Arglwydd Bourne yn clodfori amgueddfeydd Cymru yn ystod ymweliad â'r Glannau
Lord Bourne: " Mae ein hamgueddfeydd yn gyfle unigryw i bobl ddysgu sut mae hanes cyfoethog a balch Cymru wedi siapio’r genedl yn y 21ain ganrif.”

Ddoe (dydd Iau 19 Tachwedd) ymwelodd Dirprwy Ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, yr Arglwydd Bourne ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau tra’n ymweld ag Abertawe.
Manteisiodd ar y cyfle i fwynhau taith fer drwy 15 oriel thematig yr Amgueddfa yn ogystal â’r arddangosfa newydd sbon, Cymru yn y Gofod sy’n cyflwyno rhai o’r offer pwysicaf a ddefnyddiwyd gan seryddwyr o Gymru dros y 400 mlynedd diwethaf, a’u rôl wrth i ni ymgeisio i feithrin dealltwriaeth well o’r bydysawd.
Wrth siarad am yr ymweliad dywedodd Steph Mastoris, Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau:
Mae’n bleser cael croesawu’r Arglwydd Bourne i’r Amgueddfa heddiw. Roedd yn gyfle gwych i ddangos safon uchel ein rhaglenni addysg, arddangosfeydd a digwyddiadau sy’n annog ein hymwelwyr i ddychwelyd drosodd a thro.
Dywedodd Gweinidog y Swyddfa Gymreig, yr Arglwydd Bourne:
Mae ein hamgueddfeydd yn gyfle unigryw i bobl ddysgu sut mae hanes cyfoethog a balch Cymru wedi siapio’r genedl yn y 21ain ganrif. Mae ymwelwyr o bedwar ban byd yn teithio i Gymru i weld celf o safon ryngwladol ac arteffactau hanesyddol – ac amgueddfeydd yn cyfrannu at dwristiaeth leol a helpu i hyrwyddo Cymru i’r byd.
Gydag arddangosfeydd cyffrous yn apelio at ymwelwyr o bob oed, rwy’n gobeithio y bydd ein hamgueddfeydd gwerthfawr yn parhau i ffynnu am flynyddoedd.