Datganiad i'r wasg

Isafswm cyflog yn hwb i 60,000 o weithwyr Cymru, medd Ysgrifennydd Cymru

Heddiw [19eg Mawrth 2012] mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi croesawu’r cynnydd yng nghyfradd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw [19eg Mawrth 2012] mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi croesawu’r cynnydd yng nghyfradd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a ddaeth i rym o ganlyniad i argymhellion y Comisiwn Cyflogau Isel.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru fod y comisiwn wedi taro cydbwysedd anodd rhwng darparu cyflogau teg, a pheidio a rhoi gormod o faich ar fusnesau Cymru.

Mae’r Llywodraeth wedi cymeradwyo cyfradd newydd o £6.19, a fydd o fudd i 1.1 miliwn o weithwyr sy’n cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol; mae tua 60,000 o’r rheini yng Nghymru. 

Dywedodd Mrs Gillan: ‘Mae’n iawn fod argymhellion y Comisiwn Cyflogau Isel wedi cael eu hystyried. Mae’r Llywodraeth Glymblaid yn credu y dylid rhoi mwy o gefnogaeth i bobl sydd ar incwm isel i ganolig ac yn ogystal a darparu cymhelliant i weithio, mae’r cyhoeddiad hwn hefyd yn cynnig amddiffyniad pwysig i weithwyr sydd ar gyflogau isel.

“Mae gan Gymru ei sialensiau ei hun yn ystod y cyfnod adferiad economaidd, ac mae’n hanfodol bod y cynnydd yn yr isafswm cyflog cenedlaethol yn cydbwyso’r angen i ddarparu cyflog teg, heb roi baich gormodol ar fusnesau.Mae’n hanfodol fod busnesau Cymru yn cael y cyfle i dyfu - yn enwedig yn y sector preifat ac mae hwn yn gam teg ymlaen, sydd i’w groesawu.”

Nodiadau i olygyddion:

1. Mae’r Comisiwn Cyflogau Isel yn gwneud argymhellion i’r Llywodraeth yn ei adroddiad blynyddol. Mae’r Llywodraeth wedi derbyn yr argymhellion canlynol:

  • bod y gyfradd i oedolion yn cael ei chynyddu 11 ceiniog i £6.19 yr awr o 1 Hydref 2012 ymlaen
  • Cyfradd Datblygu Ieuenctid o £4.98 yr awr a Chyfradd 16-17 Oed o £3.68 yr awr o 1 Hydref 2012 ymlaen
  • bod y Gyfradd Prentisiaeth yn cael ei chynyddu 5 ceiniog i £2.65 yr awr o 1 Hydref 2012 ymlaen
  • bod 9 ceiniog ychwanegol yn cael ei rhoi (i £4.82 y dydd o 1 Hydref 2012 ymlaen) pan fydd costau llety yn cael eu gosod yn erbyn cyflog 

2. Bydd y cynnydd a gyhoeddwyd hyd yma o fudd i 25 miliwn o unigolion, a bydd 1.1 miliwn o unigolion sydd ar incwm isel mewn sefyllfa well o safbwynt treth o fis Ebrill 2012. Bydd trethdalwyr cyfradd sylfaenol yn ennill £210 yr flwyddyn mewn termau real yn 2012-13 o ganlyniad i hyn.

Cyhoeddwyd ar 19 March 2012