Datganiad i'r wasg

Neges Dydd Gŵyl Dewi Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn nodi Dydd Gŵyl Dewi yn ei neges gyntaf.

Welsh Secretary David TC Davies

Ysgrifennydd Gwladol Cymru David TC Davies yn dathlu Cymru ac yn edrych ymlaen at flwyddyn gyffrous i ddod yn ei neges Dydd Gŵyl Dewi cyntaf ers cael ei benodi’n Ysgrifennydd Cymru.

Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, mae’n bleser gen i heddiw gyhoeddi fy nghyfarchion Dydd Gŵyl Dewi am y tro cyntaf a hoffwn ddymuno’r gorau i bawb sy’n dathlu ein diwrnod cenedlaethol yng Nghymru a ledled y byd.

Mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair i’n cenedl er gwaethaf yr heriau sy’n ein hwynebu ni i gyd. Mae’r rhyfel yn Wcráin wedi golygu costau ynni uchel, gan wneud bywyd yn anodd i lawer. Ond mae hefyd wedi dod â’r gorau o’r ysbryd cymunedol y mae Cymru mor enwog amdano. Mae cymaint o bobl wedi croesawu pobl o Wcráin i’w cartrefi, gan ddarparu noddfa iddyn nhw a chynnig cartref i’r rhai sydd mewn angen dwys.

A’r un ysbryd cymunedol, ynghyd â gwaith caled a phenderfyniad, sy’n ein helpu i ddod dros y pandemig Covid ac adeiladu dyfodol llewyrchus i Gymru.

Mae Llywodraeth y DU yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gyflawni dros bobl Cymru. Cyn bo hir, byddwn yn cyhoeddi’r cais llwyddiannus ar gyfer y Porthladd Rhydd cyntaf yng Nghymru, a fydd yn creu swyddi ac yn sbarduno twf a ffyniant. Ac yn gynharach eleni fe wnaethom gyhoeddi £208 miliwn ar gyfer un ar ddeg arall o brosiectau Codi’r Gwastad mawr ledled Cymru, gan ychwanegu at y £160m a neilltuwyd yn flaenorol i fwy na 170 o brosiectau codi’r gwastad yng Nghymru a thua £790 miliwn i ddatblygu bargeinion twf ar gyfer pob rhan o’r wlad.

Mae gan Gymru ran hynod bwysig i’w chwarae mewn technoleg werdd yn y dyfodol, gyda’r potensial enfawr ar gyfer ynni gwynt ar y môr oddi ar yr arfordir yn y Môr Celtaidd, ynni morol, datgarboneiddio niwclear a diwydiannol.

Mae gennym ni’r clwstwr lled-ddargludydd cyfansawdd cyntaf yn y byd yn Ne Cymru, wedi’i gefnogi gan fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU, a diwydiannau cynhyrchu cyfryngau a thechnoleg ariannol sy’n tyfu’n gyflym. Ac mae ein sector bwyd a diod enwog yn parhau i ffynnu.

Ac wrth gwrs mae gennym ni gefn gwlad bendigedig, arfordir hardd a dinasoedd a threfi bywiog sy’n gwneud Cymru yn gyrchfan mor ddeniadol i dwristiaid.

Ond dim ond oherwydd y bobl sy’n cyfrannu eu hegni a’u hangerdd at wneud ein cymunedau yn lleoedd gwych i fyw ynddynt y mae’r dyfodol cyffrous hwn i Gymru yn bosibl. Dydd Gwyl Dewi hapus i chi gyd.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 1 March 2023