Datganiad i'r wasg

Yr Arglwydd Bourne: “Mae’n amser setlo’r drafodaeth gyfansoddiadol yng Nghymru ar gyfer yr hir dymor”

Gweinidog yn Swyddfa Cymru yn annerch yr Academi ar gyfer Gwyddorau Cymdeithasol

Bydd Gweinidog yn Swyddfa Cymru, yr Arglwydd Bourne, yn galw am ddiwedd ar y drafodaeth gyfansoddiadol yng Nghymru ac am newid ffocws ar gyfer cyflawni er budd pobl Cymru pan fydd yn annerch cymrodyr yr Academi ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol yn Llundain heddiw (14 Gorffennaf).

Wrth siarad yn lansiad cyhoeddiad yr Academi, ‘Making the Case for Sciences Wales’, bydd yr Arglwydd Bourne yn cadarnhau ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddatganoli a gwthio’r pŵer i lawr i lefel leol yng Nghymru.

Bydd yn datgan yr athroniaeth sydd wrth galon cytundeb Dydd Gŵyl Dewi, a gyhoeddodd fesurau cyllido arloesol a mwy o bwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol. Bydd hefyd yn cadarnhau pwysigrwydd gwneud penderfyniadau ar lefel leol.

Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, yr Arglwydd Bourne:

Mae’n bleser cael y cyfle i siarad yn y digwyddiad yma heddiw. Mae’r gwyddorau cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol mewn llunio polisïau, gan roi i ni ddarlun clir o’r problemau sy’n wynebu cymdeithas heddiw - ac mae datganoli yn un o’r rhai mwyaf.

Yr hyn mae pobl Cymru’n ei ddweud wrthym ni yw y dylid cael pwrpas clir i bwerau sy’n cael eu datganoli. Dylid eu defnyddio i wneud Cymru’n gryfach ac o fudd i fusnesau, a gwella bywydau pobl ar hyd a lled y wlad.

Drwy gytundeb Dydd Gŵyl Dewi a Mesur Cymru wedyn, mae’n oes newydd o ddatganoli i Gymru. Gadewch i ni ddefnyddio’r cyfle hwn i roi’r trafod cyfansoddiadol o’r neilltu a chanolbwyntio unwaith eto ar wrando ar bobl Cymru a chyflawni er eu lles.

Cyhoeddwyd ar 14 July 2015
Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 July 2015 + show all updates
  1. Link to speech added

  2. Added translation