Stori newyddion

Pwerau ariannol newydd i Gymru

Mae manylion y pecyn cwbl newydd o bwerau ariannol i helpu Cymru i gystadlu yn y ras fyd eang wedi cael eu cyhoeddi gan y Llywodraeth heddiw. Mae’r pwerau, a allai olygu bod Llywodraeth Cymru yng ngofal £3 biliwn o refeniw treth, yn cynnwys rheoli trethi busnes, gallu creu trethi newydd a rhywfaint o bwerau benthyg.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Cardiff Bay

Cyhoeddwyd amlinelliad o’r cynllun i roi hwb i dwf yng Nghymru gan y Prif Weinidog a’r Dirprwy Brif Weinidog yn wreiddiol, yn gynharach y mis hwn. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU fanylion llawn heddiw yn ei hymateb i argymhellion Comisiwn Silk ar ddatganoli ariannol. Cyflwynodd Danny Alexander, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, a David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ymateb y DU yn ffurfiol i Jane Hutt, Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, yng Nghaerdydd heddiw.

Mae deg ar hugain o’r tri deg ac un o argymhellion ar gyfer Llywodraeth y DU, a wnaed gan Gomisiwn Silk, wedi cael eu derbyn yn llawn neu’n rhannol. Bydd hyn yn arwain at ddatganoli llawer o bwerau ariannol newydd a hefyd at roi pwerau benthyg i Lywodraeth Cymru.

Dyma’r pwerau ariannol newydd a gyhoeddwyd heddiw:

  • Datganoli’n llawn drethi busnes annomestig a godir yng Nghymru, fel bod cyllideb Llywodraeth Cymru’n elwa’n fwy uniongyrchol o dwf yng Nghymru;

  • Gallu creu trethi newydd gyda chytundeb Llywodraeth y DU;

  • Adnoddau i reoli’r pwerau trethu newydd hyn:

    • Creu cronfa ariannol y gall Llywodraeth Cymru ychwanegu ati pan mae’r refeniw yn uchel, a’i defnyddio pan mae’r refeniw yn is na’r disgwyl;

    • Pwerau benthyg cyfredol cyfyngedig os nad oes digon o arian yn y gronfa ariannol i ddelio â diffyg refeniw

Mae hyn yn dilyn y pwerau ariannol datganoledig a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog a’r Dirprwy Brif Weinidog yn gynharach y mis hwn:

  • Pwerau benthyg i Weinidogion Cymru;

  • Datganoli Treth Tirlenwi a Threth Dir y Dreth Stamp yng Nghymru i sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru ffrwd gyllido annibynnol i dalu’r arian mae’n ei fenthyca yn ei ôl;

  • Bydd y Cynulliad yn gallu cynnal refferendwm fel bod pobl Cymru’n gallu penderfynu a ddylai rhywfaint o’u treth incwm gael ei ddatganoli;

  • Cyn i’r pwerau codi trethi gael eu cyflwyno, bydd Llywodraeth Cymru’n cael mynediad buan at bwerau benthyg cyfyngedig cyfredol i’w defnyddio ar gyfer gwelliannau i’r M4.

Dywedodd Danny Alexander, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys:

Rydw i’n hynod falch bod fy ngwaith i gyda Jane Hutt, Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, a’r cydweithrediad agos rhwng ein dwy Lywodraeth, wedi arwain at y canlyniad rhagorol hwn i Gymru.

Bydd y pecyn o bwerau ariannol rydym wedi’i gyhoeddi heddiw’n adnodd pwerus a fydd yn sicrhau gwell atebolrwydd a thryloywder ariannol i Lywodraeth Cymru. Mae hwn yn ganlyniad da i Gymru.

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Drwy gyfrwng y pecyn hwn o bwerau yr ydym yn ei gyhoeddi heddiw, rydym yn rhoi i Lywodraeth Cymru yr adnoddau i wneud y buddsoddiadau priodol yng Nghymru.

Mae buddsoddi yn y seilwaith yn hanfodol bwysig er mwyn sicrhau twf economaidd cytbwys yn y tymor hir ledled y DU. Bydd y pecyn yma o bwerau’n galluogi Llywodraeth Cymru i fuddsoddi ar unwaith yn y meysydd seilwaith y mae’n arwain arnynt, fel llwybrau allweddol ar y rhwydwaith ffyrdd traws-Ewropeaidd - yr M4 a Gwibffordd Gogledd Cymru.

Mae’r Llywodraeth yn credu mewn datganoli ac rydym yn benderfynol o gyflawni. Mae derbyn argymhellion allweddol Comisiwn Silk ar gyfer datganoli ariannol yn sicrhau cydbwysedd priodol ac yn gam pwysig ar siwrnai ddatganoli Cymru.

Bydd y pwerau newydd hyn yn sicrhau Llywodraeth sy’n fwy atebol i bobl Cymru. Mae’n rhaid i lywodraeth Cymru fanteisio ar y cyfle unwaith mewn cenhedlaeth hwn yn awr – i sbarduno datblygiad economaidd Cymru a defnyddio’r cyfle hwn i sicrhau’r twf a’r ffyniant y mae Cymru ei angen yn ddirfawr.

Nodiadau i Olygyddion

  1. Sefydlwyd Comisiwn annibynnol ar Ddatganoli yng Nghymru (Comisiwn Silk) yn 2011 i adolygu’r trefniadau ariannol a chyfansoddiadol presennol yng Nghymru. Mae’n gwneud ei waith mewn dwy ran:

Rhan I: atebolrwydd ariannol

Adolygu’r achos dros ddatganoli pwerau ariannol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac argymell pecyn o bwerau a fyddai’n gwella atebolrwydd ariannol y Cynulliad. Cyflwynodd y Comisiwn ei ganfyddiadau yn Rhan I ym mis Tachwedd 2012.

Rhan II: pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Adolygu pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng ngoleuni profiad ac argymell diwygiadau i’r trefniadau cyfansoddiadol presennol a fyddai’n galluogi Senedd y Deyrnas Unedig a Chynulliad Cenedlaethol Cymru i wasanaethu pobl Cymru yn well. Bydd y Comisiwn yn adrodd yn ôl ar ei ganfyddiadau yn Rhan II erbyn Gwanwyn 2014.

Llun drwy garedigrwydd Richard Szwejkowski ar Flickr, a ddefnyddir o dan Creative Commons.

Cyhoeddwyd ar 18 November 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 November 2013 + show all updates
  1. Added translation

  2. Added translation

  3. First published.