Stori newyddion

MyHMCTS yn cyflwyno dilysu aml-ffactor

Cyflwyno dilysu aml-ffactor i ddarparu lefel uwch o ddiogelwch i gyfrifon defnyddwyr.

Mae MyHMCTS, y gwasanaeth ar-lein sy’n galluogi cyfreithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes y gyfraith i gyflwyno ceisiadau ar-lein, talu amdanynt a’u rheoli, yn cyflwyno dilysu aml-ffactor a fydd yn darparu lefel uwch o ddiogelwch i gyfrifon defnyddwyr. Bydd y gwasanaeth yn cael ei ddiweddaru i gynnwys y swyddogaeth hon ar y 18fed o Dachwedd, ac o hynny ymlaen fe ofynnir i ddefnyddwyr ddilysu eu manylion mewngofnodi pan fyddant yn defnyddio MyHMCTS.

Sut mae’n gweithio

Ar ôl mewngofnodi gan ddefnyddio eu manylion arferol, fe anfonir neges e-bost at y defnyddiwr gyda chod dilysu (gweler yr enghraifft isod). Yna bydd angen iddynt deipio’r cod hwn ar y sgrin mewngofnodi er mwyn gallu mynd i mewn i’r system a chael mynediad at eu hachosion. Ni fydd hyn yn newid sut y mae MyHMCTS yn gweithio a bydd angen cod dilysu bob tro y bydd defnyddwyr yn mewngofnodi. Bydd y cod yn ddilys unwaith yn unig ac ar ôl awr o anactifedd, bydd defnyddwyr yn cael eu hallgofnodi ac fe ofynnir iddynt ail-ddilysu eu manylion.

Bydd y cod dilysu yn dod gan y cyfeiriad e-bost hwn hm.courts.and.tribunals.registrations@notifications.service.gov.uk a bydd angen i ddefnyddwyr ychwanegu’r cyfeiriad e-bost hwn at eu rhestr o anfonwyr diogel er mwyn sicrhau na fydd y cod dilysu yn mynd i’w ffolder ‘spam’ neu ‘junk’.

Gall defnyddwyr sy’n cael anawsterau anfon neges e-bost i myhmctssupport@justice.gov.uk. Gweler ein tudalen gyfarwyddyd am ragor o wybodaeth ynghylch defnyddio MyHMCTS: gwasanaeth rheoli achosion ar-lein ar gyfer unigolion proffesiynol ym maes y gyfraith.

Cyhoeddwyd ar 13 November 2020