Stori newyddion

Dyfarnu contractau newydd i Bartneriaid Cyflawni Milfeddygol

Mae profion twbercwlosis (TB) statudol a gwasanaethau milfeddygol eraill y Llywodraeth yng Nghymru a Lloegr bellach yn cael eu cyflawni o dan gontractau newydd gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion

Cows in a field

Yn dilyn ymarfer ail-dendro gorfodol, bydd profion twbercwlosis (TB) statudol a gwasanaethau milfeddygol eraill y Llywodraeth yng Nghymru a Lloegr yn cael eu cyflawni o dan gontractau newydd gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) o 1 Mehefin 2021 ymlaen.

Mae Partneriaid Cyflawni Milfeddygol Rhanbarthol wedi bod yn darparu gwasanaethau ar ran APHA ar gyfer DEFRA a Llywodraeth Cymru ers 2015. Disgwylir cyfnod pontio didrafferth gan fod y contractau newydd i gyd wedi cael eu dyfarnu i’r Partneriaid Cyflawni Milfeddygol presennol yn dilyn proses dendro agored a gynhaliwyd yr hydref diwethaf. Bydd y contractau newydd ar waith tan 2024 yn y lle cyntaf.

Mae chwe rhanbarth Partner Cyflawni Milfeddygol – pedwar yn Lloegr (roedd pump yn Lloegr yn flaenorol) a dau yng Nghymru. O 1 Mehefin 2021 ymlaen, caiff unrhyw archebion newydd am waith eu dyrannu i’r Partner Cyflawni Milfeddygol sy’n gyfrifol am gyflawni o dan y contractau newydd.

Mae’n ofynnol i Bartneriaid Cyflawni Milfeddygol weithio gyda’r holl fusnesau milfeddygol cymwys sy’n gweithio yn eu rhanbarth daearyddol. Mae hyn yn golygu y bydd practis milfeddygol y ceidwad ei hun yn parhau i ddarparu gwasanaethau ar y fferm lle bynnag y bo’n bosibl, gan gydnabod pwysigrwydd milfeddygon lleol yn y gwaith o atal a rheoli heintiau a sicrhau iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru a Lloegr.

Yn ogystal â phrofion TB, mae’r contractau newydd yn sicrhau y gellir cynnig amrywiaeth ehangach o wasanaethau milfeddygol a thechnegol, gan gynnwys swyddogaethau i ategu gwaith APHA ym meysydd rheoli clefydau egsotig a lles anifeiliaid fferm. Yn bwysig ddigon, un o amcanion eraill y contractau newydd yw gwella trefniadau sicrhau ansawdd ymhellach drwy gynnig gweithdrefnau archwilio a rheoli perfformiad gwell.

Christine Middlemiss, Prif Swyddog Milfeddygol y DU:

“Mae’r contractau newydd yn canolbwyntio, a hynny’n briodol, ar wella’r gwasanaethau sicrhau ansawdd y mae ein Partneriaid Cyflawni Milfeddygol yn eu darparu ymhellach. Mae’r contractau newydd i Bartneriaid Cyflawni Milfeddygol yn rhan hanfodol o’r gwaith o gyflawni ein polisi rheoli haint TB yn Lloegr.

Yr Athro Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru:

“Hoffwn longyfarch Menter a Busnes ac Iechyd Da (Gwledig) Ltd am gael eu dewis yn Bartneriaid Cyflawni Milfeddygol yng Nghymru i ni am yr ail dro. Mae practisau milfeddygol preifat yn chwarae rhan allweddol wrth i ni gydweithio i ddileu TB, ac mae profion blynyddol yn un o gonglfeini ein Rhaglen.

“Mae gweithio mewn partneriaeth wrth wraidd ein polisïau iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru, ac rwy’n falch bod modd i ni barhau i gydweithio er mwyn adeiladau ar y llwyddiannau a gafwyd eisoes.

