Datganiad i'r wasg

Maggie’s Abertawe yw Elusen o Ddewis y DVLA

Mae staff y DVLA wedi dewis Maggie’s Abertawe fel elusen o ddewis yr asiantaeth ar gyfer 2018.

This news article was withdrawn on

This news article has been withdrawn because it’s out of date. Find the latest DVLA news and information.

Bydd staff yn yr asiantaeth yn cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau a digwyddiadau codi arian trwy gydol y flwyddyn sydd i ddod i godi arian i’r elusen, sy’n cefnogi unrhyw un yn ardaloedd Abertawe a De Cymru sy’n cael eu heffeithio gan gancr.

Llynedd, fe wnaeth DVLA trosglwyddo siec am dros £50,000 i elusen Mind ar ôl blwyddyn lawn o weithgareddau codi arian gan ei staff.

Fe wnaeth gweithgareddau codi arian yn y flwyddyn flaenorol cynnwys aelod o staff yn neidio allan o awyren, seiclo o Baris i Abertawe, cymryd rhan yn ‘Her Genedlaethol y Tri Chopa’ a thîm o’r DVLA yn cymryd rhan mewn Hanner Marathon JCP Abertawe. Cynhaliwyd cyngerdd ‘Music For Mind’ gan DVLA ble y bu’r côr staff yn perfformio caneuon anhygoel. Trwy gydol y flwyddyn, gwnaeth staff cynnal rafflau, swîps a gwerthu teisennau, gyda phob cyfle i godi arian ar gyfer yr achos da.

Wrth glywed y newyddion, dywedodd Lucia Osmond, Rheolwr Codi Arian Canolfan Maggie’s Abertawe,

Mae’r tîm ym Maggie’s Abertawe wrth ei fodd i fod yn elusen o ddewis DVLA yn 2018. Fel gwasanaeth lleol rydym yn dibynnu’n llwyr ar garedigrwydd ac ymdrechion ein cefnogwyr, felly bydd yr arian sy’n cael ei godi gan staff DVLA yn cael effaith arwyddocaol ar y gwaith rydym yn gallu parhau i wneud ar gyfer ein defnyddwyr gwasanaeth yn yr ardal leol.

Mae Maggie’s Abertawe wedi gweithio gyda’r DVLA am ychydig o amser, yn darparu sesiynau ymwybyddiaeth iechyd ac wedi cefnogi sawl gweithiwr ym Maggie’s. Felly, mae cael y bartneriaeth swyddogol yma yn gyffrous iawn ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda DVLA yn y flwyddyn i ddod.

Dywedodd Oliver Morley, Prif Weithredwr DVLA:

Rwy’n ddiolchgar iawn i’n holl staff sydd wir yn codi i’r her ac yn rhoi gymaint o’u hamser eu hunain i godi miloedd o bunnoedd ar gyfer ein helusennau enwebedig. Ar y cyd gyda Maggie’s Abertawe, gallwn wneud gwahaniaeth mawr ac rwyf wrth fy modd y byddwn yn gweithio i gefnogi’r achos arbennig hwn yn 2018.

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 5 January 2018