Stori newyddion

‘Llangollen yn ychwanegu ei hud ei hun at ddigwyddiadau diwylliannol a chwaraeon y DU yn 2012’ – Y Gweinidog David Jones

Heddiw [5ed Gorffennaf], yn ystod ei ymweliad a’r ŵyl, mae’r Gweinidog yn Swyddfa Cymru, David Jones, wedi canmol llwyddiant Eisteddfod Ryngwladol…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

David-Jones-Langollen2-480x360

Heddiw [5ed Gorffennaf], yn ystod ei ymweliad a’r ŵyl, mae’r Gweinidog yn Swyddfa Cymru, David Jones, wedi canmol llwyddiant Eisteddfod Ryngwladol Llangollen eleni. Roedd Mr Jones yn yr Eisteddfod i gyfarfod y Cadeirydd, Phil Davies, a’r trefnyddion, sy’n gwneud yr Eisteddfod yn llwyddiant blynyddol. Aeth ymlaen wedyn i ymweld ag Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, Hugh Evans, a nifer o arddangoswyr, gan gynnwys Soroptimist Rhyngwladol, Lions International a Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru. Hefyd dangosodd y Gweinidog ei gefnogaeth i ymgyrch Soroptimist Rhyngwladol i godi arian ar gyfer ‘Mary’s Meals’ a’r Mudiad Rhyngwladol i Hybu Iechyd Mamau a Phlant yn Gambia, MCAI.

Hefyd croesawodd y Gweinidog Lywydd Rhyngwladol newydd y Rotari ar gyfer Prydain ac Iwerddon, John Minhinnick, i’r Eisteddfod, ar ei ymweliad cyntaf a’r ŵyl, cyn clywed am ymdrechion y sefydliad i helpu i ddileu polio ym mhob cwr o’r byd, drwy’r prosiect ‘Polio Plus’.

**Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones: **“Mae’r digwyddiad eleni’n tanlinellu’r rol bwysig sydd gan Eisteddfod Llangollen i’w chwarae mewn dod a phobl a llefydd at ei gilydd er mwyn dathlu treftadaeth ddiwylliannol y gwahanol wledydd. Mae hyn yn hynod bwysig yr haf yma, yn dilyn dathliadau’r Jiwbili Diemwnt a’r Gemau Olympaidd sydd ar y gorwel, gyda phob un o wledydd y DU yn hoelio sylw’r byd i gyd.

“Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn ychwanegu ei hud unigryw ei hun at flwyddyn arbennig iawn o ddigwyddiadau chwaraeon a diwylliannol ledled y DU, gan roi cyfle i’r ymwelwyr weld traddodiadau hanesyddol ac artistig cyfoethog Cymru, yn ogystal a chael cyfle i brofi traddodiadau gwledydd eraill.”

Cyhoeddwyd ar 5 July 2012