Stori newyddion

Gweinidogion yn canmol y sector darlledu ffyniannus yng Nghymru

Heddiw, mae Gweinidogion wedi gweld a’u llygaid eu hunain yr hyder a’r uchelgais sy’n gyrru’r sector darlledu ffyniannus yng Nghymru, drwy…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, mae Gweinidogion wedi gweld a’u llygaid eu hunain yr hyder a’r uchelgais sy’n gyrru’r sector darlledu ffyniannus yng Nghymru, drwy gael cyfle i ymweld ag ystafelloedd newyddion HD a stiwdios rhai o brif ddramau teledu Prydain. 

Cafodd David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, ac** Ed Vaizey AS, y Gweinidog Cyfathrebu,** gyfle heddiw i gyfarfod a rhai o uwch swyddogion ITV Cymru, BBC Cymru Wales, S4C a Boomerang i weld sut mae Cymru’n datblygu’n gyflym i fod yn fagned ac yn gatalydd ar gyfer talent greadigol, yn ogystal a’r cyfraniad pwysig mae’r diwydiant yn ei wneud i’r economi.

I ddechrau, cyfarfu’r Gweinidogion a Phil Henfrey, Pennaeth Newyddion a Rhaglenni ITV Cymru, yn eu pencadlys yng Nghroes Cwrlwys. Yno, cawsant eu tywys ar daith o amgylch y stiwdios a chael trafodaethau am gynlluniau’r darlledwr ar gyfer rhaglenni i’r dyfodol.

Yna, aethant ymlaen i gyfarfod a Huw Eurig Davies, sef prif swyddog gweithredol Boomerang Plus Plc, sy’n creu rhaglenni adloniant, rhaglenni ffeithiol, rhaglenni chwaraeon, rhaglenni cerddoriaeth, dramau a rhaglenni plant ar gyfer y teledu, y radio a’r we. Cawsant daith o amgylch y cyfleusterau ol-gynhyrchu a chyfle i drafod gallu’r sector annibynnol yng Nghymru i gyfrannu at economi Cymru, ac at ddelwedd Cymru yn rhyngwladol.

Yna, aeth y criw ymlaen i bencadlys S4C yn Llanisien i gwrdd ag Ian Jones, prif weithredwr newydd y darlledwr, a Huw Jones, y cadeirydd. Yma, aethant ar daith o amgylch stiwdio Clirlun (HD) y sianel. Hefyd, bachwyd ar y cyfle i drafod statws unigryw y sianel fel darlledwr Cymraeg, yn ogystal a’r ymgynghoriad cyhoeddus a lansiwyd yn ddiweddar ynghylch y trefniadau llywodraethu a gytunwyd rhwng S4C a’r BBC.

Yn olaf, cyfarfu Mr Jones a Mr Vaizey a Rhodri Talfan-Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru, yn y stiwdios newydd ym Mhorth y Rhath ym Mae Caerdydd.  Yma, cawsant eu tywys ar daith o amgylch y stiwdios HD-parod sydd bellach yn gartref parhaol a phwrpasol i bedwar drama flaenllaw y BBC - sef Casualty, Pobol y Cwm, Doctor Who ac Upstairs Downstairs - ac i gynyrchiadau newydd yn y dyfodol.

Dywedodd David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru:

“Rydym wedi ymrwymo i feithrin sector darlledu bywiog yma yng Nghymru - yn Gymraeg ac yn Saesneg - ac roeddwn yn falch o gael cyfle i gwrdd a rhai o’r bobl sy’n gwneud cyfraniad gwerthfawr o ran gyrru’r sector yn ei flaen.

“Mae’r diwydiannau creadigol yn sector allweddol yn economi Cymru, yn cyfrannu tua £750m ac yn cyflogi tua 24,000 o bobl.  Roedd yn braf gweld y sgiliau gwych sydd gan Gymru i’w cynnig i waith cynhyrchu rhaglenni oriau brig yn ogystal a chael cyfle i drafod sut gallwn ni hybu hyn ymhellach.”

Dywedodd Ed Vaizey, y Gweinidog Cyfathrebu:

“Mae ymweliad heddiw wedi tynnu sylw at bwysigrwydd diwylliannol ac economaidd aruthrol y diwydiant darlledu yng Nghymru. Mae rhaglenni fel Doctor Who, sy’n boblogaidd bedwar ban byd, yn ein hatgoffa’n barhaus o’r rol y gall y diwydiannau creadigol ei chwarae wrth yrru twf drwy greu swyddi a denu buddsoddiad o’r tu allan.”

Cyhoeddwyd ar 23 February 2012