Wythnos Genedlaethol Prentisiaid: Ysgrifennydd Cymru yn llongyfarch prentisiaid Swyddfa Cymru
Mae David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi cyflwyno tystysgrifau NVQ Lefel 2 mewn Busnes a Gweinyddiaeth i brentisiaid Swyddfa Cymru …
Mae David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi cyflwyno tystysgrifau NVQ Lefel 2 mewn Busnes a Gweinyddiaeth i brentisiaid Swyddfa Cymru heddiw, 12 Mawrth 2013.
Yn yr un modd a nifer o fusnesau ac adrannau eraill yn y llywodraeth mae Swyddfa Cymru wedi ymrwymo i’r rhaglen prentisiaethau.
Cafodd ein prentisiaid Minhaj Miah, 18, o Tower Hamlets a Paul Fonceca, 22, o Penge, De Llundain eu cyflogi ar ddiwedd 2011. Ers hynny maent wedi gweithio mewn Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol y naill a’r llall, a nawr eu bod wedi ennill eu NVQ Lefel 2, maent yn gweithio tuag at eu tystysgrif Lefel 3.
Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
“Rwyf yn gefnogol iawn i’r rhaglen prentisiaethau sydd gennym ar waith yn Swyddfa Cymru. Ni yw un o adrannau lleiaf y llywodraeth, serch hynny rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd gwaith gwych.
“Drwy’r rhaglen rydym wedi gallu cynnig sylfaen gadarn i Paul a Minhaj ar gyfer y dyfodol ac mae’n bleser gennyf gyflwyno eu tystysgrifau NVQ Lefel 2 iddynt. Gwn eu bod wedi gweithio’n galed iawn i ennill y rhain.”