Stori newyddion

Yr Arglwydd Bourne yn mynychu Tasglu Cwmni Dur Tata

Yr Arglwydd Bourne: “Ein sylw cyntaf nawr yw gweithio gyda phartneriaid ein Tasglu i gefnogi gweithwyr ar safleoedd cwmni Tata yn ne Cymru”

Bydd yr Arglwydd Bourne, sy’n Weinidog yn Swyddfa Cymru, yn mynychu’r ail gyfarfod o Dasglu Cwmni Dur Tata ddydd Llun (1 Chwefror).

Sefydlwyd y Tasglu i ganfod a goruchwylio’r camau ymarferol y gellir eu cymryd i gefnogi gweithwyr yr effeithir arnynt gan y colledion swyddi a gyhoeddwyd gan y cwmni dur y mis diwethaf.

Bydd yr Arglwydd Bourne yn cynrychioli Llywodraeth y DU yn y cyfarfod yng Nghaerdydd.

Dywedodd yr Arglwydd Bourne, sy’n Weinidog yn Swyddfa Cymru:

Mae llywodraeth y DU wedi ymrwymo i weithio’n agos â’r sector dur a’n partneriaid er mwyn sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy i’r diwydiant ac i weithwyr dur Cymru.

Mae amodau’r farchnad fyd-eang yn aruthrol o heriol. Mae llywodraeth y DU wedi cymryd camau pendant i helpu’r diwydiant, a hynny drwy dorri costau ynni, gweithredu ym maes allforion, caffael y llywodraeth a rheoliadau allyriadau’r UE, gan gwrdd â gofynion allweddol y diwydiant dur.

Ein sylw cyntaf yw gweithio gyda phartneriaeth ein Tasglu i gefnogi gweithwyr ar safleoedd cwmni Tata yn ne Cymru.

Gyda’n gilydd, rydym mewn cysylltiad agos â Tata er mwyn canfod unrhyw gymorth pellach y gallwn ei roi yn y cyfnod anodd hwn.

Cyhoeddwyd ar 1 February 2016