Stori newyddion

Gweinidog yn canmol Sant Ioan Cymru: ‘model i’n gwasanaethau gwirfoddoli’

Heddiw (Mawrth 8fed), yn dilyn ymweliad a’r ganolfan weithredol a’r pencadlys cenedlaethol, mae David Jones, gweinidog Swyddfa Cymru, wedi canmol…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw (Mawrth 8fed), yn dilyn ymweliad a’r ganolfan weithredol a’r pencadlys cenedlaethol, mae David Jones, gweinidog Swyddfa Cymru, wedi canmol Sant Ioan Cymru am eu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru. 

Mae ymweliad Mr Jones yn dilyn lansiad gan y sefydliad o gynllun newydd y mis diwethaf, sy’n helpu pobl ddi-waith i wella eu cyfle i gael gwaith trwy gael hyfforddiant cymorth cyntaf am ddim a chael amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli.   Mae’r fenter yn targedu pobl ifanc 16-17 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn ogystal a phobl ddi-waith dros 50 oed. 

Bu’r Gweinidog ar ymweliad a’r ganolfan weithredol yn Ffordd Norbury yn y Tyllgoed, Caerdydd lle cyfarfu a’r prior i Gymru (Dan Clayton-Jones), canghellor y prior yng Nghymru (Syr Paul Williams) yn ogystal a chomisiynydd rhanbarthol De Cymru (Maureen Williams).  Yna cafodd y gweinidog y cyfle i weld gwirfoddolwyr yn cael eu hyfforddi ym mhencadlys y mudiad yn Ffordd y Cefnfor, Caerdydd cyn cyfarfod cynrychiolwyr o’r Cyfarwyddiaethau Ieuenctid, Hyfforddiant a Gweithredol.

Fel rhan o’r cynllun newydd a gyflwynwyd gan Sant Ioan, bydd rhieni ledled Cymru yn cael hyfforddiant BabySafe mewn ysgolion gan eu galluogi i ymdrin a damweiniau fel tagu, asthma a gwaedu a bydd pobl 50 oed a hŷn sy’n byw yn ardal Caerffili yn cael hyfforddiant cymorth cyntaf a Thechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu am ddim.  Bydd cyfranogwyr y cynllun yn cael eu hannog i ymuno a’r mudiad i wella eu hyder ac ehangu eu set sgiliau er mwyn eu helpu i gael gwaith.

Meddai Mr Jones: “Mae gan Sant Ioan Cymru enw da ers blynyddoedd maith a phresenoldeb cryf yng Nghymru.  Mae’r mudiad yn adeiladu ar yr enw hwn trwy gyflwyno nifer o gyfleoedd i unigolion a grwpiau o bob rhan o fywyd i wella eu sgiliau cyflogaeth, eu rhagolygon gwaith a hyd yn oed eu bywyd teuluol trwy hyfforddiant BabySafe er enghraifft. 

“Mae 60% o wirfoddolwyr Sant Ioan o dan 18 oed, mae hyn yn adlewyrchu cymhelliant a brwdfrydedd pobl ifanc i ehangu eu sgiliau a chychwyn ar lwybr gyrfa.  Pan mae’r Prif Weinidog yn siarad am weledigaeth y Llywodraeth i gael cymdeithas gynhwysol cymuned ganolog neu pan ofynnir i’r Llywodraeth beth yw ystyr ‘Big Society’, mae Sant Ioan yn enghraifft ddelfrydol o wasanaeth annibynnol sy’n cael ei arwain gan wirfoddolwyr ac sydd ag enw da am ragoriaeth. 

“Mae’n wych gweld Sant Ioan yn ffynnu ac yn mynd o nerth i nerth. Rwyf am ddymuno’r gorau iddynt wrth barhau a’u gwaith rhagorol i’r dyfodol.”

Dywedodd Keith Dunn, prif weithredwr Sant Ioan Cymru: “Rydym yn falch iawn bod y Gweinidog wedi dod i’n gweld ni heddiw er mwyn gweld gwaith hanfodol yr elusen yng Nghymru. Rydym yn gyson yn arallgyfeirio ac yn ehangu ein gwaith ledled cymunedau ac mae’n braf gweld gwaith gwirfoddolwyr yn cael ei gydnabod gan mai nhw sydd wrth wraidd popeth a wnawn.”

Cyhoeddwyd ar 8 March 2012