhyrchion, gan uwchraddio uwch weithgynhyrchu yn y rhanbarth ac mae hefyd yn derbyn cyllid gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe. 

  • Mae’r AMPF yn un o dri phrosiect sy’n cyfrannu at sefydlu Ardal Arloesi yn yr Harbwr a fydd hefyd yn cynnwys prosiect Canolfan Pontio Diwydiannol o Garbon De Cymru (SWITCH) a gyhoeddwyd yn flaenorol a datblygu Parc Arloesi.

  • Bydd yr AMPF, gyda’r Ganolfan Ragoriaeth Sero Net Genedlaethol, yn cynnal 170 o swyddi ac yn ymgysylltu â 150 o gwmnïau i gynhyrchu Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) o £89.1 miliwn. Bydd swyddi adeiladu ychwanegol hefyd yn cael eu creu gan y prosiect hwn.

  • Bydd y Ganolfan Ragoriaeth Sgiliau Sero Net Genedlaethol yn darparu’r cyfleusterau a’r galluoedd i hyfforddi a datblygu’r gweithlu sydd eu hangen ar gyfer Porthladd Rhydd Celtaidd, Ynni Gwynt Ar y Môr Arnofiol (FLOW) a chyfleoedd buddsoddi eraill yn y dyfodol.

Ailddatblygu Metal Box a Chanolfan Fusnes Sandfields (Llansawel a Phort Talbot)

  • Bydd y ddau brosiect hyn yn trosi ac ehangu dau adeilad presennol i ddarparu llety o ansawdd uchel i alluogi tenantiaid i ehangu a gwella mynediad at unedau busnes newydd, gan annog a chefnogi busnesau newydd a’r rhai sy’n ceisio tyfu. Mae galw sylweddol am ofod busnes yng Nghastell-nedd Port Talbot y bydd y cyllid hwn yn helpu i fynd i’r afael ag ef. 

  • Bydd cyfanswm o £8.7 miliwn o gyllid y Bwrdd Pontio yn ariannu’r prosiectau’n llawn, £6.9 miliwn ar gyfer Metal Box ac £1.8 miliwn ar gyfer Canolfan Fusnes Sandfields.

  • Gyda’i gilydd, amcangyfrifir y bydd yr ailddatblygiadau’n cynnal 101 o swyddi ac yn creu GVA net ychwanegol o £29.9 miliwn erbyn 2035.

Y buddsoddiad o £21.2 miliwn a gyhoeddwyd heddiw yw’r diweddaraf gan Fwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot, dan gadeiryddiaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru Jo Stevens ac sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraethau’r DU a Chymru, awdurdodau lleol, undebau a busnesau.

Ers rhyddhau’r cyllid cyntaf ym mis Awst 2024, mae wedi cyhoeddi mwy na £70 miliwn i ariannu hyfforddiant sgiliau i weithwyr a phrosiectau adfywio wrth i Tata Steel gyflawni ei gyfnod pontio i gynhyrchu dur â ffwrnais arc trydan.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:  

Dywedon ni y bydden ni’n cefnogi gweithwyr dur Port Talbot, eu teuluoedd a’u busnesau sy’n ddibynnol ar Tata Steel. 

Mae’r buddsoddiad diweddaraf hwn yn golygu bod mwy na £70 miliwn wedi’i gyhoeddi gan y Bwrdd Pontio mewn dim ond naw mis, gan gyflawni ein haddewid i’r gymuned.

Mae’r cynlluniau ar gyfer y Porthladd Rhydd Celtaidd, datblygu ynni gwynt ar y môr arnofiol, cadwraeth cynhyrchu dur yn y dref a chyllid sylweddol ar gyfer adfywio i gyd yn golygu bod dyfodol disglair i Bort Talbot.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

Mae ein hymrwymiad i sicrhau fod y rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan drawsnewidiad Tata, gan gynnwys y gweithlu, gadwyn gyflenwi a’r gymuned leol yn derbyn cefnogaeth yn parhau, nid yn unig yn y tymor byr, ond ymhell i’r dyfodol.

Rwy’n falch y bydd y buddsoddiad diweddaraf yma o gyllid Pontio Tata yn ategu at gyllid y Fargen Ddinesig ac yn datgloi cyfleoedd swyddi gwerthfawr, yn enwedig y rhai sy’n gysylltiedig ag ynni adnewyddadwy a gweithgynhyrchu gwerth uchel.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt:

Wrth i ni gydweithio’n agos i gyflawni heriau datgarboneiddio, mae hi’n hanfodol ein bod ni hefyd yn cefnogi pobl a busnesau lleol i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd sy’n dod yn ei sgil. 

Mae’r buddsoddiad a gyhoeddwyd heddiw yn mynd i roi hwb sylweddol i’n gwaith parhaus gyda phartneriaid i hybu twf economaidd a darparu’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ar gyfer diwydiannau’r dyfodol.” 

Yn y misoedd i ddod, bydd degau o filiynau o bunnoedd o gyllid ychwanegol yn cael ei neilltuo i brosiectau twf ac adfywio ym Mhort Talbot, gan sicrhau bod swyddi diogel gyda chyflogau da ar gael yn yr ardal leol yn dilyn pontio Tata Steel i gynhyrchu dur mwy gwyrdd.     Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo £2.5 biliwn o fuddsoddiad i ailadeiladu diwydiant dur y DU am ddegawdau i ddod wrth iddo ddatgarboneiddio.

Mae hyn yn ychwanegol at y £500 miliwn a ddyrannwyd i Tata Steel ym Mhort Talbot ar gyfer ffwrnais arc trydan, a gafodd gymeradwyaeth cynllunio yn ddiweddar.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 22 Mai 2025