Stori newyddion

Gweinidogion yn cyhoeddi carreg filltir wrth gynhyrchu Ajax yng Nghymru

Defence Minister Harriett Baldwin and Minister for the UK Government in Wales Guto Bebb visited General Dynamics’ factory in Wales today to see two vehicles in the final stages of testing before they are delivered to the British Army.

The new Ares protected mobility vehicle, part of the Ajax family of armoured vehicles, on show at the factory in Merthyr Tydfil.

The new Ares protected mobility vehicle, part of the Ajax family of armoured vehicles, on show at the factory in Merthyr Tydfil, Wales.

Gwelodd y gweinidogion arddangosiad o’r cerbyd symudedd gwarchodedig Ares newydd, sy’n rhan o gerbydau arfog teulu Ajax gwerth £4.5 biliwn, yn y ffatri ym Merthyr Tudful. Bydd y platfformau yn awr yn parhau i ddilyn proses sy’n cael ei hadnabod fel Profi Derbynioldeb y Llywodraeth cyn iddyn nhw gael eu trosglwyddo i’r Fyddin.

Dywedodd Harriett Baldwin, y Gweinidog Caffael ym maes Amddiffyn:

Rydw i wrth fy modd yn gweld yr Ares yn gweithredu. Bydd y cerbyd hwn, a’r rhai eraill yn nheulu Ajax, yn rhoi grym ymladd mowntiedig, aml-swyddogaeth a galluogrwydd rhagchwilio a fydd yn addas ar gyfer y dyfodol. Rydym ni yn parhau i fuddsoddi yn y cyfarpar gorau ar gyfer ein Lluoedd Arfog, ac mae’n bleser gennyf gefnogi buddsoddiad o’r fath yng Nghymru.

Yn ogystal, cafodd y gweinidogion daith o gwmpas y cyfleuster a agorodd mor ddiweddar â 2016, gan ddod ag oddeutu 250 o swyddi i’r ardal. Y Weinyddiaeth Amddiffyn yw’r darparwr mwyaf o brentisiaethau yn y Deyrnas Unedig ac mae llawer o’r rhai hynny y cyfarfu’r gweinidogion â nhw yn brentisiaid gweithgynhyrchu a phrentisiaid mecanyddol, a oedd yn awyddus i siarad ynglŷn â’u gwaith yn y ffatri. Mae rhaglen adeiladu Ajax yn cynnal 300 o swyddi yn ogystal yn General Dynamics ar safle Oakdale sydd gerllaw.

Defence Minister Harriett Baldwin met with apprentices working on the Ajax programme at the factory in Merthyr Tydfil.

Defence Minister Harriett Baldwin met with apprentices working on the Ajax programme at the factory in Merthyr Tydfil.

Wedi’i chefnogi gan gyllideb amddiffyn sy’n codi, gwariodd y Weinyddiaeth Amddiffyn £870 miliwn y llynedd gyda busnesau yng Nghymru, a oedd yn helpu adeiladu economi gryfach a chadw Prydain yn ddiogel, gydag Ajax yn cynrychioli’r archeb sengl fwyaf ar gyfer cerbyd arfog yn y Deyrnas Unedig mewn 30 mlynedd. Mae buddsoddiad y Weinyddiaeth Amddiffyn yng Nghymru yn cyfateb i £280 y pen.

Dywedodd Guto Bebb, Gweinidog Llywodraeth y Deyrnas Unedig yng Nghymru:

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyflawni ei huchelgeisiau ar gyfer twf economaidd yng Nghymru ac mae’n helpu i wella bywydau pobl. Yma ym Merthyr Tudful, mae General Dynamics yn adeiladu cerbydau’r genhedlaeth nesaf ar gyfer y Fyddin, ac yn darparu swyddi a sgiliau sy’n sbarduno economi gryfach ar gyfer Cymru a’r Deyrnas Unedig.

Mae’r chwe amrywiolyn yn rhaglen Ajax – Athena, Ajax, Ares, Apollo, Atlas ac Argus – ar fin cychwyn eu gwasanaeth yn 2020, gan ddarparu cyfres lawn o gerbydau arfog canolig a galluoedd. Mae proses Profi Derbynioldeb y Llywodraeth ar gyfer platfformau Ares yn awr yn cael eu gwneud gan y Fyddin, gan gynnal profion derbynioldeb ar gyfer y Fyddin

Brydeinig a Chyfarpar a Chymorth Amddiffyn fel ei gilydd yn y cyfleuster ym Merthyr Tudful. Bydd yr amrediad o amrywiolion Ajax yn ffurfio cydran allweddol yn isadran rhyfela y Fyddin a foderneiddiwyd drwy gynnal gweithrediadau sbectrwm llawn a gweithrediadau parod ar gyfer rhwydweithiau. Byddan nhw yn gweithredu mewn sefyllfaoedd arfau cyfunol a rhyngwladol ar draws amrediad eang o amgylcheddau gweithredu yn y dyfodol.

Daw’r newyddion ar ôl datgelu sawl carreg filltir arall yn yr Arddangosfa Cyfarpar Amddiffyn a Diogelwch Rhyngwladol yr wythnos diwethaf. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Dechrau profion tanio byw â chriw ar gyfer Ajax, yn cynnwys treialon y canon CT40, y gwn cadwyn a’r lanswyr grenadau mwg.
  • Ymddangosiad cyntaf yn Cyfarpar Amddiffyn a Diogelwch Rhyngwladol o’r systemau hyfforddi digidol a gyflawnwyd gan yr is-gontractwr Lockheed Martin, sy’n cynnwys trin arfau bychain a hyfforddwyr criwiau tyred.
Cyhoeddwyd ar 18 September 2017