Datganiad i'r wasg

Yr Arglwydd Bourne yn cynrychioli Llywodraeth y DU yn Nhasglu Cwmni Dur Tata

Yr Arglwydd Bourne: “Byddwn yn parhau i weithio’n agos i gefnogi gweithwyr dur a’u teuluoedd ar hyd a lled y wlad”

Heddiw (22 Chwefror), bydd yr Arglwydd Bourne, sy’n Weinidog yn Swyddfa Cymru, yn cynrychioli Llywodraeth y DU yn nhrydydd cyfarfod Tasglu Cwmni Dur Tata.

Crëwyd y Tasglu i ganfod a goruchwylio’r camau ymarferol y gellir eu cymryd i gefnogi gweithwyr yr effeithir arnynt gan y colledion swyddi a gyhoeddwyd yng Nghwmni Dur Tata y mis diwethaf.

Dywedodd yr Arglwydd Bourne, sy’n Weinidog yn Swyddfa Cymru:

Sefydlwyd Tasglu Cwmni Dur Tata i sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â’r gymuned ddur a helpu i sicrhau dyfodol gwell yn dilyn y cyfnodau heriol hyn.

Mae Llywodraeth y DU yn cymryd camau i gefnogi’r sector drwy dorri costau ynni, a gweithredu ym meysydd caffael y llywodraeth a rheoliadau allyriadau’r UE.

Byddwn yn parhau i weithio’n agos i gefnogi gweithwyr dur a’u teuluoedd ar hyd a lled y wlad.

Cyhoeddwyd ar 22 February 2016