Datganiad i'r wasg

Mwy o ymwelwyr i Gymru yn 2014 wrth i'r DU weld y flwyddyn orau erioed o ran twristiaeth

Y Llywodraeth yn cyhoeddi cynllun newydd i hybu ymwelwyr i fynd y tu hwnt i Lundain

Cardiff Castle

Yn ôl dadansoddiad newydd a ddatgelwyd heddiw, gwariodd ymwelwyr rhyngwladol £368m y llynedd wrth iddynt ymweld â Chymru, cynnydd o 5% o 2013. Ymwelodd 933,000 â’r ardal hefyd yn 2014, cynnydd o 7 y cant o 2013.

Croesawodd y Gweinidog Twristiaeth, Tracey Crouch y ffigurau diweddaraf gan addo gweithio’n agos gyda’r diwydiant i helpu i gryfhau twristiaeth yn fwy ledled y DU.

Daw’r newyddion wrth i’r Prif Weinidog gyhoeddi cynllun 5 pwynt newydd y Llywodraeth heddiw i roi hwb i dwristiaeth ym mhob ardal yn y DU - gan ymestyn buddion un o’n sectorau sy’n tyfu gyflymaf y tu hwnt i’r brifddinas.

Bydd grŵp newydd rhwng y gweinidogion yn cael ei ffurfio i gydlynu a chysoni camau gweithredu ar draws y Llywodraeth gan sicrhau bod gennym y seilwaith priodol ar waith i’w gwneud yn haws i ymwelwyr ddarganfod y gorau sydd gan y wlad hon i’w gynnig.

Yr Ysgrifennydd Diwylliant, John Whittingdale fydd yn arwain y grŵp a fydd yn cynnwys gweinidogion o bob rhan o’r llywodraeth, gan gynnwys yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol, Yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau, DEFRA, Y Swyddfa Gartref, a’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Bydd y grŵp yn canolbwyntio ar bum maes allweddol:

  1. Sector sydd wedi’i gydlynu’n well: mae’r sector yn rhy dameidiog - rydym am weld atyniadau lleol a sefydliadau twristiaeth yn cydweithio i ddatblygu’r sector i bawb nad yw’n cystadlu.
  2. Sgiliau a gwaith: Hybu a chadw talent yn y sector i annog twf
  3. Rheoleiddio mewn ffordd synhwyrol: Diwygio rheoliadau’n ddoeth i hybu cystadleuaeth a gwella’r hyn sydd gan dwristiaeth i’w gynnig i ymwelwyr
  4. Trafnidiaeth: Creu cysylltiadau arloesol rhwng y sector trafnidiaeth a’r sector twristiaeth i helpu ymwelwyr i deithio y tu allan i’r brifddinas
  5. Croeso gwell: Sicrhau croeso o’r radd flaenaf ar y Gororau Gwahoddir gweinidogion o lywodraethau Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon i ymuno a’r grŵp hefyd pan fo hynny’n berthnasol.

Dywedodd y Prif Weinidog, David Cameron:

Mae miliynau o ymwelwyr tramor yn ymweld â’r DU bob blwyddyn ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn mwynhau atyniadau Llundain. Ond mae gan Brydain lawer yn fwy i’w gynnig, o Rifiera Cernyw i Ucheldiroedd yr Alban a phopeth rhyngddynt yn y canol.

I lawer o ardaloedd, twristiaeth yw’r prif ddiwydiant sy’n dod â swyddi, twf a sicrwydd i bobl sy’n gweithio. Mae twristiaeth yn cefnogi bron i un o bob 10 swydd yn y DU ac rydym am adfer cydbwysedd yr economi i wneud yn siŵr bod yr hwb hwn i’w deimlo ar draws y wlad.

Dywedodd Tracey Crouch, y Gweinidog Twristiaeth:

Mae Cymru yn cynnig cymysgedd gwych ac amrywiol o olygfeydd a phrofiadau. Mae’n wych bod cynifer o ymwelwyr wedi ymweld â’r rhan hon o’r DU yn 2014.

Mae’r gystadleuaeth am deithwyr o bob rhan o’r byd yn fwy nag erioed. Rhaid i ni beidio â gorffwys ar ein rhwyfau a rhaid i ni barhau i fuddsoddi a chefnogi’r hyn sydd gan dwristiaeth y DU i’w gynnig. Edrychaf ymlaen at weithio’n agos gyda’r sector twristiaeth i hyrwyddo’r gorau o Brydain fel rhan o’n cynllun economaidd hirdymor a gweld llefydd fel yr Alban yn parhau i fwynhau diwydiant twristiaeth sy’n tyfu.

Dywedodd yr Arglwydd Bourne, sy’n weinidog yn Swyddfa Cymru:

Mae twristiaeth yn rhan hanfodol o economi Cymru. Mae’n cyflogi dros 140,000 o bobl, sydd gyfystyr â 10% o swyddi Cymru ac yn creu miliynau o bunnoedd o wariant yng Nghymru.

Mae partneriaethau cadarn rhwng y llywodraeth, y diwydiant twristiaeth a darparwyr trafnidiaeth yn helpu’r sector twristiaeth yng Nghymru i barhau i ffynnu.

Rwy’n gobeithio y bydd cyhoeddiad heddiw yn gychwyn hwb mawr i dwristiaeth ar draws y DU a fydd yn dod â mwy o ymwelwyr, swyddi a gwariant i Gymru.

Dywedodd Adrian Greason-Walker, Cyfarwyddwr Gweithredol Cynghrair Twristiaeth Cymru:

Mae’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru yn awyddus bob amser i weld y seilwaith sy’n sail i’n heconomi yn cryfhau mwy.

Mae angen seilwaith arnom a fydd yn gymorth i’n diwydiant sicrhau’r cynnyrch gorau y mae ein hymwelwyr yn ei ddisgwyl ac sy’n dangos Cymru ar ei gorau’.

Yn y DU croesawyd mwy o ymwelwyr nag erioed yn 2014, gyda 34.4 miliwn o bobl yn ymweld, gan wario £21.8 biliwn mewn cyrchfannau ar hyd a lled y wlad, swm mwy nag erioed o’r blaen.

Mae’r diwydiant, ochr yn ochr â’r llywodraeth a VisitBritain, yn gweithio gyda byrddau croeso cenedlaethol a lleol i sicrhau bod y DU yn aros yn gystadleuol a byddwn yn parhau i adeiladu ar y llwyddiant hwn.

Hefyd, mae’r Llywodraeth yn ei gwneud yn fwy atyniadol i bobl ddod i’r DU drwy ddiwygio’r doll teithwyr awyr (APD). Diddymwyd y ddau fand uchaf ar 1 Mai 2015 ac nid oes raid talu’r doll teithwyr awyr ar gyfer plant dan 12 oed erbyn hyn, ac mae hyn yn lleihau’r dreth i filiynau o deithwyr.

Cyhoeddwyd ar 17 July 2015