Datganiad i'r wasg

Cyfleusterau chwaraeon newydd ac wedi’u huwchraddio ar lawr gwlad i gadw Cymru'n heini

Mae 64 o brosiectau cymunedol ar hyd a lled Cymru yn elwa diolch i ymgyrch newydd y Llywodraeth i roi hwb newydd i gyfleusterau chwaraeon ar lawr gwlad.

  • 64 o brosiectau cymunedol ar hyd a lled Cymru yn elwa ar gyfleusterau chwaraeon newydd ac wedi’u huwchraddio ar lawr gwlad 
  • Bydd Boost yn gwella hygyrchedd a chynaliadwyedd, drwy gyfleusterau aml-chwaraeon, caeau pob tywydd, pyst gôl, llifoleuadau a hybiau cymunedol – gyda 50% yn mynd i 30% o’r cymunedau mwyaf difreintiedig yn y DU
  • Mae Move yn cefnogi’r ymgyrch i chwalu’r rhwystrau rhag cael mynediad at gyfleoedd, i roi ffyrdd fforddiadwy i deuluoedd gadw’n iach, ac i ddarparu GIG sy’n addas ar gyfer y dyfodol 
  • Bydd y ffenestr i wneud cais am gyfran o’r £5 miliwn o gyllid sydd ar gael i’w ddosbarthu ledled Cymru yn 2026/27 yn agor yn fuan

Mae 64 o brosiectau cymunedol ar hyd a lled Cymru yn elwa o gaeau pob tywydd newydd, oriau chwarae estynedig oherwydd llifoleuadau, a chyfleusterau newid modern sydd wedi’u dylunio i groesawu grwpiau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol (fel menywod a merched), diolch i ymgyrch newydd y Llywodraeth i roi hwb newydd i gyfleusterau chwaraeon ar lawr gwlad. 

Dyfarnwyd cyllid i’r prosiectau ym mhob cwr o’r wlad drwy’r Rhaglen Cyfleusterau Aml-chwaraeon ar Lawr Gwlad yn 2025/26, gyda mwy o fuddiolwyr i’w cyhoeddi’n fuan. 

Bydd y cyfleusterau hyn sy’n cael eu darparu o’r newydd neu’n cael eu hadnewyddu yn rhoi opsiynau fforddiadwy i deuluoedd gadw’n heini ar garreg eu drws, gan helpu mewn cyfnod pan fo llawer o bobl dan bwysau oherwydd costau byw. Bydd hefyd yn agor cyfleoedd i grwpiau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol, fel menywod a merched. Bydd o leiaf hanner yr holl gyllid yn mynd yn syth i’r 30% o gymunedau mwyaf difreintiedig yn y DU. 

Bydd clybiau a mudiadau chwaraeon hefyd yn elwa o byst gôl, ffensys ac ystafelloedd newid newydd – sydd i gyd yn helpu i wneud safleoedd yn fwy hygyrch a chynaliadwy i gymunedau lleol. I sicrhau cyfranogiad ehangach y tu hwnt i bêl-droed, mae’n rhaid i o leiaf 40% o’r prosiectau gynnig cyfleusterau aml-chwaraeon. Bydd y dull hwn yn rhoi mynediad i fwy o bobl at amrywiaeth ehangach o chwaraeon a gweithgareddau, fel rygbi, criced a phêl-fasged.

Mae manylion llawn y 991 o brosiectau yn y DU sydd wedi cael eu hariannu drwy’r Rhaglen Cyfleusterau Aml-Chwaraeon ar Lawr Gwlad yn 2025/26 adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn wedi’u hatodi, ac maent ar gael ar GOV.UK.

Heddiw, mae’r Llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi’r dyraniadau ar gyfer y £5.375m nesaf o fuddsoddiad mewn cyfleusterau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru ar gyfer 2026/27, fel rhan o hwb gwerth £400 miliwn a lansiwyd gan y Llywodraeth ym mis Mehefin 2025.  Bydd y cyfnod ymgeisio yn agor yn yr Alban cyn bo hir.

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae chwaraeon ar lawr gwlad wrth galon cymunedau ar hyd a lled Cymru – maen nhw’n rhoi cyfleoedd i blant ac oedolion, yn ogystal â chynnig manteision sylweddol o ran iechyd a chymdeithasu.

