Gwasanaeth llyfr log ar-lein newydd DVLA yn cyrraedd carreg filltir o filiwn o drafodion
Mae DVLA yn dathlu cyrraedd miliwn o drafodion ar wasanaeth ar-lein newydd i bobl sy’n symud tŷ i newid cyfeiriad ar lyfr log V5CW.

Mae pobl sy’n symud tŷ wedi gwneud mwy na miliwn o drafodion o fewn llai na blwyddyn ar wasanaeth newydd DVLA i newid cyfeiriad ar lyfr log V5CW.
Ers ei lansiad ym mis Mehefin 2020 mae’r gwasanaeth wedi profi’n boblogaidd iawn, gyda dros 60% o fodurwyr sydd angen rhoi gwybod i DVLA am newid cyfeiriad yn dewis defnyddio’r gwasanaeth ar-lein yn hytrach na drwy’r post.
Mae’r gwasanaeth ar-lein newydd yn torri’r amser mae’n cymryd i dderbyn llyfr log newydd o hyd at 6 wythnos i tua 5 niwrnod, gyda modurwyr yn gallu diweddaru eu manylion cyfeiriad mewn munudau.
Mae’r garreg filltir hon wedi’i chyrraedd wrth i DVLA lansio ymgyrch ddigidol newydd i hybu ei gwasanaethau ar-lein. Mae’r rhain yn cynnwys adnewyddu trwydded yrru, newid cyfeiriad, archebu llyfr log V5CW newydd, neu roi gwybod i DVLA eich bod wedi prynu neu werthu cerbyd.
Mae’r ymgyrch wedi’i hanelu at fodurwyr ac yn amlygu gwasanaethau ar-lein DVLA ar GOV.UK. Bydd y rhain y ffordd gyflymaf, hawsaf ac, mewn nifer o achosion, rataf i ddelio â DVLA bob amser.
Dywedodd dros 92% o’r rheiny sydd wedi defnyddio gwasanaethau ar-lein yr asiantaeth eu bod nhw’n hawdd neu’n hawdd iawn i’w defnyddio, tra dywedodd 98% y byddent yn eu defnyddio eto yn y dyfodol, datgelwyd arolwg DVLA diweddar.
Dywedodd Julie Lennard, Prif Weithredwr y DVLA:
Rydyn ni’n falch bod y gwasanaeth ar-lein newydd i Newid Cyfeiriad ar gyfer llyfr log V5CW wedi profi i fod mor boblogaidd gyda modurwyr, llai na blwyddyn ar ôl ei lansio.
Rydym am i’n cwsmeriaid allu delio â ni yn y ffordd sy’n addas iddyn nhw, a chynlluniwyd ein gwasanaethau ar-lein i fod yn hyblyg a hawdd i’w defnyddio.
Mae ein hymgyrch newydd yn ceisio amlygu’r buddion o ddefnyddio gwasanaethau ar-lein DVLA ar GOV.UK, sydd y ffordd gyflymaf a hawsaf o ddelio â DVLA. Drwy ddewis i drafod gyda ni ar-lein gallwch wneud cais gyda ni o fewn ychydig funudau, heb angen anfon ffurflen drwy’r post.
Gall modurwyr gael gwybod rhagor am y dewis o wasanaethau ar-lein DVLA drwy ymweld â’r hafan yrru.
Nodiadau i olygyddion:
Mae’n gofyn cyfreithiol i roi gwybod i DVLA pan fyddwch yn newid cyfeiriad, ac mae’n rhaid i gwsmeriaid ddiweddaru eu llyfr log V5CW a thrwydded yrru. Gallwch wneud y ddau ohonynt am ddim drwy ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein ar GOV.UK.
Cyrhaeddwyd y miliynfed trafodyn ar gyfer y gwasanaeth newid cyfeiriad ar-lein ym mis Mawrth 2021.
Mae gwasanaethau ar-lein DVLA wedi parhau i weithio fel arfer trwy gydol y pandemig coronafeirws. I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau ar-lein DVLA, ymwelwch â GOV.UK.
Swyddfa'r wasg
Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL
Email press.office@dvla.gov.uk
Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig: 0300 123 2407