Datganiad i'r wasg

Yr Arglwydd Bourne yn galw ar bobl ledled y Deyrnas Unedig i ddewis dod i Gymru ar wyliau

Yr Arglwydd Bourne: “2016 yw’r flwyddyn antur yng Nghymru, ac mae hynny’n rhywbeth y gall ein gwlad fach ond anhygoel ei ddarparu”

Lord Bourne at National Museum Cardiff

Mae’r Arglwydd Bourne, sy’n Weinidog yn Swyddfa Cymru, wedi galw ar bobl ledled y DU i ystyried dod i Gymru wrth ddewis ble i fynd ar eu gwyliau, a hynny cyn Wythnos Twristiaeth Cymru.

Mae Wythnos Twristiaeth Cymru, sy’n cael ei threfnu gan Gynghrair Twristiaeth Cymru, yn tynnu sylw at weithgareddau sy’n gysylltiedig â thema Croeso Cymru ar gyfer 2016: “Blwyddyn Antur”.

Dywedodd yr Arglwydd Bourne, sy’n Weinidog yn Swyddfa Cymru:

2016 yw’r flwyddyn antur yng Nghymru, ac mae hynny’n rhywbeth y gall ein gwlad fach ond anhygoel ei ddarparu.

O greigiau geirwon Eryri sy’n denu dringwyr a cherddwyr o bob cwr o’r byd i’r llwybrau arfordirol hyfryd sy’n cynnig seibiant braf o fywyd prysur y ddinas - mae gan Gymru rywbeth i bawb.

Fodd bynnag, mae’n bwysig fod pobl ledled Cymru’n cofio ymweld â’n hamgueddfeydd, sydd gyda’r gorau yn y byd, eleni. Y rhain yw ein trysorau cenedlaethol, ac maen nhw’n rhoi cipolwg gwerthfawr a diddorol i’n gorffennol cyfoethog a phwysig, sy’n antur ynddo’i hun.

Bu’r Gweinidog yn dathlu’r amrywiaeth eang o brofiadau diwylliannol sydd ar gael i dwristiaid ledled Cymru drwy ymweld ag un o brif atyniadau’r brif ddinas - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Manteisiodd y Gweinidog ar y cyfle i glywed am gasgliadau’r Lluoedd Arfog yn Sain Ffagan. Mae grant gan Gronfa Gyfamod Gymunedol y Lluoedd Arfog yn cefnogi’r gwaith o ailddangos y casgliad, a’r gwaith cysylltiedig o estyn allan yn y gymuned lle bydd straeon personol, archifau, lluniau a gwrthrychau yn cael eu casglu ynghyd am y tro cyntaf i greu arddangosfa ac adnodd gwerthfawr ar gyfer y Rhyfel Byd Cyntaf, gwrthdaro y dyddiau hyn a’u heffaith ar gymunedau Cymru.

Hefyd, gwelodd yr Arglwydd Bourne y rhywogaeth newydd o ddeinosor a ganfuwyd yn ne Cymru yn 2014. Mae’r deinosor yn dyddio’n ôl 201 miliwn o flynyddoedd ac mae bellach yn cael ei arddangos yn yr amgueddfa. Dywedir mai dyma’r deinosor Jurasig hynaf y gwyddys amdano, i’w ganfod erioed yn y DU.

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfa Cymru – National Museum Wales:

Rydyn ni wedi gweld cynnydd o 26% yn nifer yr ymwelwyr o dramor sy’n dod i saith amgueddfa genedlaethol Cymru, sy’n dangos bod gan ymwelwyr ddiddordeb mewn amgueddfeydd yng Nghymru. Roedden ni’n falch o groesawu’r Arglwydd Bourne i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd heddiw - yr amgueddfa sy’n denu’r nifer fwyaf o dwristiaid rhyngwladol o blith holl amgueddfeydd Cymru.

Rydyn ni’n falch o’n casgliadau sy’n bwysig yn rhyngwladol, y safon uchel rydyn ni’n ei chynnig i’n hymwelwyr, ac yn bwysicaf oll, ein rôl yn y gwaith o broffilio Cymru y tu hwnt i’w ffiniau.

Cyhoeddwyd ar 22 February 2016