Datganiad i'r wasg

Llygaid y byd ar ddiwylliant Cymru yn Eisteddfod Llangollen

David Jones yn ymweld a 68ain Eisteddfod Ryngwladol flynyddol Llangollen

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru David Jones AS yn tynnu sylw at gyfraniad Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen o ran rhoi diwylliant Cymru ar y map pan fydd yn ymweld â’r digwyddiad blynyddol heddiw (dydd Gwener 11 Gorffennaf).

Mr Jones fydd Llywydd y Dydd a bydd yn rhoi araith i nodi pwysigrwydd yr ŵyl i fywyd diwylliannol ac economaidd Cymru.

Bydd hefyd yn manteisio ar y cyfle i fwynhau perfformiadau cerddorion a dawnswyr sydd wedi teithio o bedwar ban byd ac yn ymweld â llu o arddangoswyr ar draws y maes.

Dywedodd David Jones AS Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Llangollen wedi hen ennill ei lle fel y dref lle bydd Cymru’n croesawu’r byd bob blwyddyn. A minnau wedi bod yn cefnogi’r Eisteddfod ers tro byd, dwi wrth fy modd fy mod yn cael dod i’r digwyddiad eleni fel Llywydd y Dydd, mae’n anrhydedd mawr.

Wrth i Gymru baratoi i gynnal uwchgynhadledd NATO ym mis Medi, mae’r Eisteddfod Ryngwladol yn gyfle pwysig arall i ni gyrraedd cynulleidfaoedd ar draws y byd ac arddangos y cyfoeth sydd gan Gymru i’w gynnig a’i wreiddio mewn gwledydd eraill sy’n ymweld.

Dros ei hanes o 68 blynedd, mae’r Eisteddfod wedi ennill ei lle fel un o drysorau coron ddiwylliannol Cymru, dymunaf bob llwyddiant iddi am flynyddoedd i ddod.

Cyhoeddwyd ar 11 July 2014