Stori newyddion

Ymgyrch DVLA newydd yn amlygu’r goblygiadau ar gyfer gyrwyr sy’n osgoi treth cerbyd

Mae DVLA wedi lansio ymgyrch cyhoeddusrwydd newydd mewn 11 ardal ar draws y wlad yn targedu gyrwyr sydd heb drethu eu ceir.

Mae’r neges yn glir i fodurwyr – os nad ydych yn trethu eich cerbyd ar amser, bydd DVLA yn cymryd camau. Trethwch ef neu byddwch yn ei golli.

Yr 11 ardal yn y DU sydd wedi eu targedu yw ardaloedd ble y mae osgoi treth cerbyd mwyaf uchel (yn seiliedig ar y nifer o gamau gorfodi a ddigwyddodd yn 2018).

Ardal Clampiwyd Dirwy neu gosb Cyfanswm
Llundain 27,605 94,550 122,155
Gogledd Iwerddon 5,516 67,944 73,460
Birmingham 5,076 50,045 55,121
Manceinion 7,573 26,214 33,787
Glasgow 2,666 29,705 32,371
Sheffield 3,987 25,291 29,278
Caerdydd 3,021 24,598 27,619
Nottingham 3,507 21,346 24,853
Bryste 3,496 20,412 23,908
Caerlyr 3,344 19,196 22,540
Coventry 1,257 18,193 19,450

Mae’r ymgyrch hysbysebu yn canolbwyntio ar goblygiadau beidio â threthu eich cerbyd – o gosbau ariannol i achos llys i glampio ac yn olaf colli’r car.

Mae clamp enfawr sy’n ganolbwynt i ddelwedd yr ymgyrch yn adlewyrchu’r ffaith bod DVLA yn cymryd camau gorfodi yn erbyn cerbydau heb dreth ar strydoedd ar draws y wlad, a gall ddigwydd i chi os nad ydych yn trethu’ch cerbyd ar amser.

Dywedodd Pennaeth Gorfodi Tim Burton:

Mae gan yr ymgyrch hon neges clir ar gyfer unrhyw un sy’n diystyru’r gyfraith yn y modd hwn – trethwch ef neu byddwch yn ei golli.

Nid yw erioed wedi bod yn haws i drethu’ch car, felly nid oes esgus o gwbl. Byddai’n well gennym beidio â chlampio neu symud ceir, ond mae’r ymgyrch hon yn amlygu goblygiadau beidio â threthu eich cerbyd. Mae clampio’ch cerbyd yn ddrud ac yn anghyfleus – a gallwch yn y pen draw golli eich car.

Gall modurwyr fynd ar-lein, 24 awr y dydd, i drethu cerbyd neu wirio os oes gan y cerbyd treth gyfoes. Gallwch hyd yn oed wirio drwy ofyn Amazon Alexa neu Google Home – dim ond eich rhif cofrestru sydd arnoch ei angen.

Cyhoeddwyd ar 21 February 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 27 February 2019 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.