Datganiad i'r wasg

Mesur gwrth-dwyll newydd am ddim ar gyfer cwmnïau gan y Gofrestrfa Tir

Yn dilyn cynllun peilot, mae mesur gwrth-dwyll wedi ei gyflwyno gan y Gofrestrfa Tir ar gyfer cwmnïau sy'n berchen ar eiddo cofrestredig ac sy'n pryderu y gallai’r eiddo fod yn destun gwerthiant neu forgais twyllodrus.

Flats

Mae’n hysbys bod eiddo gyda thenantiaid, eiddo gwag neu heb forgais yn arbennig o agored i dwyll.

Gall twyll eiddo ddigwydd mewn llawer o ffyrdd. Gall twyllwyr geisio cael gafael ar berchnogaeth yr eiddo naill ai trwy ddefnyddio dogfen wedi’i ffugio i’w drosglwyddo i’w henwau, neu trwy ddynwared y perchennog cofrestredig. Unwaith y byddant wedi codi arian trwy forgeisio’r eiddo yn ddiarwybod i’r perchennog, maent yn diflannu heb wneud ad-daliadau gan adael y perchennog i ddelio’r â’r goblygiadau.

Dywedodd Alasdair Lewis, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol:

Nid yw achosion a gofnodir o drosglwyddiadau ac arwystlon twyllodrus wedi’u cyfyngu i unigolion; mae perchnogion corfforaethol, megis landlordiaid eiddo preswyl a masnachol, yn cael eu targedu hefyd. Oddi ar fis Medi 2009, rydym wedi atal twyll ar dros 160 o geisiadau sy’n cynrychioli eiddo gwerth dros £70 miliwn.

Gydag amcangyfrif bod twyll yn costio £70 biliwn i’r economi’n flynyddol ar hyn o bryd, mae’n gwneud synnwyr i geisio atal twyllwyr lle bo’n bosibl. Gyda’n hawgrymiadau, gall cwmnïau ddefnyddio ein cyfyngiad newydd yn hawdd er mwyn helpu i warchod eu heiddo rhag cael ei ddwyn.

Gellir gwneud cais am gyfyngiad gan gwmni gan ddefnyddio Ffurflen RQ(Co). Cynlluniwyd y cyfyngiad i helpu i ddiogelu rhag ffugio trwy ei wneud yn ofynnol i drawsgludwyr, er enghraifft cyfreithiwr, ardystio ei fod yn fodlon mai’r cwmni sy’n trosglwyddo, prydlesu neu’n morgeisio’r eiddo yw’r un cwmni â’r perchennog cyn y caiff unrhyw werthiant, brydles neu forgais ei gofrestru. Yn ogystal, rhaid iddo ardystio ei fod wedi cymryd camau rhesymol i gadarnhau bod unrhyw un a gyflawnodd y weithred ar ran y cwmni wedi dal y swydd a nodir ar adeg y cyflawni.

Ni chodir ffi gan y Gofrestrfa Tir i gwmnïau sy’n cofrestru’r cyfyngiad hwn ar gyfer hyd at dri theitl. Mae’n dilyn lansiad llwyddiannus cyfyngiad di-dâl tebyg dair blynedd yn ôl ar gyfer unigolion preifat nad ydynt yn byw yn yr eiddo maent yn dymuno ei warchod.

Ymhlith prif awgrymiadau’r Gofrestrfa Tir i warchod eiddo rhag twyllwyr mae:

  • sicrhau bod eich eiddo’n gofrestredig. Mae’n bosibl y gall dioddefwyr diniwed twyll sy’n colli arian o ganlyniad gael iawndal
  • unwaith y byddwch wedi cofrestru, sicrhewch fod eich manylion cysylltu cyfredol ar y gofrestr teitl er mwyn inni allu cysylltu â chi’n hawdd – gellir cynnwys hyd at dri chyfeiriad gan gynnwys cyfeiriadau ebost neu gyfeiriad tramor
  • cofrestrwch ar gyfer ein gwasanaeth Property Alert am ddim sydd wedi ennill nifer o wobrau ac sy’n helpu perchnogion i warchod yn erbyn twyll eiddo ar gyfer hyd at ddeg eiddo cofrestredig yng Nghymru a Lloegr
  • gall perchnogion preifat a chwmnïau sydd o’r farn y gallai eu heiddo fod mewn perygl gofnodi cyfyngiad ar eu cofrestri teitl sydd wedi’i gynllunio i helpu atal ffugiad
  • cysylltwch â llinell twyll eiddo’r Gofrestrfa Tir ar 0300 006 7030 os ydych o’r farn eich bod yn ddioddefwr twyll eiddo neu anfonwch ebost reportafraud@landregistry.gov.uk

Astudiaeth achos

Canfuwyd cais i gofrestru trosglwyddiad twyllodrus eiddo gyda thenantiaid yn Princes Risborough, Swydd Buckingham, gan y Gofrestrfa Tir, a fu’n gweithio’n agos â heddlu Dyffryn Tafwys wrth iddynt archwilio’r trosedd. Arweiniodd hyn at arestio ac euogfarnu dau unigolyn ar gyfer y twyll hwn a thwyll arall yr oeddynt yn ei gyflawni mewn eiddo yn ardal Caerwrangon. Yn 2011 dedfrydwyd y ddau i bedair blynedd o garchar.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  1. Gellir llwytho’r cyfyngiad newydd i lawr gan ddefnyddio Ffurflen RQ(Co) a dylid ei anfon i’r Ganolfan Dinasyddion, PO Box 6350, Coventry CV3 9LP.
  2. Os oes angen y cyfyngiad ar gwmni ar gyfer tri neu ragor o deitlau cofrestredig, rhaid iddynt ddefnyddio ffurflen RX1 sy’n costio £90 fesul teitl (£45 os caiff ei chyflwyno’n electronig).
  3. Rhagor o wybodaeth am sut i warchod eich tir ac eiddo rhag twyll.
  4. Gyda’r gronfa ddata o drafodion fwyaf o’r fath gyda manylion mwy na 24 miliwn o deitlau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cefnogi’r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy’n werth biliynau o bunnoedd.
  5. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  6. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Cofrestrfa Tir.
  7. Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov a dewch o hyd i ni ar ein blog, ar LinkedIn a Facebook.

Cysylltu

Swyddfa'r wasg

Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR0 2AQ

E-bost HMLRPressOffice@landregistry.gov.uk

Ffôn (dydd Llun i ddydd Gwener 8.30am a 5.30pm) 0300 006 3565

Symudol (5.30pm a 8.30am) 07864 689 344

Cyhoeddwyd ar 4 February 2015