‘Diogelu ac yn amddiffyn treftadaeth ein cenedl’ – Ysgrifennydd Cymru yn cwrdd â Chyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru
Fe wnaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, gwrdd a Justin Albert heddiw, sef cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, i drafod…
Fe wnaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, gwrdd a Justin Albert heddiw, sef cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, i drafod sut mae’r sefydliad yn tanio dychymyg y cyhoedd yng Nghymru drwy ddod a hanes yn fyw yn safleoedd treftadaeth allweddol Cymru.
Fe wnaeth Mr Albert, a ddechreuodd yn ei swydd fel cyfarwyddwr ym mis Ionawr, amlinellu cynlluniau’r Ymddiriedolaeth ar gyfer trefn berchnogaeth newydd Tŷ Tredegar o ddydd Llun [19eg Mawrth] ymlaen. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn bwriadu ei agor i’r cyhoedd o’r 4ydd Ebrill.
Dywedodd Mrs Gillan: “Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn chwarae rhan hollbwysig yn diogelu ac yn amddiffyn treftadaeth y genedl. Dyma’r busnes twristiaeth mwyaf yng Nghymru, sy’n croesawu dros filiwn o bobl i’w atyniadau, ac yn darparu mynediad i bedair miliwn o bobl eraill fwynhau arfordir a chefn gwlad godidog Cymru.
“Mae’r Ymddiriedolaeth wedi llwyddo i barhau i ailddyfeisio ei hun a chyrraedd cynulleidfa ehangach drwy weithio gyda chymunedau a sefydliadau eraill i ddod a hanes yn fyw. Drwy danio dychymyg pobl o bob oed, mae’r Ymddiriedolaeth yn parhau i roi cyfle i ymwelwyr fwynhau a chael eu cyfoethogi, a hynny gryn amser ar ol iddynt adael yr atyniad ei hun. Mae gennyn ni hanes sy’n werth ei ddathlu, a gan fod y sector twristiaeth yn werth £1.8bn i economi Cymru, mae’n hanfodol ein bod ni’n cefnogi Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru i wneud yn siŵr bod atyniadau Cymru’n parhau i ffynnu.”