Datganiad i'r wasg

Data Tueddiadau'r Farchnad mis Mawrth 2015

Data Tueddiadau'r Farchnad Mis Mawrth gan y Gofrestrfa Tir.

Heatmap of March HPI

Mae data mis Mawrth yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 5.3 y cant sy’n dod â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £178,007 o’i gymharu â’r brig o £181,049 ym mis Tachwedd 2007. Mae prisiau tai wedi gostwng 0.8 y cant oddi ar fis Chwefror.

Mae’r data rhanbarthol yn dangos mai:

  • Llundain welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf gyda symudiad o 11.3 y cant
  • yn Ne Ddwyrain Lloegr y gwelwyd y cynnydd misol mwyaf gyda symudiad o 0.8 y cant
  • gwelodd Gogledd Ddwyrain Lloegr yr unig ostyngiad prisiau blynyddol gyda gostyngiad o 2.9 y cant
  • Gogledd Ddwyrain Lloegr welodd y gostyngiad misol mwyaf mewn prisiau hefyd gyda gostyngiad o 4 y cant.

Mae’r ffigurau mwyaf cyfredol ar gyfer gwerthiannau ac adfeddiannau yn ystod mis Ionawr 2015 yn dangos:

  • i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ostwng 18 y cant i 53,168 o’i gymharu â 65,175 ym mis Ionawr 2014
  • y bu gostyngiad o 19 y cant yn nifer yr eiddo a werthwyd am fwy nag £1 filiwn yng Nghymru a Lloegr i 851 o 1,049 flwyddyn yn gynharach
  • i niferoedd yr adfeddiannau yng Nghymru a Lloegr ostwng 45 y cant i 590 o’i gymharu â 1,081 ym mis Ionawr 2014
  • mai Llundain oedd y rhanbarth i weld y gostyngiad mwyaf mewn gwerthiannau adfeddiannau

Mynediad i adroddiad llawn y Mynegai

Rhanbarth Newid misol oddi ar fis Chwefror 2015 Newid blynyddol oddi ar fis Mawrth 2014 Pris cyfartalog Mawrth 2015
De Ddwyrain Lloegr 0.8% 10.1% £243,512
Llundain 0.2% 11.3% £462,799
Dwyrain Canolbarth Lloegr -0.2% 4.2% £133,063
Swydd Gaerefrog a’r Humber -0.2% 3.3% £120,914
Gorllewin Canolbarth Lloegr -0.2% 2.8% £136,761
De Orllewin Lloegr -0.7% 3.8% £185,162
Cymru a Lloegr -0.8% 5.3% £178,007
Gogledd Orllewin Lloegr -0.9% 2.2% £111,149
Dwyrain Lloegr -1.2% 8.4% £199,133
Cymru -2.9% 2.7% £117,828
Gogledd Ddwyrain Lloegr -4.0% -2.9% £97,444

Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo 2015 i 2014

Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) Mawrth 2015 Mawrth 2014 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £281,950 £266,002 6.0%
Tŷ pâr £169,194 £159,407 6.1%
Tŷ teras £133,911 £126,998 5.4%
Fflat/Fflat deulawr £168,647 £162,858 3.6%
Holl £178,007 £168,980 5.3%

Nifer y gwerthiannau 2014 i 2013

Mis Gwerthiannau 2014 Cymru a Lloegr Gwerthiannau 2013 Cymru a Lloegr Gwahaniaeth
Ionawr 65,175 43,404 50%
Chwefror 64,982 45,276 44%
Mawrth 67,295 54,742 23%
Ebrill 70,176 51,055 37%
Mai 77,374 66,366 17%
Mehefin 80,580 66,163 22%
Gorffennaf 84,401 73,740 14%
Awst 87,458 79,473 10%
Medi 78.198 69,713 12%
Hydref 85,317 76,636 11%
Tachwedd 71,558 82,823 -14%
Rhagfyr 74,316 79,589 -7%
Cyfanswm 906,830 788,980 15%

Nifer y gwerthiannau 2015 i 2014

Mis Gwerthiannau 2015Cymru a Lloegr Gwerthiannau 2014Cymru a Lloegr Gwahaniaeth
Ionawr 53,168 65,175 -18%

