Lerpwl ar y blaen gyda thrawsnewid cyfiawnder
Mae Lerpwl yn arwain gwaith arloesol i foderneiddio system y llysoedd, fel y gwelodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Lucy Frazer dros ei hun yn ystod ei hymweliad â’r ddinas heddiw (31 Mai 2018).

Llys y Goron Lerpwl yw’r cyntaf yn y wlad i beilota meddalwedd newydd fydd yn symleiddio a chyflymu gwrandawiadau gan helpu i osgoi oediadau diangen yn yr ystafell lys. Mae’r system newydd yn allweddol ar gyfer darparu gwasanaeth llys mwy effeithiol, effeithlon a safonol fel rhan o agenda diwygio’r llywodraeth ac mae’n galluogi ffeiliau Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi (GLlTEM), Gwasanaeth Erlyn y Goron (GEG) a ffeiliau’r heddlu gael eu rhannu rhwng asiantaethau mewn un gronfa ddata hwylus y gall pawb gael mynediad ati.
Sefydlwyd y peilot yn Lerpwl gyda chydweithrediad agos Heddlu Glannau Mersi, Gwasanaeth Erlyn y Goron Glannau Mersi a Swydd Gaer (GEG) a GLlTEM ac fe fydd y gwersi a ddysgir yn ystod yr ymarfer profi defnyddwyr yn chwarae rhan allweddol yn ei defnydd ehangach.
Dywedodd Lucy Frazer y Gweinidog dros Gyfiawnder:
Mae llysoedd Lerpwl wedi bod ar y blaen o ran defnyddio technoleg arloesol i wella effeithiolrwydd, cyflymu cyfiawnder a darparu gwerth am arian i’r trethdalwr.
Roeddwn yn falch o weld dros fy hun y cynnydd sy’n cael ei wneud o ran moderneiddio ein system gyfiawnder, fydd yn gwneud ein llysoedd yn addas ar gyfer yr oes ddigidol.
Treuliodd Gweinidog Frazer y diwrnod yn Llys Ynadon a Llys y Goron Lerpwl, yn ogystal â’r Llys Sifil a Theulu lle y bu iddi gyfarfod staff y llys a’r farnwriaeth ac, yn ychwanegol at y Platfform Cyffredin, cafodd gyfle i weld arddangosiad byw o ail system ddigidol sydd wedi ei dylunio i gofnodi dedfrydau mewn amser byw.
Mae canlyniadau 18,000 o achosion yr wythnos yn cael eu huwchlwytho drwy ddefnyddio Cofnodi’n Ddigidol, aeth yn fyw ym mhob llys ynadon dros Gymru a Lloegr ym mis Mai, ac sy’n galluogi cynghorydd cyfreithiol i gofnodi canlyniad gwrandawiad yn y fan a’r lle sy’n sicrhau cyfiawnder cyflym. Mae hyn yn dileu’r angen am broses bapur hirfaith ac yn golygu y gall canlyniadau gael eu rhannu yn syth gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r heddlu, ac felly’n rhyddhau staff i ganolbwyntio ar yr achosion mwyaf pwysig.
Hefyd, treuliodd y gweinidog amser yn Llys Canolog Trais yn y Cartref Glannau Mersi - llys penodedig sy’n delio â phob achos o drais yn y cartref ar eu gwrandawiad cyntaf yn y llys ynadon mor gyflym a sensitif â phosibl, i leihau’r effaith ar y dioddefwr.
Mae arddangosiadau digidol heddiw yn dilyn datblygiadau cynharach yn 2015 lle bu i Lys Ynadon a Llys y Goron Lerpwl gyfuno i ddod yn ganolfan drosedd sengl- y cyntaf o’i maint yng Nghymru a Lloegr ac roedd ymhlith y cyntaf i fabwysiadu y System Achosion Digidol yn Llys y Goron. Mae’r system hon yn galluogi’r farnwriaeth a phartïon eraill yn Lerpwl i baratoi, cyflwyno a rhannu papurau achosion mewn fformat digidol, sydd o ganlyniad yn lleihau oediadau.
Mae’r Llywodraeth yn buddsoddi £1 biliwn mewn diwygio a moderneiddio’r llysoedd, sydd yn barod wedi darparu:
- System llwyr ddi-bapur ar y cyd â Transport for London – sy’n golygu bod miloedd o achosion sy’n ymwneud ag osgoi talu am docynnau yn cael eu prosesu yn gyflymach ac yn fwy effeithiol.
- System ar-lein sy’n galluogi staff i baratoi ffeiliau achosion a chael mynediad atynt yn ddigidol mewn ystafell lys yn ystod gwrandawiad - sy’n arbed 68 miliwn dalen o bapur.
- Y gallu i’r rhai hynny sydd wedi ei heuogfarnu o gyflawni mân droseddau gyrru i gofnodi eu ple cyntaf ar- lein. Fe ymdrinnir â 1500 o bledion ar-lein pob wythnos. Mae staff y llys a’r heddlu yn cael y ffurflen cofnodi ple ar-lein sydd wedi ei llenwi cyn gynted ag y bydd y diffynnydd wedi ei chyflwyno, sy’n lleihau oediadau.
Yn y llysoedd sifil gall pobl yn awr:
- Wneud hawliad am arian ar-lein – gyda dros 3,000 o hawliadau yn cael eu cyflwyno yn y mis cyntaf. Mae achosion yn symud drwy’r system yn gyflymach, ac roedd boddhad defnyddwyr dros 80% yn ystod y peilot.
- Gwneud cais am ysgariad ar-lein – sydd wedi lleihau camgymeriadau wrth wneud cais o 40% i lai na 1%, sy’n arbed amser a thrafferth i bobl yn ystod amser trawmatig.
- Gwneud cais am brofiant ar-lein – sydd hefyd wedi lleihau camgymeriadau, cyflymu’r broses ac sydd â chyfradd boddhad o dros 90%.