Datganiad i'r wasg

Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn chwarae rhan allweddol wrth hyrwyddo heddwch, meddai Cheryl Gillan

Yn ystod ymweliad a’r ŵyl flynyddol, dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, fod Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn chwarae…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Yn ystod ymweliad a’r ŵyl flynyddol, dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, fod Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo heddwch dros y byd, ac wrth ddod a gwledydd yn nes at ei gilydd.

Bu i Mrs Gillan, sef Llywydd yr Eisteddfod heddiw, ymweld a’r safle a chwrdd a rhai o’r gwirfoddolwyr niferus sy’n cyfrannu at lwyddiant y digwyddiad.  Mae’r Eisteddfod Ryngwladol, sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 65 eleni, yn cael ei hystyried yn un o wyliau diwylliannol mwyaf ysbrydoledig y byd, gan ddenu dros 4,000 o gystadleuwyr i Langollen bob blwyddyn.

Wrth siarad ym Mhafiliwn yr Eisteddfod, dywedodd Mrs Gillan:  “Braint anhygoel yw cael fy ngwahodd i fynychu’r Eisteddfod Ryngwladol fel Llywydd y Dydd.  Ar ol yr Ail Ryfel Byd, roedd rhai yn credu mai syniad amhosib ei wireddu oedd cynnal fersiwn ryngwladol o’r Eisteddfod Gymreig draddodiadol.   Ond yn ffodus, llwyddwyd i wireddu’r freuddwyd hon, ac fe gafodd un o draddodiadau arbennig Cymru ei droi yn ddigwyddiad sy’n wirioneddol ryngwladol.

“Dylai Llangollen, a Chymru gyfan, fod yn hynod falch o’u llwyddiannau - maent wedi dod a Gwledydd at ei gilydd mewn cyfeillgarwch a heddwch.  Rydym yn byw mewn byd modern prysur lle clywir son am ddigwyddiadau cythryblus ar y teledu ac ar y radio bob dydd.  Mewn byd o’r fath, mae’n bwysig bod y gymuned fyd-eang yn ceisio mynd ag ysbryd heddwch i ardaloedd ein byd sy’n wynebu helbulon, gan geisio cadw’r heddwch, atal trais, a datrys unrhyw wrthdaro.

“Gallwn wneud hyn drwy gynyddu’r ddealltwriaeth o’r hyn sy’n ein huno a dathlu’r hyn sy’n ein gwneud yn wahanol - rhywbeth y mae’r Eisteddfod yn rhagori arno.  Yn ddiweddar, fe wnaeth y Prif Weinidog gydnabod cyfraniad yr Eisteddfod at hyrwyddo heddwch, ac mae’n rhaid i mi gytuno’n llwyr ag ef.  Rhaid i ni beidio ag anghofio’r rhan bwysig sydd gan ddiplomyddiaeth ddiwylliannol i’w chwarae.”

Yn gynharach heddiw, aeth Mrs Gillan ar drip ar gamlas Llangollen ar draws Dyfrbont Pontcysyllte. Bu iddi gwrdd a chynrychiolwyr o Ddyfrffyrdd Prydain a busnesau lleol er mwyn clywed eu barn am fanteision y dyfrffyrdd.  Rhoddwyd statws Treftadaeth y Byd i’r ddyfrbont gan UNESCO ym mis Mehefin 2009.

Ychwanegodd Mrs Gillan:  “Rydym yn hynod ffodus yma yng Nghymru bod gennym dirwedd mor hardd ac amrywiol.  Mae twristiaeth a’n dyfrffyrdd yn gwneud cyfraniad hanfodol i’n heconomi, ac roedd yn fendigedig cael mynd ar drip ar draws dyfrbont Pontcysyllte a chwrdd a chynrychiolwyr o Ddyfrffyrdd Prydain a busnesau lleol.  Mae manteision lu i’r dyfrffyrdd, er enghraifft trafnidiaeth gynaliadwy.  Mae hefyd yn cefnogi cymunedau gwledig drwy gynnig gweithgareddau hamdden, drwy annog twristiaeth a drwy greu swyddi. Rwy’n awyddus i gynifer o bobl a phosib fanteisio ar y pethau hyn.”

Cyhoeddwyd ar 8 July 2011