Datganiad i'r wasg

Marchnata Cymru i’r Byd ar Ddydd Gŵyl Dewi

Alun Cairns yn agor diwrnod masnachu ar Fawrth 1af yn y Gyfnewidfa Stoc yn Llundain

Ymunodd busnesau Cymreig blaenllaw ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns, wrth iddo wasgu’r botwm ar gyfer Seremoni Agor y Farchnad yn Ninas Llundain fore heddiw [Dydd Gwener, 1 Mawrth].

Dyma’r tro cyntaf i’r seremoni fawr ei bri gael ei defnyddio i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, a thynnu sylw at waith cwmnïau arloesol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru ac sy’n gwneud eu marc ar y llwyfan rhyngwladol.

Mae’r rhai a oedd yn bresennol yn y digwyddiad dechrau masnachu heddiw yn cynnwys IQE, Delio Wealth a Newport Wafer Fab yn ogystal â chynrychiolwyr o sefydliadau busnes gan gynnwys CBI Cymru a Sefydliad y Cyfarwyddwyr (IoD) Cymru.

Cynhaliwyd y digwyddiad fel rhan o ddathliadau Wythnos Cymru yn Llundain; digwyddiad blynyddol sy’n cynnwys dros 100 o weithgareddau a digwyddiadau ym mhrifddinas y DU sy’n dathlu ac yn hyrwyddo popeth sy’n wych am Gymru.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Dydd Gŵyl Dewi’n ddiwrnod pwysig i Gymru gyfan ystyried cryfder ein hanes, ein hiaith a’n diwylliant unigryw.

Mae hefyd yn bwysig o ran ein hatgoffa pa mor ddeinamig yw’r Gymru fodern. Rydym yn gartref i rai o gwmnïau mwyaf arloesol y byd ac mae ein cynnyrch a’n gwasanaethau mewn diwydiannau fel lled-ddargludyddion, seiber ddiogelwch a’r sectorau cyllid ac yswiriant yn cael eu hallforio i bedwar ban byd.

Mae Llywodraeth y DU yn gweithio’n galed i sicrhau bod y duedd honno’n parhau drwy gefnogi cwmnïau Cymreig i ehangu a bod yn rhan o farchnadoedd sy’n tyfu o gwmpas y byd. Rwy’n gobeithio y bydd cwmnïau Cymreig newydd yn cael eu hysbrydoli gan ddigwyddiad heddiw ac yn dechrau eu stori eu hunain o lwyddiant rhyngwladol.

Dywedodd Nikhil Rathi, Prif Weithredwr Cyfnewidfa Stoc Llundain plc a Chyfarwyddwr Datblygu Rhyngwladol, LSEG:

Mae Cyfnewidfa Stoc Llundain yn falch o’i rôl ganolog yn cefnogi busnesau Cymreig. Mae tri deg chwech o gwmnïau o Gymru wedi’u rhestru ar ein marchnadoedd ar hyn o bryd gyda chyfalaf cyfun ar y farchnad o dros £27.3 biliwn. Rydym hefyd yn arbennig o falch o gefnogi busnesau ac entrepreneuriaid Cymreig llai i ddatblygu’n arweinwyr y farchnad ac yn enwau adnabyddus yn y dyfodol drwy nifer o gynlluniau sydd wedi’u teilwra’n arbennig, fel ein rhaglen ELITE a’n hadroddiad Cwmnïau i Ysbrydoli Prydain. Mae’n bleser gennym groesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi drwy agor y masnachu yng Nghyfnewidfa Stoc Llundain fore heddiw.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 1 March 2019