Datganiad i'r wasg

Gweinidog Davies yn ymweld â llong ymchwil Prifysgol Bangor wrth iddi gael ei haddasu i fod yn wyrdd

Mae'r addasiadau i'w fod yn wyrdd gwerth £5.5 miliwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU.

Minister Davies on board the Prince Madog research vessel.

Mae gwaith gwerth £5.5 miliwn gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth y DU yn mynd rhagddo ar long ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, er mwyn ei haddasu i fod yn wyrdd.  

Mae’r llong Prince Madog yn llwyfan ymchwil amlbwrpas ar gyfer cynnal ymchwil i wyddor y moroedd o gwmpas y DU, gan gynnwys Môr Iwerddon a’r Môr Celtaidd, ac mae wedi bod ar waith ers dros ddau ddegawd.

Yr wythnos hon (dydd Iau 2il Tachwedd), ymwelodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Dr.James Davies, â’r llong a ddefnyddir i ymchwilio i fioleg, cemeg, daeareg a ffiseg ein moroedd. Mae’r llong hefyd yn cael ei defnyddio i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr yn Ysgol Gwyddorau Eigion Bangor.

Ar hyn o bryd mae’r llong yn mynd drwy broses o addasu a fydd yn para dwy flynedd i osod system gyriant hydrogen ynddi i weithio ochr yn ochr â’r brif injan disel gan ei galluogi i weithredu heb allyriadau wrth forio’n araf neu wrth wneud siwrneiau byrion. Wrth weithredu’n arferol, bydd yn lleihau allyriadau gan hyd at 60%. 

Mae Llywodraeth y DU yn ariannu’r gwaith addasu, gyda’r Adran Drafnidiaeth yn darparu £5.5 miliwn o’r gronfa Technolegau Morwrol Glân ac Arloesol gwerth £60 miliwn. 

Yn y dyfodol, mae gweithredwyr y Prince Madog yn rhagweld y bydd y llong yn cael ei hydrogen o’r Ganolfan Hydrogen y mae bwriad ei sefydlu yng Nghaergybi, Ynys Môn, gyda chymorth £4.8m o gyllid gan Lywodraeth y DU. 

Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae data a gasglwyd gan y Prince Madog wedi cyfrannu at rai canfyddiadau gwyddonol pwysig, gan gynnwys:

  • Diogelu pysgodfeydd cynaliadwy drwy asesu effaith treillio ar wely’r môr.
  • Datgelu hinsawdd moroedd arfordirol yn y gorffennol.
  • Darganfod ac adnabod llongddrylliadau.
  • Darogan y tywydd a’r hinsawdd drwy ddatblygu technegau a mesuriadau newydd sy’n cael eu defnyddio’n fyd-eang erbyn hyn.
  • Cefnogi’r diwydiant ynni adnewyddadwy morol drwy asesu safleoedd posibl ar gyfer datblygu a chynnal asesiadau o’r ecosystem a gwely’r môr
  • Cynhyrchu technegau newydd i fesur tyrfedd cefnforol a’r effaith ar gymysgu gwahanol ddyfroedd yn y cefnfor.
  • Asesu effaith yr amgylchedd ffisegol ar egni fforio adar môr a goblygiadau hynny ar lwyddiant bridio

Dywedodd Dr James Davies, Gweinidog Swyddfa Cymru:

Roedd yn ddiddorol iawn dysgu am y Prince Madog yn ogystal â chwrdd â rhai o staff ymchwil Prifysgol Bangor a chlywed mwy am y gwaith maen nhw’n ei wneud.

Mae’r llong wedi bod yn adnodd hanfodol mewn astudiaethau di-rif dros yr 20 mlynedd diwethaf ac mae wedi helpu Prifysgol Bangor i ddod yn un o brif gyrchfannau’r byd ar gyfer astudio ac ymchwilio i’r amgylchedd morol.

Mae’n hanfodol ein bod ni i gyd yn lleihau ein hôl troed carbon ac rwy’n falch iawn bod Llywodraeth y DU yn ariannu’r gwaith angenrheidiol i baratoi’r llong wych hon ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd yr Athro Paul Spencer, Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil):

Mae’r Prince Madog wedi bod yn gaffaeliad i Gymru, y DU ac yn rhyngwladol, o ran addysg ac ymchwil.

Mae effaith ymchwil gan yr Ysgol Gwyddorau Eigion dros ddegawdau yn rhyfeddol. Mae wedi newid gwyddoniaeth mewn nifer o feysydd, wedi ailysgrifennu gwerslyfrau ac wedi chwarae rhan bwysig wrth gefnogi datblygiad cynaliadwy parhaus yr amgylchedd morol.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at lawer mwy o flynyddoedd o ymchwil ac effaith arloesol oddi ar fwrdd y Prince Madog.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 6 November 2023