Datganiad i'r wasg

Data Trafodiad mis Mai 2015

Mae'r data a gyhoeddir yma yn rhoi gwybodaeth am y niferoedd a'r mathau o geisiadau a gwblhawyd gan y Gofrestrfa Tir ym mis Mai 2015.

Ym mis Mai 2015:

  • y Gofrestrfa Tir yn cwblhau 1,298,742 o geisiadau
  • De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol gyda 299,361 o geisiadau
  • Birmingham ar frig y tabl o geisiadau gan awdurdodau lleol gyda 20,035 o geisiadau

Mae’r Data Trafodiad yn dangos i’r Gofrestrfa Tir gwblhau dros 1,298,740 o geisiadau gan ei chwsmeriaid ym mis Mai. Mae hyn yn cynnwys 1,264,074 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda:

  • 286,606 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau)
  • 608,701 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl
  • 172,622 yn chwiliadau
  • 71,570 yn drafodion am werth
Rhanbarth Ceisiadau
De Ddwyrain Lloegr 299,361
Llundain Fwyaf 254,365
Gogledd Orllewin Lloegr 142,810
De Orllewin Lloegr 127,113
Gorllewin Canolbarth Lloegr 107,385
Swydd Gaerefrog a’r Humber 102,090
Dwyrain Canolbarth Lloegr 93,715
Gogledd Lloegr 59,781
Cymru 59,413
Dwyrain Anglia 52,591
Cymru a Lloegr (heb eu haseinio) 87
Ynysoedd Sili 31
Cyfanswm 1,298,742
Tri phrif awdurdod lleol Ceisiadau
Birmingham 20,035
Dinas Westminster 18,606
Leeds 15,125
Tri phrif gwsmer Trafodion am werth
My Home Move Limited 1,433
Countrywide Property Lawyers 817
O’Neill Patient 674
Tri phrif gwsmer Chwiliadau
Enact 7,421
Optima Legal Services 5,690
TM Group (UK) Ltd (Search Choice) 5,521

Mynediad i’r set lawn o ddata

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  1. Cyhoeddir y Data Trafodiad ar bymthegfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Data Trafodiad mis Mehefin ar ddydd Iau 16 Gorffennaf 2015 am 11 y bore yn data.gov.uk
  2. Mae’r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. Ar gyfer esboniad o’r termau a ddefnyddir, gweler Byrfoddau a ddefnyddir yn y Data Trafodiad
  3. Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
  4. Mae’r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i’r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo.
  5. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r gofrestr wedi bod ar agor i’r cyhoedd ei harchwilio oddi ar 1990.
  6. Gyda’r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o’r fath gyda manylion mwy na 24 miliwn o deitlau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cefnogi’r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy’n werth biliynau o bunnoedd.
  7. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i https://www.gov.uk/land-registry
  8. Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov a dewch o hyd i ni ar ein blog, LinkedInaFacebook

Cysylltu

Swyddfa'r wasg

Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR0 2AQ

E-bost HMLRPressOffice@landregistry.gov.uk

Ffôn (dydd Llun i ddydd Gwener 8.30am a 5.30pm) 0300 006 3565

Symudol (5.30pm a 8.30am) 07864 689 344

Cyhoeddwyd ar 19 June 2015