Datganiad i'r wasg

Anogir modurwyr i wirio rheolau ar dynnu ôl cerbyd cyn gwyliau'r haf

Gyda diwydiant twristiaeth y DU yn disgwyl blwyddyn arbennig, mae DVLA yn atgoffa modurwyr i sicrhau nad ydynt yn torri'r rheolau wrth dynnu carafán ar gyfer eu gwyliau.

Image of a caravan being towed by a car on a road

Mae gwyliau carafanau yn dod yn fwy a mwy poblogaidd, gyda ffigurau’r diwydiant yn dangos bod archebion ar gyfer 2019 i fyny 16% o’i gymharu â’r llynedd.

Mae’n bosibl bod miloedd o fodurwyr angen gwirio eu hawl i dynnu ôl cerbyd, wrth i dwristiaid o’r DU dreulio tua 50 miliwn o nosweithiau yn 555,000 o garafanau teithiol y DU.

Dywedodd Cyfarwyddwr Strategaeth, Polisi a Chyfathrebu DVLA Lynette Rose:

Mae’n bwysig bod pob modurwr yn gwybod beth mae eu trwydded yrru yn caniatáu iddynt yrru ac a oes ganddynt hawl i dynnu ôl cerbyd.

Os oes unrhyw un yn ansicr, dylent ymweld â GOV.UK lle gallant gael gwybod a oes ganddynt hawl i dynnu ôl cerbyd gyda dim ond ychydig o gliciau.

Mae rheolau tynnu ôl cerbyd yn amrywio ar gyfer gyrwyr, yn dibynnu ar bryd y gwnaethant basio eu prawf gyrru. Ceir gwahanol reolau tynnu ôl cerbyd ar gyfer modurwyr a basiodd eu prawf cyn 1 Ionawr 1997.

P’un a ydynt yn gwirio categorïau eu trwydded yrru neu’r lwfans pwysau y gallant ei dynnu, gall modurwyr ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i yrru’n ddiogel yr haf hwn ar GOV.UK.

Dywedodd Harvey Alexander, Cyfarwyddwr Marchnata’r Clwb Carafannau a Chartrefi Modurol:

Bu cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy’n dewis treulio eu gwyliau yn carafanio.

Mae cerbydau hamdden yn cynnig ffordd wych o archwilio rhannau o’r wlad nad ydych erioed wedi’u profi o’r blaen, ac mae’n bwysig iawn i ni ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu pobl sydd ar eu gwyliau i wneud hynny’n ddiogel ac yn gyfreithlon.

Gall modurwyr wirio eu hawliau trwydded yrru ar GOV.UK gyda gwasanaeth ‘gweld neu rannu eich gwybodaeth trwydded yrru’ y DVLA. Gellir hefyd dod o hyd i wybodaeth am dynnu ôl cerbydau.

Nodiadau i olygyddion

  • Dywed y Clwb Carafanau a Chartrefi Modurol ei fod wedi profi’r dechrau mwyaf llwyddiannus i’r flwyddyn erioed, gydag archebion i’w 2,700 o safleoedd yn y DU wedi cynyddu 16%.
  • Ystadegau am y nosweithiau a dreuliwyd yng ngharafanau teithiol a chartrefi modur y DU gan NCC, diwydiant masnach dielw sy’n cynrychioli’r fasnach carafanau a chartrefi modurol.
  • Fel rheol, caniateir i fodurwyr a basiodd eu prawf cyn 1 Ionawr 1997 yrru cyfuniad cerbyd a threlar hyd at uchafswm màs awdurdodedig (MAM) o 8,250kg. Dylent edrych ar wybodaeth am eu trwydded yrru i wirio.
  • Gall modurwyr a basiodd eu prawf gyrru car ar 1 Ionawr 1997 neu ar ôl hynny yrru car neu fan gyda MAM o hyd at 3,500kg wrth dynnu trelar gyda MAM o hyd at 750kg. Gallant dynnu trelar gyda MAM o dros 750kg cyn belled nad yw MAM cyfun y trelar a’r cerbyd sy’n tynnu yn fwy na 3,500kg.
  • Mae cyfyngiadau maint pellach ar gyfer trelars y gellir eu tynnu gan fodurwyr a basiodd eu prawf ar 19 Ionawr 2013 neu ar ôl hynny.
  • Newidiodd hawliau trwydded yrru ar gyfer cartrefi modurol dros 3,500kg ar 1 Ionawr 1997 hefyd. Gall unrhyw un a basiodd ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw yrru cerbydau hyd at 3,500kg. Gall pobl a basiodd cyn hynny yrru cerbydau hyd at bwysau o 7,500kg.
  • Cael mwy o wybodaeth am wahanol gategorïau o drwydded yrru.
  • Mae’r gwasanaeth gweld neu rannu eich gwybodaeth trwydded yrru hefyd yn caniatáu i fodurwyr wirio eu trwydded am unrhyw ardystiadau. I gael mynediad at eu gwybodaeth bydd angen rhifau trwydded yrru ac Yswiriant Gwladol ar fodurwyr, neu gallant ddefnyddio GOV.UK Verify.
  • Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os cafodd eich trwydded ei chyhoeddi y tu allan i’r Alban, Cymru neu Loegr.

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 9 August 2019