Datganiad i'r wasg

Gweinidogion Llywodraeth y DU yng Nghymru i nodi Dydd y Cofio

Bydd Alun Cairns a Guto Bebb yn talu teyrnged i’r milwyr a laddwyd mewn gwasanaethau Dydd y Cofio ledled Cymru

Ministers for the UK Government in Wales to mark Remembrance Day

Bydd Gweinidogion Llywodraeth y DU yng Nghymru yn eu tro yn achub ar y cyfle i fyfyrio ynghylch ymroddiad ac aberth y dynion a’r menywod sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, neu sy’n gwneud hynny ar hyn o bryd, yn y digwyddiadau Dydd y Cofio a gaiff eu cynnal yng Nghymru bore yma (12 Tachwedd).

Bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn mynd i wasanaeth yn y Barri ar ôl mynychu agoriad y Maes Coffa yng Nghaerdydd yn gynharach yr wythnos hon. Bydd Guto Bebb yn mynd i wasanaeth yn Eglwys Sant Grwst, Llanrwst yn ei etholaeth.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Ar adeg o gofio, talwn deyrnged i genedlaethau o ddynion a menywod y lluoedd arfog a gollodd eu bywydau wrth wasanaethu ein gwlad, ac wrth amddiffyn ein rhyddid. Bydd pobl Cymru yn cofio’n anrhydeddus, gyda pharch a gwerthfawrogiad, am y rheini a aberthodd eu bywydau drosom.

Yn gynharach eleni, cefais y fraint o deithio i Wlad Belg i ymuno â miloedd o ddisgynyddion milwyr y Rhyfel Byd Cyntaf ar gyfer digwyddiadau canmlwyddiant Brwydr Passchendaele. Cefais fy synnu cynifer o filwyr o Gymru a laddwyd yno - milwyr a chwaraeodd ran allweddol ar un o feysydd brwydro mwyaf gwaedlyd y rhyfel.

Heddiw, wrth i ni blygu pen mewn distawrwydd, fe gofiwn ni am y rhai a aberthodd eu bywydau ar gyfer y rhyddid rydym ni i gyd yn ei fwynhau heddiw. Fe gofiwn ni hefyd am yr aelodau hynny o’r Lluoedd Arfog sy’n gwasanaethu i ffwrdd o’u hanwyliaid, yn amddiffyn ein gwerthoedd, ein democratiaeth a’n cenedl.

Dywedodd Guto Bebb, Gweinidog Llywodraeth y DU:

Heddiw, bydd miloedd o bobl ledled Cymru yn gwisgo eu pabi gyda balchder, ac yn ymgynnull ger cofebion rhyfel i nodi aberth ein milwyr ar draws y byd.

Mae ein dyled o ddiolchgarwch i’r rhai sy’n gwasanaethu heddiw, ac i’r rhai na ddaeth yn ôl adref, yn anfesuradwy, a heddiw rydym yn dweud diolch. Fe’u cofiwn.

Yn ddiweddarach y mis hwn, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn rhoi araith yng ngwobrau’r Lluoedd Arfog yng Nghymru ar 30 Tachwedd, digwyddiad sy’n dathlu cyflawniad yr unigolion sydd wedi gwneud y cyfraniad mwyaf eithriadol at amddiffyn yn 2017.

Cyhoeddwyd ar 12 November 2017