Stori newyddion

Fframwaith cyllidol newydd yn rhoi sicrwydd ariannol tymor hir i Gymru

Heddiw (dydd Llun 19 Rhagfyr) cafodd Cymru sicrwydd ariannol tymor hir mewn cytundeb carreg filltir rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Alun Cairns and David Gauke

Alun Cairns and David Gauke - (Photographer Dermot Carlin)

Mae’r fframwaith yn rhan allweddol o becyn cyfan Bil Cymru sy’n darparu setliad datganoli cliriach a thecach i Gymru. Mae’n braenaru’r tir i wneud Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn sefydliad mwy grymus ac atebol ac mae’n adlewyrchu’r berthynas aeddfed rhwng Bae Caerdydd a San Steffan.

Mae’r fframwaith cyllidol yn golygu:

  • y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros Gyfraddau Treth Incwm Cymru (WRIT) o fis Ebrill 2019 ymlaen (Yn amodol ar gael gwared ar y gofyniad am refferendwm drwy’r Bil Cymru presennol a Llywodraeth Cymru yn amlinellu ei bwriad i gyflwyno cyfraddau treth incwm Cymreig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru)

  • y bydd Llywodraeth Cymru yn cael lefel deg o gyllid dros y tymor hir, gan ystyried capasiti treth Cymru a thrin newid yn y boblogaeth yn gyson ar draws treth a gwariant

  • y bydd y swm benthyca cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn dyblu i £1 biliwn

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r cytundeb ar y fframwaith cyllidol yn garreg filltir arwyddocaol yn nhaith datganoli Cymru. Hyn sydd wrth wraidd y penderfyniad ym Mil Cymru i ddarparu cyllid sicr dros dymor hir i Lywodraeth Cymru a rhoi mwy o welededd i Fae Caerdydd pan mae’n edrych ar benderfyniadau ynghylch gwariant.

Rydym wedi gweithio’n galed i gael dêl i roi strwythur ariannol clir i Lywodraeth Cymru er mwyn iddi allu bwrw ymlaen â’r gwaith o wella economi Cymru.

Mae’r fframwaith hwn yn pwysleisio’r berthynas aeddfed rhwng Caerdydd a San Steffan wrth inni symud yn nes at gytuno ar setliad parhaol ar gyfer pobl Cymru.

Cytunwyd ar y ddêl rhwng David Gauke, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, a Mark Drakeford, Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, a chafodd ei chadarnhau mewn Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog a osodwyd gerbron y Senedd heddiw.

Fframwaith cyllidol newydd: https://www.gov.uk/government/publications/the-agreement-between-the-welsh-government-and-the-united-kingdom-government-on-the-welsh-governments-fiscal-framework

Cyhoeddwyd ar 19 December 2016