Ymgyrch newydd DVLA yn amlygu'r risgiau i yrwyr sy'n efadu treth cerbyd
Mae ymgyrch hysbysebu newydd DVLA yn targedu'r ardaloedd efadu uchaf ledled y DU, gan atgoffa modurwyr o'r risg wirioneddol o fethu â threthu eu cerbydau ar amser.

Mae DVLA wedi lansio ymgyrch hysbysebu newydd yn yr ardaloedd efadu uchaf ar draws y DU gan atgoffa modurwyr o’r risg wirioneddol o fethu â threthu eu cerbydau ar amser.
Mae’r neges yn glir i fodurwyr – os nad ydych yn trethu eich cerbyd ar amser, bydd DVLA yn cymryd camau gweithredu – ‘trethwch ef, peidiwch â chymryd y risg’.
Mae’r hysbysebion ar gael ar y radio, safleoedd poster, cyfryngau cymdeithasol, sianeli digidol ac mewn print. Mae’r tabl isod yn dangos yr ardaloedd ledled y DU lle gweithredwyd rhai o’r nifer uchaf o gamau gorfodi yn 2021:
Ardal | Cyfanswm y camau gorfodi (yn cynnwys dirwyon, cosbau a chlampio) |
---|---|
Llundain | 97,013 |
Birmingham | 52,073 |
Manceinion | 28,703 |
Glasgow | 25,304 |
Sheffield | 24,962 |
Caerdydd | 24,159 |
Nottingham | 21,810 |
Briste | 20,018 |
Newcastle | 18,890 |
Abertawe | 18,220 |
Leeds | 14,930 |
Reading | 14,573 |
Ochr yn ochr â chosbau gorfodi awtomataidd ar gyfer ceidwaid cofrestredig cerbydau sydd heb eu trethu, mae timau gorfodi DVLA a phartneriaid clampio olwynion hefyd yn teithio o amgylch y DU fel rhan o’u gweithgarwch o ddydd i ddydd gan gymryd camau yn erbyn cerbydau sydd heb eu trethu. Mae dros 98% o gerbydau’n cael eu trethu’n gywir ond mae’n iawn ein bod yn gweithredu yn erbyn y rhai sy’n parhau i dorri’r gyfraith.
Mae’r ymgyrch eleni’n canolbwyntio ar y neges glir bod ceir sydd heb eu trethu yn ‘anodd ei guddio, yn hawdd ei drethu’ ac i’r rhai sy’n parhau i ddiystyru’r rheolau, mae’r canlyniadau’n cynnwys cosbau ariannol, achos llys, clampio a hyd yn oed colli car.
Ni fu erioed yn haws trethu cerbyd – mae DVLA yn cynnig amrywiaeth o opsiynau gan gynnwys y gwasanaeth treth cerbyd ar-lein sydd ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos neu drethu yn Swyddfa’r Post a hyd yn oed rhannu’r gost gan ddefnyddio debyd uniongyrchol.
Dywedodd Prif Weithredwr DVLA, Julie Lennard:
Mae gan yr ymgyrch hon neges glir i unrhyw un sy’n oedi neu’n osgoi trethu eu cerbyd.
Nid yw erioed wedi bod yn haws trethu cerbyd, o ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein 24/7 i opsiynau debyd uniongyrchol. Rydym am i fodurwyr ddeall nad yw’n werth cymryd risg a threthu eu cerbydau ar amser.
Gall modurwyr fynd ar-lein, 24 awr y dydd, i drethu cerbyd neu i wirio os yw eu treth cerbyd yn gyfredol.
Swyddfa'r wasg
Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL
Email press.office@dvla.gov.uk
Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig: 0300 123 2407