Datganiad i'r wasg

Gweinidog yn ymweld â phrosiectau trafnidiaeth trawsnewidiol

Mae David TC Davies, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, wedi ymweld ag un o brosiectau’r Metro Plus sy’n cael ei adeiladu yng nghymoedd De Cymru ar hyn o bryd.

Site of the Porth Transport

Bydd Cyfnewidfa Drafnidiaeth Y Porth yn gwella cyfleusterau ar gyfer teithwyr ar fysiau a threnau ac yn creu porth i ganol tref Y Porth. Bydd y cynllun yn cynnwys 7 bae bysiau gweithredol, 2 le parcio dros dro a’r gallu i wefru cerbydau trydan.

Mae’r prosiect yn rhan o Raglen Metro Plus – rhaglen gwerth £50 miliwn o gynlluniau sy’n cefnogi cynllun ehangach Metro De Cymru, a fydd yn trawsnewid trafnidiaeth a theithio ar draws y rhanbarth ehangach.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyfrannu £125m at Fetro De Cymru drwy Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Ar ben hynny, mae prosiect Cyfnewidfa Drafnidiaeth Y Porth wedi cael £3.5m o Gronfa Codi’r Gwastad gan Lywodraeth y DU.

Dywedodd Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, David TC Davies:

Mae’n wych gweld y gwaith adeiladu’n mynd rhagddo ar brosiectau a fydd o fudd enfawr i’r ardal a’i phobl a’i busnesau. Mae system drafnidiaeth fodern, werdd, ddi-dor yn hanfodol i gefnogi swyddi a ffyniant, ac mae Llywodraeth y DU yn falch o helpu i ariannu’r gwaith hwn.

Mae’r Metro yn brosiect uchelgeisiol gwerth miliynau o bunnoedd i integreiddio rheilffyrdd, bysiau, beicio a cherdded, gwella cysylltedd a gwneud teithio cynaliadwy yn haws ar draws De Cymru. Mae’r prosiectau’n amrywiol iawn; o sefydlu cyfleusterau parcio a theithio newydd gyda phwyntiau gwefru cerbydau trydan ar y safle, i gyfnewidfeydd rheilffyrdd a bysiau newydd gyda lle diogel i barcio beiciau a mynediad haws. Yng Nghaerdydd, er enghraifft, bydd seilwaith newydd yn galluogi 20% o gymudwyr y brifddinas i deithio ar fws erbyn 2030.

Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredu Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Rhys Thomas:

Mae gweddnewid ein seilwaith, ein cysylltedd a’n dull trafnidiaeth yn gwbl hanfodol i gynaliadwyedd a llwyddiant De-ddwyrain Cymru yn y dyfodol. Dyna pam ein bod wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn rhaglenni fel Metro Plus, gan eu bod yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyfrannu at yr uchelgais hwn. Mae Canolfan Drafnidiaeth Y Porth yn enghraifft wych o’r rhaglenni trawsnewidiol sy’n ail-lunio ein rhanbarth. Mae’n gatalydd ar gyfer adfywio canol tref Y Porth, gan ddod â gwasanaethau bysiau a threnau at ei gilydd am y tro cyntaf, a gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn llawer mwy hygyrch – gan wneud gwahaniaeth go iawn i bobl Y Porth.

Dywedodd Aelod Cabinet Rhondda Cynon Taf dros Ddatblygu a Ffyniant, y Cynghorydd Mark Norris:

Mae’r gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol i gefnogi swyddi a ffyniant yn Ne Cymru. Mae’r rhanbarth yn cyfrif am oddeutu 50% o gyfanswm cynnyrch economaidd Cymru, ac mae’n gartref i bron hanner cyfanswm poblogaeth y wlad.

Bydd sicrhau bod seilwaith yn addas ar gyfer y dyfodol yn cael effaith economaidd sylweddol, gan wella bywydau a helpu i gyflawni nod Llywodraeth y DU o godi’r gwastad mewn cymunedau.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 4 October 2022