Adfeddiannau fesul rhanbarth 2015 i 2014

Adfeddiannau fesul rhanbarth Ionawr 2015 Ionawr 2014 Gwahaniaeth
Dwyrain Lloegr 34 71 -52%
Dwyrain Canolbarth Lloegr 56 99 -43%
Llundain 65 138 -53%
Gogledd Ddwyrain Lloegr 23 28 -18%
Gogledd Orllewin Lloegr 128 252 -49%
De Ddwyrain Lloegr 57 117 -51%
De Orllewin Lloegr 39 65 -40%
Cymru 59 86 -31%
Gorllewin Canolbarth Lloegr 42 71 -41%
Swydd Gaerefrog a’r Humber 87 154 -44%
Holl 590 1,081 -45%

Mae’r Data pris a dalwyd yn cynnwys manylion dros 68,770 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i’w cofrestru ym mis Mawrth 2015. Yn Llundain W14 roedd y gwerthiant drutaf yn ystod mis Mawrth 2015 (£15,750,000). Roedd y gwerthiant rhataf ym mis Mawrth 2015 ym Mhen-y-bont ar Ogwr (£12,000).

Mynediad i’r set lawn o ddata

Nodiadau i olygyddion

  1. CyhoeddirData Tueddiadau’r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir y Mynegai Prisiau Tai ar gyfer mis Ebrill am 9.30 y bore ar ddydd Llun 1 Mehefin 2015. Cyhoeddir y Data Pris a Dalwyd am 11 y bore ar yr un diwrnod.

  2. Mae calendr gyda dyddiadau rhyddhau’r prif ffigur a’r Mynegai llawn ar gael yn https://www.gov.uk/government/publications/house-price-index-release-calendar/hpi-calendar-release-dates

  3. Mae’r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy’n fwy na’r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae’n cael ei gyfrifo ar sail set ddata’r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.

  4. Mae set ddata’r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am dros 19 miliwn o drafodion preswyl. O’r rhain mae dros 7 miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy’n darparu’r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio’r mynegai. Mae’r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.

  5. Mae’r prif ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr ar dudalen 14 yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai misol yn cynnwys data adfeddiannau ychwanegol.

  6. Mae’r data adfeddiannau yn seiliedig ar nifer y trafodion a gyflwynwyd i’r Gofrestrfa Tir gan roddwyr benthyg sy’n arfer eu pŵer gwerthu. Unwaith y byddwn wedi nodi’r trafodion hyn, rydym yn tynnu’r wybodaeth pris a dalwyd o’r cofnod perthnasol yn y gofrestr.

  7. Er bod y Mynegai yn mynd yn ôl i Ionawr 1995, dim ond oddi ar 2006 rydym wedi bod yn cofnodi adfeddiannau’n gynhwysfawr. Mae hyn yn golygu nad yw data adfeddiannau hanesyddol ar gael cyn mis Ionawr 2006. Gweler Am y Mynegai Prisiau Tai i gael rhagor o wybodaeth.

  8. Mae Tablau cefndir y Mynegai ar gael fel Data Agored ar ffurf Excel a CSV ac mewn ffurf y gellir ei darllen gan beiriant fel data cysylltiedig. Maent ar gael i’w defnyddio a’i hail-ddefnyddio o dan y Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA).

  9. Mae’r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i’w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae’r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo: * y cyfeiriad llawn * y pris a dalwyd * dyddiad y trosglwyddiad * y math o eiddo * ai adeilad newydd yw’r eiddo ai peidio * ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw’r eiddo

  10. Gellir llwytho Data pris a dalwyd ar ffurf Excel a CSV ac mewn ffurf y gellir ei darllen gan beiriant fel data cysylltiedig. Mae ar gael i unrhyw un ei archwilio neu ei ail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.

  11. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r gofrestr wedi bod ar agor i’r cyhoedd ei harchwilio oddi ar 1990.

  12. Gyda’r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o’r fath gyda manylion mwy na 24 miliwn o deitlau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cefnogi’r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy’n werth biliynau o bunnoedd.

  13. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i https://www.gov.uk/land-registry.

  14. Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov, ein blog, LinkedIn a Facebook.

Cysylltu

Swyddfa'r wasg

Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR0 2AQ

E-bost HMLRPressOffice@landregistry.gov.uk

Ffôn (dydd Llun i ddydd Gwener 8.30am a 5.30pm) 0300 006 3565

Symudol (5.30pm a 8.30am) 07864 689 344

Cyhoeddwyd ar 30 April 2015