Datganiad i'r wasg

Degawd o gefnogaeth yn arwain at lansio dros 8,000 o fusnesau newydd gan geiswyr gwaith yng Nghymru

Dros chwarter miliwn o Gynlluniau Lwfans Menter Newydd wedi dechrau gan hawlwyr budd-dal di-waith ers ei lansiad yn 2011

man typing on laptop

Mae’r ffigurau a gyhoeddwyd heddiw yn dangos y defnyddiodd dros 8,000 o geisiwr Gwaith yng Nghymru gymorth gan eu Canolfan Waith lleol a’r Cynllun Lwfans Menter Newydd, i lansio eu busnes eu hun rhwng mis Ebrill 2011 a mis Mehefin 2020.

Mae’r siroedd uchaf yng Nghymru gyda’r rhan fwyaf o entrepreneuriaid yn cynnwys Caerdydd gyda 960 o fusnesau newydd; Abertawe gyda 820; a Sir Gaerfyrddin gyda 670.

Yn dilyn ei lansiad yn 2011, mae dros chwarter miliwn o Gynlluniau Lwfans Menter Newydd wedi dechrau gan hawlwyr budd-dal di-waith sydd wedi helpu gwireddu dyheadau, gan gynnig mentor busnes personol i gyfranwyr yn ogystal â lwfans byw wythnosol a’r cyfle i gyflwyno cais am gefnogaeth ariannon o hyd at £25,000 i wireddu’r uchelgeisiau ar gyfer eu busnesau.

Yn ôl y Gweinidog yn Swyddfa Cymru David TC Davies AS

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gefnogi ceiswyr gwaith a busnesau ac mae miloedd o bobl ledled Cymru wedi lansio eu cwmnïau eu hunain gyda’n cefnogaeth ni.

Mae busnesau bach yn allweddol i’n heconomi. Mae annog entrepreneuriaeth a chreu swyddi yn flaenoriaethau i Lywodraeth y DU, gan sbarduno’r adferiad wrth i ni adeiladu nôl yn well o’r pandemig.

Yn ôl y Gweinidog dros Gyflogaeth Mims Davies AS

Mae hyn yn parhau i fod yn gyfnod heriol i deuluoedd ledled y wlad, ond os yw pobl yn chwilio am swydd newydd neu ffynhonnell incwm arall, mae gobaith.

Mae’r staff yn y Ganolfan Byd Gwaith yno i helpu a gallant gynnig cyfleoedd newydd fel y cymorth a gynigir drwy’r Lwfans Menter Newydd. Rwy’n galw ar yr holl entrepreneuriaid sydd allan yna i gysylltu â’u hyfforddwyr gwaith a thrafod sut i wireddu eu syniad busnes.

Cyhoeddwyd ar 9 January 2021