Datganiad i'r wasg

Dros £50m wedi’i gymeradwyo ar gyfer rhaglen carbon isel y Fargen Ddinesig

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cymeradwyo $58.7 miliwn ar gyfer rhaglen a fydd yn helpu i sefydlu Dinas-Ranbarth Bae Abertawe fel arweinydd mewn twf carbon isel a’r economi werdd.

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi cymeradwyo rhaglen Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel Bargen Ddinesig Bae Abertawe, gwerth £58.7 miliwn.

Bydd y rhaglen yn helpu i sefydlu Dinas-Ranbarth Bae Abertawe fel arweinydd mewn twf carbon isel a’r economi werdd. Mae cydweithio agos â’r diwydiant, y llywodraeth a’r byd academaidd yn allweddol i lwyddiant y rhaglen drwy sicrhau twf economaidd carbon isel, cynaliadwy a chynhwysol drwy greu’r amgylchedd iawn i ddatblygu technolegau newydd o’r cam ymchwil hyd at y cam cynhyrchu, i gefnogi’r gwaith o greu swyddi yn y rhanbarth.

Dan arweiniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot gyda Phrifysgol Abertawe a Phrifysgol De Cymru yn bartneriaid cyflenwi, nod y rhaglen hon yw cefnogi’r gwaith o greu a diogelu 1,320 o swyddi yn yr economi werdd drwy saith prosiect cysylltiedig a fydd yn gwella seilwaith, ymchwil a datblygu a masnacheiddio:

  • Canolfan Dechnoleg y Bae – adeilad ynni-bositif sy’n darparu swyddfa hyblyg o ansawdd uchel a gofod labordy
  • Canolfan Datgarboneiddio Diwydiant De Cymru – cyfleuster pwrpasol ac offer arbenigol i ddatgarboneiddio’r diwydiant dur a metel a’r gadwyn gyflenwi
  • Cyfleuster Gweithgynhyrchu Uwch – darparu mynediad agored i unedau cynhyrchu at offer arbenigol a rennir i gefnogi cwmnïau newydd a thwf busnesau lleol yn y sectorau arloesi a gweithgynhyrchu sy’n gysylltiedig ag ynni ac ynni adnewyddadwy
  • Cronfa datblygu adeiladau – cyllid llenwi bwlch ar gyfer adeiladau masnachol pwrpasol ac adeiladau hapfasnachol yn Ardal Fenter Glannau Port Talbot.
  • Prosiect ysgogi hydrogen – galluogi arddangoswr i brofi hyfywedd masnachol cyflenwad hydrogen di-garbon i gyflenwi tanwydd i gerbydau hydrogen.
  • Prosiect monitro ansawdd aer – profi technoleg newydd i sicrhau gwell dealltwriaeth o ansawdd aer a lefelau llygredd er mwyn cyfrannu at gynlluniau gweithredu lleol
  • Seilwaith gwefru cerbydau allyriadau isel – datblygu strategaeth i ddatgarboneiddio teithiau yn Ninas-Ranbarth Bae Abertawe a datblygu cynllun peilot yn ardal y Cymoedd yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Bydd y cyllid yn darparu atebion i ddatgarboneiddio adeiladau masnachol a diwydiannol, trafnidiaeth a phrosesau diwydiannol a fydd yn cefnogi’r polisïau a’r strategaethau a nodir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Dywedodd David TC Davies, Gweinidog Swyddfa Cymru:

Mae’r fargen hon sy’n werth miliynau o bunnoedd yn hanfodol i greu swyddi ac annog ffyniant ar draws rhan fawr o Dde Cymru. Pan ymwelais ym mis Gorffennaf, gwnaeth y prosiectau sy’n gyrru’r symudiad tuag at economi fodern, carbon isel yng Nghymru argraff fawr arnaf. Rydw i’n falch iawn y bydd buddsoddiad llywodraeth y DU yn cefnogi’r twf hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe:

Rydw i’n croesawu’r rhaglen hon yn fawr, sy’n golygu bod gennym bellach fwy o brosiectau a rhaglenni wedi’u cymeradwyo, a naill ai’n cael eu cyflawni neu’n barod i’w cyflawni, nag unrhyw ddinas neu fargen twf arall yng Nghymru. Hoffwn dalu teyrnged i’r gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud i sicrhau ein bod yn cyflawni’r fargen ddinesig ar gyfer De Orllewin Cymru.

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad gwerth hyd at £1.3 biliwn mewn portffolio o naw rhaglen a phrosiect mawr arall ar draws Dinas-Ranbarth Bae Abertawe, a fydd gyda’i gilydd yn werth dros £1.8 biliwn a 9,000 o swyddi i economi’r rhanbarth dros y blynyddoedd nesaf.

Mae’r Fargen Ddinesig, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, y sector cyhoeddus a’r sector preifat, yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Gaerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Benfro a Chyngor Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Cyhoeddwyd ar 23 September 2021