Mae’r llythyrau Hysbysiad o Brawf Twbercwlosis a anfonir gan APHA at geidwaid yn parhau i ddangos pa Bartner Cyflawni Milfeddygol sy’n gyfrifol am gynnal y prawf. Y ceidwad sy’n gyfrifol o hyd am drefnu profion, a dylai ceidwaid barhau i gysylltu â’u practis milfeddygol arferol i wneud y trefniadau.

Rhaid i wasanaethau yng Nghymru gael eu cynnig yn Gymraeg pan ofynnir am hynny.

Ni fydd newid i’r trefniadau yn yr Alban, am nad yw’r Partneriaid Cyflawni Milfeddygol ar waith yno.

O 1 Mehefin 2021 ymlaen, y Partneriaid Cyflawni Milfeddygol rhanbarthol yw:

  • Gogledd Cymru: Menter a Busnes
  • De Cymru: Iechyd Da (Gwledig) Cyf
  • Dyfnaint a Chernyw: Farmcare Devon & Cornwall Ltd
  • Gorllewin Lloegr: Farmcare West Ltd
  • De a Dwyrain Lloegr: Farmcare Central Ltd
  • Gogledd Lloegr: Farmcare North Ltd

Mae APHA yn bwriadu gweithio gyda’r Partneriaid Cyflawni Milfeddygol newydd i gynnal amrywiaeth o fentrau gwelliant parhaus drwy weithio mewn partneriaeth yn well ac adeiladu ar lwyddiannau contractau blaenorol. Bydd cynlluniau yn canolbwyntio ar welliannau ym meysydd ffermydd, darparu gwasanaethau, gwaith gweinyddol a sicrhau ansawdd, ac yn nodi cyfleoedd eraill i weithio mewn partneriaeth yn well rhwng yr Awdurdod a’r Partneriaid Cyflawni Milfeddygol.

David Pugh, Prif Filfeddyg Swyddogol ar gyfer Menter a Busnes:

“Rydym yn hynod falch o barhau i weithio gyda phob milfeddyg yng ngogledd Cymru er mwyn darparu gwasanaeth milfeddygol o safon uchel i ffermwyr yn y rhanbarth. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at barhau i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, APHA ac Iechyd Da er mwyn cynnig y gwasanaethau iechyd anifeiliaid gorau posibl i geidwaid.

David Thomas, Prif Filfeddyg Swyddogol ar gyfer Iechyd Da (Gwledig) Ltd:

“Mae’n bleser gan Iechyd da (sef cwmni sy’n cynnwys yr holl bractisau milfeddygol i anifeiliaid mawr yn Ne Cymru) barhau â’i bartneriaeth lwyddiannus â Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu gwasanaethau milfeddygol pwysig yn yr ardal. Mae’n amlwg mai cydweithio rhwng y proffesiwn milfeddygol preifat a’r llywodraeth yw’r ffordd orau o weithredu yn y cyfnod heriol hwn o ran heintiau anifeiliaid fferm a’r diwydiant da byw yng Nghymru.

James Allcock, Cyfarwyddwr Milfeddygol UK Farmcare, a oedd yn rhan o bob cais llwyddiannus i fod yn Bartner Cyflawni Milfeddygol yn Lloegr:

“Rydym yn edrych ymlaen at barhau i gynnig cyfle i bob practis da byw gynnal profion TB a darparu gwasanaethau milfeddygol eraill y Llywodraeth, os bydd am wneud hynny. Ein gobaith yw gwella ein cydberthynas ag APHA er mwyn sicrhau bod gan holl randdeiliaid y diwydiant fwy o hyder yn yr ymdrechion sy’n cael eu gwneud i leihau effaith TB ar ffermydd. Mae’n arbennig o galonogol gweld bod yr Awdurdod yn cydnabod yn glir mor bwysig yw cael cymuned fywiog o bractisau milfeddygol gwledig ar gyfer da byw, yn enwedig pan fydd achosion brys o glefydau hysbysadwy.

Cyhoeddwyd ar 21 June 2021