Data Tueddiadau'r Farchnad mis Mai 2015
Data Tueddiadau'r Farchnad ar gyfer Cymru a Lloegr gan y Gofrestrfa Tir.

Mae data mis Mai yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 4.6 y cant sy’n dod â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £179,696 o’i gymharu â’r brig o £180,990 ym mis Tachwedd 2007. Nid yw’r prisiau tai misol yn dangos unrhyw newid (0.0 y cant) oddi ar fis Ebrill.
Mae’r data rhanbarthol yn dangos mai:
- Llundain a De Ddwyrain Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn eu gwerth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf gyda symudiadau o 9.1 y cant
- yn Nwyrain Lloegr a Gogledd Ddwyrain Lloegr y gwelwyd y cynnydd misol mwyaf gyda symudiad o 1.6 y cant
- Cymru welodd yr unig ostyngiad prisiau blynyddol gyda gostyngiad o 0.6 y cant
- Cymru welodd y gostyngiad misol mwyaf mewn prisiau hefyd gyda gostyngiad o 1.7 y cant
Mae’r ffigurau mwyaf cyfredol ar gyfer gwerthiannau ac adfeddiannau yn ystod mis Mawrth 2015 yn dangos:
- i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ostwng 12 y cant i 59,311 o’i gymharu â 67,321 ym mis Mawrth 2014
- y bu gostyngiad o 6 y cant yn nifer yr eiddo a werthwyd am fwy nag £1 filiwn yng Nghymru a Lloegr i 842 o 893 flwyddyn yn gynharach
- i niferoedd yr adfeddiannau yng Nghymru a Lloegr ostwng 35 y cant i 706 o’i gymharu â 1,092 ym mis Mawrth 2014
- y rhanbarth welodd y gostyngiad mwyaf mewn adfeddiannau oedd Dwyrain Lloegr
Mynediad i adroddiad llawn y Mynegai ar gyfer mis Mai
Rhanbarth | Newid misol oddi ar fis Ebrill 2015 | Newid blynyddol oddi ar fis Mai 2014 | Pris cyfartalog Mai 2015 |
---|---|---|---|
Dwyrain Lloegr | 1.6% | 8.8% | £204,890 |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | 1.6% | 1.0% | £100,295 |
Gogledd Orllewin Lloegr | 1.1% | 3.4% | £114,312 |
De Ddwyrain Lloegr | 0.9% | 9.1% | £246,552 |
Llundain | 0.7% | 9.1% | £475,961 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 0.2% | 2.9% | £133,901 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 0.1% | 3.5% | £137,185 |
Cymru a Lloegr | 0.0% | 4.6% | £179,696 |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | -0.6% | 1.1% | £121,189 |
De Orllewin Lloegr | -0.6% | 3.6% | £188,552 |
Cymru | -1.7% | -0.6% | £116,377 |
Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo 2015 i 2014
Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) | Mai 2015 | Mai 2014 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £282,854 | £268,751 | 5.2% |
Tŷ pâr | £170,280 | £162,672 | 4.7% |
Tŷ teras | £135,478 | £129,646 | 4.5% |
Fflat/Fflat deulawr | £171,269 | £164,630 | 4.0% |
Holl | £179,696 | £171,752 | 4.6% |
Nifer y gwerthiannau 2014 i 2013
Mis | Gwerthiannau 2014 Cymru a Lloegr | Gwerthiannau 2013 Cymru a Lloegr | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Ionawr | 65,194 | 43,405 | 50% |
Chwefror | 65,004 | 45,283 | 44% |
Mawrth | 67,321 | 54,744 | 23% |
Ebrill | 70,236 | 51,061 | 38% |
Mai | 77,454 | 66,370 | 17% |
Mehefin | 80,727 | 66,170 | 22% |
Gorffennaf | 84,560 | 73,753 | 15% |
Awst | 87,694 | 79,487 | 10% |
Medi | 78,554 | 69,719 | 13% |
Hydref | 85,957 | 76,659 | 12% |
Tachwedd | 72,572 | 82,847 | -12% |
Rhagfyr | 76,728 | 79,608 | -4% |
Cyfanswm | 912,001 | 789,106 | 16% |
Nifer y gwerthiannau 2015 i 2014
Mis | Gwerthiannau 2015 Cymru a Lloegr | Gwerthiannau 2014 Cymru a Lloegr | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Ionawr | 55,522 | 65,194 | -15% |
Chwefror | 55,593 | 65,004 | -14% |
Mawrth | 59,311 | 67,321 | -12% |
Adfeddiannau fesul rhanbarth 2015 i 2014
Adfeddiannau fesul rhanbarth | Mawrth 2015 | Mawrth 2014 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Dwyrain Lloegr | 38 | 97 | -61% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 48 | 75 | -36% |
Llundain | 72 | 116 | -38% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | 29 | 33 | -12% |
Gogledd Orllewin Lloegr | 163 | 267 | -39% |
De Ddwyrain Lloegr | 103 | 131 | -21% |
De Orllewin Lloegr | 29 | 56 | -48% |
Cymru | 73 | 86 | -15% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 50 | 90 | -44% |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | 101 | 141 | -28% |
Holl | 706 | 1,092 | -35% |
Mae’r Data pris a dalwyd yn cynnwys manylion dros 62,100 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i’w cofrestru ym mis Mai 2015. Yn Llundain SW3 roedd y gwerthiant drutaf yn ystod mis Mai 2015 (£10,050,000). Yn Copeland, Cumbria y cafwyd y gwerthiant rhataf yn ystod mis Mai 2015 (£10,000).
