Stori newyddion

Mitre Linen yn dathlu 70 mlynedd

Mae Mitre Linen yn dathlu 70 mlynedd drwy dderbyn ymweliad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Mitre Linen MD Jim Mangan with Welsh Secretary Alun Cairns.JPG

Mitre Linen Managing Director Jim Mangan with Welsh Secretary Alun Cairns

Mae Mitre Linen, y cwmni Prydeinig dibynadwy sy’n cyflenwi i westai moethus a boutique blaenllaw, yn dathlu 70 mlynedd drwy dderbyn ymweliad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Cafodd y Gweinidog daith o amgylch Pencadlys Mitre ym Merthyr Tudful a chafodd o gyfarfod rhai o’r 95 o bobl a gyflogir gan y cwmni, gan gynnwys y Rheolwr-Gyfarwyddwr newydd, Jim Mangan.

Mae Mitre yn gweithio yn y diwydiant lletygarwch ers 1946 gan ddarparu lliain, tywelion a dodrefn meddal hardd yn gyson. Yn ogystal â gwestai, mae cwsmeriaid y cwmni’n cynnwys prifysgolion, ysbytai a golchdai.

Gellir gweld ei gynnyrch mewn gwestai blaenllaw 5 seren yn Llundain, gan gynnwys The Ritz, The Grosvenor House Hotel a’r Wellesley. Mae ganddo gwsmeriaid dramor hefyd, a hynny ym Mhortiwgal, Ffrainc, America, Tsiena, Honk Kong a’r Emiradau Arabaidd Unedig.

Datgelodd y cwmni ei gatalog mwyaf erioed yn gynharach eleni, ac mae wrthi’n gweithio ar gatalog 2017 a fydd yn cynnwys dodrefn meddal newydd ac, am y tro cyntaf, ddewis o ategolion ar gyfer gwestai.

Oherwydd bod gan y cwmni lefel uchel o wasanaeth ac ansawdd, cafodd anrhydedd y Warant Frenhinol yn 1955 ac mae’r cwmni wedi darparu ar gyfer yr Aelwydydd Brenhinol a’r Ystadau Brenhinol ers hynny.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru:

Llongyfarchiadau i Mitre Linen am ddathlu 70 mlynedd. Dyma stori am lwyddiant gwirioneddol yn Ne Cymru, a honno wedi ei chreu gan bobl leol.

Mae Mitre wedi sefydlu enw da drwy gyflenwi rhai o westai mwyaf blaenllaw y byd, ac rwy’n siŵr y bydd yn parhau i fod yn gwmni pum seren am flynyddoedd i ddod.

Rwy’n edrych ymlaen at eu gweld yn mynd o nerth i nerth.

Dywedodd Jim Mangan, Rheolwr-Gyfarwyddwr Mitre Linen:

Mae’n bleser mawr gennym groesawu Mr Cairns i helpu i ddathlu 70 mlynedd o’r cwmni.

Dyma gyfnod cyffrous i Mitre. Rwy’n falch o fy nhîm, sy’n darparu gwasanaeth rhagorol i’n cwsmeriaid ffyddlon, ac o’n cynnyrch cynyddol o safon uchel sy’n cael eu hallforio i amryw o wledydd, yn ogystal â ledled y D.U.

Yn ddiweddar, fe wnaeth y cwmni lansio adran ar gyfer myfyrwyr i’w helpu i gael y pethau angenrheidiol ar gyfer mynd i’r brifysgol, ac mae wrthi’n ehangu ei waith ym maes fflatiau â gwasanaeth, sef sector sy’n cynyddu wrth i’r nifer fwyaf erioed o dwristiaid ddod i’r D.U.

Yn gynharach eleni, cafodd Mitre Linen ei gydnabod yn y cylchgrawn Hotel Owner fel un o’r 10 brand i’w gwylio yn 2016.

Cyhoeddwyd ar 24 October 2016