Datganiad i'r wasg

Gweinidogion yn cyfarfod i drafod heriau ariannol y dyfodol

Heddiw yn Whitehall, gwnaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, a Gweinidog Llywodraeth y Cynulliad dros Gyllideb a Busnes, Jane Hutt…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw yn Whitehall, gwnaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, a Gweinidog Llywodraeth y Cynulliad dros Gyllideb a Busnes, Jane Hutt, gwrdd a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, ynghyd a gweinidogion cyllid o’r Alban a Gogledd Iwerddon, ar gyfer cyfarfod Pedrochr cyntaf y Gweinidogion Cyllid dan y Llywodraeth glymblaid. Prif ganolbwynt trafodaethau’r gweinidogion, mewn cyfarfod adeiladol, oedd y rhagolwg economaidd heriol a’r Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant sydd i ddod.

Yn dilyn y prif gyfarfod Pedrochr, mynychodd Mrs Gillan a Ms Hutt gyfarfod dwyochrog a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander, gan godi ystod eang o faterion yn ymwneud a Chymru, megis prosiectau cyfalaf mawr sy’n bwysig i Gymru, gan gynnwys trydaneiddio’r brif reilffordd rhwng Llundain ac Abertawe.   

Buont hefyd yn trafod ail Adroddiad Comisiwn Holtham, yn benodol pwysigrwydd gwneud cynnydd o ran cyllid teg i Gymru yn yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant. Bydd Mr Alexander yn cwrdd a Gerry Holtham yr wythnos nesaf, a bydd trafodaethau gweinidogol pellach yn parhau yn yr hydref.

Fel rhan o’r trafodaethau Pedrochr, pwysleisiodd rhai gweinidogion pa mor bwysig oedd sicrhau bod y tair gweinyddiaeth ddatganoledig yn chwarae rhan lawn ym mhroses yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant. Cafwyd hefyd drafodaeth faith ynglŷn a’r angen i weinyddiaethau datganoledig gael cymaint o hyblygrwydd a phosibl er mwyn sicrhau eu bod yn gallu rheoli heriau ariannol y blynyddoedd sydd i ddod mor effeithiol a phosibl. 

Cytunwyd y byddai swyddogion yn parhau i weithio ar y cyd cyn y cyfarfod Pedrochr nesaf yn Belfast ym mis Medi.

Wrth siarad heddiw o San Steffan, dywedodd Jane Hutt: “Rwy’n falch iawn ein bod wedi cael cyfle i drafod yr heriau sy’n gyffredin gennym a Llywodraeth y DU a gweinidogion cyllid yr Alban a Gogledd Iwerddon. Roedd hyn yn gyfle i ddangos yn glir bod mynd i’r afael a chanlyniadau’r dirwasgiad economaidd byd-eang yn parhau i fod yn her fawr i Gymru.

“Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn chwarae’i rhan wrth fynd i’r afael a’r diffyg, ond rydym wedi ymrwymo i wneud hyn heb niweidio’r adferiad na chael effaith ar y gwasanaethau y mae pobl Cymru’n dibynnu arnynt. Dyma pam rydw i’n gwarchod ein rhaglenni buddsoddiadau cyfalaf eleni, gan gynnwys y rhaglen Ysgolion ar gyfer y 21ain ganrif. 

“Roeddwn yn hynod falch fy mod wedi cael cyfarfod dwyochrog a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, er mwyn trafod materion sy’n allweddol i Gymru, gan gynnwys yr agenda cyllid teg.”

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan: “Gwnaeth cyfarfod cyntaf y gweinidogion cyllid yn y Trysorlys bwysleisio ymrwymiad y Llywodraeth i weithio mewn partneriaeth a’r sefydliadau datganoledig, yn ogystal a’r ysbryd o barch sy’n bodoli rhyngom i gyd.  

“Mae cyfarfod heddiw, yn ogystal a’r cytundeb i gyfarfod eto cyn yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant ym mis Hydref, yn tanlinellu’r ffaith ein bod yn awyddus iawn i weld agwedd aeddfed a chall at weithio gyda’n gilydd er mwyn mynd i’r afael a’r heriau economaidd y mae pob un ohonom yn eu hwynebu.”

Cyhoeddwyd ar 15 July 2010