Nodiadau i olygyddion
-
Cyhoeddir Data Tueddiadau’r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir y Mynegai Prisiau Tai ar gyfer mis Mehefin am 9.30 y bore ar ddydd Mawrth 28 Gorffennaf 2015. Cyhoeddir y Data Pris a Dalwyd am 11 y bore ar yr un diwrnod.
-
Mae calendr gyda’r dyddiadau rhyddhau’r prif ffigur a’r Mynegai llawn ar gael.
-
Mae’r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy’n fwy na’r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae’n cael ei gyfrifo ar sail set ddata’r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995 yn amodol ar eithrio.
-
Mae set ddata’r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am dros 19 miliwn o drafodion preswyl. O’r rhain mae dros 7 miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy’n darparu’r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio’r mynegai. Mae’r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
-
Mae’r prif ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr ar dudalen 14 yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai misol yn cynnwys data adfeddiannau ychwanegol.
-
Mae’r data adfeddiannau yn seiliedig ar nifer y trafodion a gyflwynwyd i’r Gofrestrfa Tir gan roddwyr benthyg sy’n arfer eu pŵer gwerthu. Unwaith y byddwn wedi nodi’r trafodion hyn, rydym yn tynnu’r wybodaeth pris a dalwyd o’r cofnod perthnasol yn y gofrestr.
-
Er bod y Mynegai yn mynd yn ôl i Ionawr 1995, dim ond oddi ar 2006 rydym wedi bod yn cofnodi adfeddiannau’n gynhwysfawr. Mae hyn yn golygu nad yw data adfeddiannau hanesyddol ar gael cyn mis Ionawr 2006. Gweler data adfeddiannau i gael rhagor o wybodaeth.
-
Mae tablau cefndir y Mynegai ar gael fel Data Agored ar ffurf Excel a CSV ac mewn ffurf y gellir ei darllen gan beiriant fel data cysylltiedig. Maent ar gael i’w defnyddio a’i hail-ddefnyddio o dan y Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA).
-
Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i’w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae’r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo: * y cyfeiriad llawn * y pris a dalwyd * dyddiad y trosglwyddiad * y math o eiddo * ai adeilad newydd yw’r eiddo ai peidio * ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw’r eiddo
-
Gellir llwytho Data Pris a Dalwyd i lawr am ddim ar ffurf txt, csv ac mewn ffurf y gellir ei darllen ar beiriant fel data cysylltiedig. Mae ar gael i unrhyw un ei archwilio neu ei ail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
-
Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r gofrestr wedi bod ar agor i’r cyhoedd ei harchwilio oddi ar 1990.
-
Gyda’r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o’r fath gyda manylion mwy na 24 miliwn o deitlau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cefnogi’r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy’n werth biliynau o bunnoedd.
-
I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.gov.uk/land-registry
-
Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov, ein blog, LinkedIn a Facebook
Cysylltu
Swyddfa'r wasg
Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR0 2AQ
Email HMLRPressOffice@landregistry.gov.uk
Ffôn (dydd Llun i ddydd Gwener 8.30am a 5.30pm) 0300 006 3565
Symudol (5.30pm a 8.30am) 07864 689 344