O’r Rhondda i Wrecsam, mae Llywodraeth y DU wedi buddsoddi mewn dwsinau o gyfleusterau newydd i helpu clybiau lleol gyda’u gwaith gwych mewn cymunedau, ac i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc ym myd chwaraeon. Rydw i’n annog llawer mwy i wneud cais am y cyllid newydd sydd ar gael gennym.

Dywedodd Lisa Nandy, yr Ysgrifennydd Diwylliant:

Dyma chwaraeon sy’n diwallu anghenion y genedl. Mae pob punt rydyn ni’n ei buddsoddi mewn cyfleusterau ar lawr gwlad yn bunt sy’n tynnu pwysau oddi ar ein GIG, yn cefnogi iechyd y corff a’r meddwl, ac yn agor drysau i alluogi aelodau newydd o’r gymuned sydd wedi cael eu cau allan am ormod o amser – fel menywod a merched – i elwa ar chwaraeon.

Rydyn ni’n cefnogi cymunedau sydd wedi gwneud y tro ers blynyddoedd â chaeau sydd wedi dirywio ac ystafelloedd newid sy’n disgyn yn dipiau. Mae’r llywodraeth hon yn trawsnewid hynny – drwy adeiladu cyfleusterau sy’n annog pobl i fod yn egnïol, yn dod â chymunedau at ei gilydd, ac yn meithrin y genhedlaeth nesaf o dalent ym myd chwaraeon.

Dywedodd Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru:

Rydyn ni’n falch iawn o rannu manylion y prosiectau sydd wedi cael eu cefnogi eleni, ochr yn ochr â chyllid ychwanegol i ddatblygu cyfleusterau newydd. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth y DU a phartneriaid i ddarparu cyfleusterau o safon sy’n gwneud gwahaniaeth mewn cymunedau wedi’u targedu ar hyd a lled Cymru.

Dywedodd Aled Lewis, Cyfarwyddwr Sefydliad Pêl-droed Cymru:

Rydyn ni’n falch iawn o rannu manylion y prosiectau sydd wedi cael eu cefnogi eleni, ochr yn ochr â chyllid ychwanegol i ddatblygu cyfleusterau newydd. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth y DU a phartneriaid i ddarparu cyfleusterau o safon sy’n gwneud gwahaniaeth mewn cymunedau wedi’u targedu ar hyd a lled Cymru.” 

Drwy ddarparu cyfleusterau chwaraeon lleol newydd neu uwchraddio cyfleusterau sydd wedi dyddio, bydd y cyllid yn darparu: 

  • Caeau 3G newydd sy’n golygu bod modd chwarae gydol y flwyddyn waeth beth fo’r tywydd
  • Gwell ystafelloedd newid gyda chyfleusterau newid mwy priodol i fenywod a merched
  • Llifoleuadau i ymestyn yr oriau chwarae i gyda’r nos, a chyfleusterau parcio er mwyn bod yn fwy hygyrch
  • Pyst gôl, ffensys a chyfleusterau storio newydd i wella diogelwch a mynediad
  • Slotiau blaenoriaeth i dimau menywod a merched mewn safleoedd a ariennir
  • Cyfleusterau y gellir eu defnyddio i gynnal gwersi addysg gorfforol a gweithgareddau ysgolion, ochr yn ochr â defnydd cymunedol
  • Safleoedd sy’n cefnogi mentrau iechyd a rhaglenni allgymorth cymunedol

Bwriad y cyllid yw hybu iechyd, llesiant a chydlyniant cymunedol, cael gwared â’r rhwystrau sy’n atal grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol (fel menywod a merched, pobl ag anableddau, a chymunedau ethnig lleiafrifol) rhag cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, a chefnogi Cynllun ar gyfer Newid y Llywodraeth drwy chwalu’r rhwystrau i gyfleoedd a darparu GIG sy’n addas ar gyfer y dyfodol.  

Cyhoeddiad heddiw yw’r rhan ddiweddaraf o hwb gwerth £400 miliwn ar gyfer cyfleusterau chwaraeon ar lawr gwlad a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth ym mis Mehefin 2025

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 29 Ionawr 2026