Stori newyddion

Arweiniad newydd i helpu marchnadoedd defnyddwyr i roi gwell cefnogaeth i oedolion sydd mewn risg

Nod yr arweiniad hwn yw helpu staff ym maes gwasanaethau ariannol a chwmnïau cyfleustodau i weithredu'n fwy cyson pan fyddant yn cael Atwrneiaeth Arhosol a Gorchmynion Llys Dirprwyol.

Image of a guide for policymakers in regulated markets

Mae’r ddogfen Cefnogi cwsmeriaid nad ydynt yn gwneud eu penderfyniadau eu hunain wedi cael ei datblygu gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG), Rhwydwaith Rheolyddion y DU (UKRN) a’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwylliannol (BEIS) drwy weithio gyda rheolyddion y sector. Mae’r rhain yn cynnwys Ofcom, Ofgem, Ofwat a’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

Mewn rhagair ar y cyd, dywedodd y Gweinidog dros Fusnesau Bach, Defnyddwyr a Chyfrifoldeb Corfforaethol yn BEIS, Kelly Tolhurst, ac is-ysgrifennydd Seneddol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Edward Argar:

Mae atwrneiaeth arhosol yn adnodd gwerthfawr sy’n helpu rhai o bobl fwyaf bregus yn ein gwlad i reoli eu busnes cyn iddynt golli eu galluedd meddyliol neu pan fyddant wedi colli eu galluedd meddyliol. Fodd bynnag, mae’r rhai sy’n gweithredu er lles oedolion sydd mewn risg yn aml yn canfod y broses o ddelio â’r cwmnïau y maent yn dibynnu arnynt yn ddryslyd ac yn anghyson.

Mae’r arweiniad hwn yn amlinellu’r polisïau a’r cyngor sydd ar gael yn glir. Mae’n egluro’r gyfraith ac yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol a all ysgafnhau’r baich a’r straen y mae rhoddwyr gofal newydd a chyfredol yn eu hwynebu o ddydd i ddydd, drwy sicrhau bod eu trafodion yn digwydd mor syml a diffwdan ag y bo modd.

Mae’r ddogfen Cefnogi cwsmeriaid nad ydynt yn gwneud eu penderfyniadau eu hunain ar gael o wefan UKRN.

Cyhoeddwyd ar 9 May 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 May 2019 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.