Datganiad i'r wasg

Y Gweinidog dros Fasnach a Buddsoddi yn ymweld â Chymru am y tro cyntaf i annog Cwmnïau yng Nghymru i Hybu Allforio

Heddiw [dydd Llun 28 Mawrth], bu’r Arglwydd Green, y Gweinidog dros Fasnach a Buddsoddi, a Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, yn ymweld a De…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw [dydd Llun 28 Mawrth], bu’r Arglwydd Green, y Gweinidog dros Fasnach a Buddsoddi, a Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, yn ymweld a De Ddwyrain Cymru i annog busnesau i weithio gyda’i gilydd er mwyn hybu allforio.

Cyfarfu’r Arglwydd Green a Mrs Gillan a chynrychiolwyr busnes mewn sesiwn Holi ac Ateb wedi’i drefnu gan CBI ar Bapur Gwyn Masnach Llywodraeth y DU a’r Cynllun ar gyfer Twf a gyhoeddwyd yn ddiweddar. 

Yna, bu’r Arglwydd Green a Mrs Gillan yn cwrdd a Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, cyn ymweld a General Dynamics UK yn Nhrecelyn i weld labordy Ymchwil a Datblygu’r cwmni ac i glywed mwy am ei waith yng Nghymru a’r dechnoleg newydd sy’n cael ei datblygu.   General Dynamics UK yw pedwerydd cwmni amddiffyn mwyaf y DU ac mae’n darparu dros 850 o swyddi medrus, sy’n talu’n dda yng Nghymru.

Meddai’r Arglwydd Green: “Rwy’n falch iawn fy mod wedi ymweld a Chymru heddiw, a’r cyfle a gefais i wrando ac i ddysgu am lwyddiannau a heriau’r wlad, ac yn anad dim, i ystyried sut y gallwn ni helpu i’w gwneud yn rhan fwy o’r economi allforio. Mae allforio yn mynd i fod wrth galon adferiad economaidd y DU, ac mae angen i ni annog mwy o gwmniau yn y DU i fentro dramor.”

Yn dilyn ei hymweliad, dywedodd Mrs Gillan:  “Ein blaenoriaeth drwy ein Cynllun ar gyfer Twf a gyhoeddwyd yn ddiweddar yw rhoi Cymru a’r DU ar lwybr at ddyfodol cynaliadwy yn yr hirdymor.  Bydd annog buddsoddi ac allforio yn chwarae rhan allweddol wrth i ni weithio at economi mwy cytbwys.

“Mae gan Gymru a’r DU lawer o gryfderau - mae gennym economi fasnachol agored, gyda marchnad lafur hyblyg a chanolfan ymchwil gyda’r gorau yn y byd ar gyfer prifysgolion, sy’n uchel eu parch ledled y byd.  Mae angen i ni ddefnyddio’r cryfderau hyn er mwyn sicrhau bod y sector preifat yn tyfu ac yn hybu masnach dramor.  Mae’r Gyllideb yr wythnos diwethaf wedi gosod y sylfeini ar gyfer gwneud Cymru yn lle mwy deniadol i fuddsoddi. Bydd y mesurau ar gyfer symleiddio system dreth gymhleth y DU a chael gwared ar faich y rheoliadau, ynghyd a’r gostyngiad o 2c i’r dreth Gorfforaethol yn ein helpu ni i greu’r system dreth fwyaf cystadleuol yn y G20, gan wneud Cymru a gweddill y DU yn un o’r lleoedd gorau yn Ewrop i ddechrau busnes, ei ariannu a’i ddatblygu.

“Bydd y Llywodraeth hon, gan weithio gyda Llywodraeth y Cynulliad, yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi twf, i ddenu mewnfuddsoddi ac i greu economi allforio.   Roedd yn wych cael y cyfle heddiw i gwrdd ag amrywiol fusnesau i weld sut y gallwn ni eu helpu nhw ymhellach fel rhan o’n cenhadaeth i gynyddu masnach ac i adfer cydbwysedd yr economi.”

Nodiadau:

Mae Masnach a Buddsoddi’r DU (UKTI) yn un o adrannau’r llywodraeth sy’n helpu cwmniau yn y DU i lwyddo yn yr economi fyd-eang. Rydym hefyd yn helpu cwmniau o dramor i ddod a’u buddsoddiad o safon uchel i economi’r DU - sy’n cael ei chydnabod fel lle gorau Ewrop ar gyfer llwyddo mewn busnes byd-eang. Mae UKTI yn cynnig arbenigedd a chysylltiadau drwy ei rwydwaith helaeth o arbenigwyr yn y DU, ac mewn Llysgenadaethau Prydain a swyddfeydd diplomyddol eraill ledled y byd. Rydym yn darparu’r dulliau y mae eu hangen ar gwmniau i fod yn gystadleuol ar lwyfan y byd. I gael rhagor o wybodaeth am UKTI, ewch i www.ukti.gov.uk neu ffoniwch +44 (0)20 7215 8000. I gael y datganiadau i’r wasg diweddaraf, ewch i’r ystafell newyddion ar-lein yn www.ukti.gov.uk/media. Gallwch hefyd gadw mewn cysylltiad a’r datblygiadau yn UKTI drwy www.blog.ukti.gov.uk, www.twitter.com/ukti a www.flickr.com/photos/tags/ukti.

Cyhoeddwyd ar 28 March 2011