Datganiad i'r wasg

Gweinidog yn ymweld â Phontypridd i nodi buddsoddiad rheilffyrdd Cymoedd y De: ‘hwb gwych i Gymoedd y De yn ogystal â busnesau’r ardal’

Bu David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, yn Hyfforddiant Tudful ym Mhontypridd heddiw i nodi cynlluniau Llywodraeth y DU i drydaneiddio rheilffyrdd…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bu David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, yn Hyfforddiant Tudful ym Mhontypridd heddiw i nodi cynlluniau Llywodraeth y DU i drydaneiddio rheilffyrdd Cymoedd y De.

Fel rhan o’i Datganiad Gweithredu Lefel Uchel (DGLU), sy’n datgan beth mae’r Llywodraeth eisiau ei gyflawni o rwydwaith y rheilffyrdd yn ystod y cyfnod rhwng 2014 a 2019, mae’r Adran Drafnidiaeth wedi cyhoeddi y bydd sawl rheilffordd, gan gynnwys Glynebwy, Maesteg, Merthyr Tudful a Bro Morgannwg, yn ogystal a’r brif lein rhwng Caerdydd ac Abertawe, yn cael eu trydaneiddio.

Teithiodd y Gweinidog ar y tren i Bontypridd i fynd i Hyfforddiant Tudful, is-gontractwr darparwyr Rhaglenni Gwaith Working Links a Jobfit sy’n darparu amrywiaeth o weithgareddau i hybu cyflogadwedd yn ardal Rhondda Cynon Taf.

Mae Hyfforddiant Tudful, ynghyd a TGB Learning, yn un o amrywiol sefydliadau sy’n darparu Contractau Dysgu sy’n Canolbwyntio ar Waith yng Nghymru, elusen sydd wedi’i sefydlu ers tro ac sydd wedi bod yn gweithio yn y meysydd O Fudd-dal i Waith a Sgiliau ym Merthyr a Rhondda Cynon Taf ers sawl blwyddyn. Ar hyn o bryd maent yn darparu gwasanaeth i gwsmeriaid yn nalgylch Pontypridd.

Cyfarfu’r Gweinidog a Paul Grey (Prif Swyddog Gweithredol, Hyfforddiant Tudful), Matthew Thomas (Cyflogwr Rhanbarthol a Rheolwr Partneriaeth Canolfan Byd Gwaith yn Ne Orllewin Cymru) a Gill Owens (Rheolwr Cadwyn Gyflenwi ar gyfer Rehab Jobfit) i drafod sut y mae’r cwmni yn helpu’r rhai sy’n dilyn y rhaglen i gael mynd ar gyrsiau datblygu, lleoliadau profiad gwaith a hyfforddiant arbenigol.

Gan groesawu’r cyhoeddiad heddiw, dywedodd Mr Jones:

“Mae ymweliad heddiw’n arwydd o ymrwymiad Llywodraeth y DU i wella cysylltiadau rheilffyrdd yng Nghymru. Mae Swyddfa Cymru wastad wedi cefnogi a chydnabod pwysigrwydd gwella cysylltiadau rheilffyrdd o ran hybu twf yng Nghymru, ac mae’r newyddion da hyn yn ganlyniad i drafodaethau trawslywodraethol rhwng yr Adran Gwaith a Phensiynau, Swyddfa Cymru a Llywodraeth Cymru. Bydd dwy ran o dair o reilffyrdd Cymru’n cael eu trydaneiddio o ganlyniad i gyhoeddiad heddiw.

Bues i ym Mhontypridd heddiw i weld sut y bydd sefydliadau ac unigolion sy’n byw yn y cymoedd yn gallu mwynhau teithiau cyflymach a mwy cyfleus a hefyd sut y bydd y Llywodraeth yn buddsoddi mwy o arian i foderneiddio gorsafoedd rheilffyrdd yng Nghymru. Mae hwn yn hwb gwych i Gymoedd y De yn ogystal a busnesau’r ardal.”

Nodiadau i olygyddion:

  • Er mis Ebrill 2012, mae 48 o gwsmeriaid Canolfannau Gwaith (18-24 oed) wedi dod o hyd i leoliadau profiad gwaith yn ardal Awdurdod Lleol Rhondda Cynon Taf, drwy nifer o gyflogwyr a sefydliadau partner.
  • Mae Rehab Jobfit yn un o ddau brif gontractwr sy’n darparu’r Rhaglen Waith yng Nghymru. Ffurfiwyd y cwmni’r llynedd, gan ffurfio partneriaeth rhwng y sector Gwirfoddol (The Rehab Group) a’r Diwydiant Preifat (Interserve) i ddarparu’r cynllun pwysig hwn ar gyfer diweithdra gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
  • Mae TGB Learning, sy’n is-gorff o’r Rehab Group, yn sefydliad hyfforddi sy’n newydd i Gymru, ac sy’n darparu ar ran Jobfit yng ngweddill Rhondda Cynon Taf. Mae hyn yn cynnwys ardaloedd Canolfan Byd Gwaith Tonypandy, Porth, Treorci, Llantrisant, Aberpennar ac Aberdar. Bydd TGB Learning nawr yn prif ffrydio’r ddarpariaeth O Fudd-dal i Waith, ac mae’n ddarparwr hyfforddiant sydd wedi hen sefydlu yn Lloegr ac Iwerddon.
Cyhoeddwyd ar 16 July 2012